Ymchwilio ac asesu lleoliadau ar gyfer ffilmio cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod gofynion y lleoliad ar gyfer gwahanol gynyrchiadau, ynghyd â sgowtio ac argymell lleoliadau priodol.
Mae'n ymwneud â meddu ar wybodaeth dda o safleoedd dichonol, ynghyd â'r gallu i gynnal ymchwil gan defnyddio ffynonellau perthnasol o wybodaeth. Mae'n ymwneud â deall anghenion y cynhyrchiad, ac asesu lleoliadau posib o ran eu haddasrwydd a chost, gan ddwyn i ystyriaeth amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys gofynion timau Dylunio'r Cynhyrchiad, yr Adran Celfi, y tîm Effeithiau Arbennig Ymarferol a'r timau Gwallt, Colur, Gwisgoedd a Dillad.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Rheolwyr Lleoliadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod nifer, mathau a threfn lleoliadau sydd eu hangen ar gyfer cynyrchiadau
- cadarnhau cywirdeb eich gwerthusiad o anghenion y lleoliad gyda'r bobl berthnasol
- adnabod a defnyddio ffynonellau priodol o wybodaeth i gynorthwyo'ch ymchwil
- trefnu astudiaeth dichonolrwydd o unrhyw leoliadau dieithr er mwyn gwirio'u haddasrwydd
yn erbyn y gofynion
5.
cysylltu â’r awdurdodau perthnasol
i gael gwybod ydy lleoliadau arfaethedig ar gael
6. cymryd lluniau neu fideos clir a disgrifiadol o leoliadau arfaethedig pan fo'u hangen a'u cadw er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol
7. llunio nodiadau manwl a fydd yn fodd ichi gynnal asesiadau rhesymegol o bob lleoliad
8. canfod yr angen am ganiatâd a thrwyddedau yn gysylltiedig â phob lleoliad
9.
nodi’r costau sy'n gysylltiedig gyda defnyddio pob lleoliad
10. cofnodi unrhyw broblemau neu drafferthion sydd wedi'u hadnabod gyda defnyddio pob lleoliad yn unol â gweithdrefnau'r cynhyrchiad
11. cofnodi unrhyw ffactorau hinsoddol, ymarferol, amgylcheddol neu o ran mynediad ac iechyd a diogelwch sy'n debygol o effeithio ar y defnydd o leoliadau
12. ystyried unrhyw oblygiadau cyfreithiol, moesegol neu iechyd a diogelwch o ddefnyddio lleoliad
yn erbyn y gofynion
13.
argymell lleoliadau sy'n cydbwyso anghenion y cynhyrchiad yn erbyn y cyfyngiadau ariannol a logisteg
-
argymell trefniadau ar gyfer argyfwng er mwyn ymdrin â thywydd eithafol neu pan na fydd lleoliadau penodol ar gael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
paramedrau’r gyllideb rydych yn gweithio oddi mewn iddi
sut i ddehongli'r sgript gan ddwyn i ystyriaeth yr angen i ddefnyddio gwahanol leoliadau
- ffynonellau gwybodaeth am leoliadau a sut i fanteisio arnyn nhw
- sut i ganfod pwy sy'n berchen ar leoliadau
- sut i gysylltu gyda'r bobl berthnasol o'r awdurdodau lleol
- y mathau o fudiadau ac unigolion y mae angen caniatâd ganddyn nhw i ddefnyddio lleoliadau
- gwahanol fathau o drwyddedau mae'n bosib y bydd eu hangen wrth ddefnyddio lleoliadau penodol
- cyllideb y lleoliad ar gyfer y cynhyrchiad
- gofynion tebygol pob adran o ran mynediad, allanfeydd a ffynhonnell pŵer
- mathau o ffactorau amgylcheddol a all effeithio ar y defnydd a wneir o leoliad
- ffactorau cyfreithiol neu foesegol a all effeithio ar y defnydd a wneir o leoliad
- agweddau iechyd a diogelwch lleoliad
- sut i gyflwyno'ch argymhellion
Cwmpas/ystod