Goruchwylio cyflwyno cynyrchiadau unwaith y byddan nhw wedi’u cwblhau
URN: SKSP37
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gofalu bod yr holl gyfraniadau wedi'u derbyn a bod deunydd meistr ar gael i'w ddefnyddio.
Mae'n ymwneud â chydgasglu gwaith papur angenrheidiol, cadw copïau o ddeunydd cyflwyno, eu cyflwyno nhw yn ôl yr angen a chadw cofnodion manwl gywir.
Mae'n ymwneud â chasglu cytundebau wedi'u llofnodi'n briodol a dogfennau cyfreithiol perthnasol. Gall y rhain olygu tystysgrif tarddiad, rhestri credyd, dogfennau yswiriant gwallau a hepgoriadau, amserlenni cyflawni a chytundebau gydag asiantau gwerthiannau a dosbarthwyr.
Bydd disgwyl ichi gyflwyno ystod o asedau gan gynnwys lluniau llonydd, cyfweliadau gyda'r cast a chriw a ffilmiau y tu ôl i'r llenni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar y dull cyflwyno deunydd ac i bwy gyda'r bobl briodol
- cadarnhau bod yr holl ddeunydd meistr perthnasol ar y ffurfiau cymeradwy wedi'u cydosod er mwyn medru cynhyrchu sgript ôl gynhyrchu
- llunio a chwblhau dogfennau perthnasol ar ffurfiau sy'n gymeradwy i'r holl gyd-arianwyr
- casglu copïau o gytundebau wedi'u llofnodi'n briodol a dogfennau cyfreithiol perthnasol
- cadarnhau caiff yr holl elfennau eu cofnodi wrth ichi eu derbyn,
- llunio copïau o'r deunyddiau i fodloni gofynion
- cadarnhau bod yr holl waith papur danfonadwy wedi'i gwblhau ac yn y drefn gywir
- cyfeirio at uwch aelodau o staff pan fo cyfarwyddiadau yn aneglur neu pan fo elfennau ar goll
- adnabod a chywiro gwallau neu hepgoriadau heb oedi
- dosbarthu'r holl elfennau i bawb sydd eu hangen fel sydd wedi'u rhagnodi yn y cytundebau
- cadarnhau bod deunydd wedi'i gymeradwyo yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- monitro ac asesu priodoldeb cytundebau dosbarthu a systemau cyflwyno cynnyrch newydd ar gyfer prosiectau
- byrhau cytundebau dosbarthu aneffeithiol yn unol â gofynion cyfundrefnol
- aildrefnu'r swp o hawliau er mwyn gofalu'r effaith barhaus gorau oll ar gyfer prosiectau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cynnwys a gofynion y sgript ôl gynhyrchu, a'r amserlen cyflawni
- y dull cyflawni y cytunwyd arno a derbynnydd y deunydd
- sut i fanteisio ar y dogfennau gofynnol fel sydd wedi'i amlygu yn y deilliannau a chadarnhau eu bod yn gywir ac wedi'u ddiweddaru
- deunyddiau gall fod yn ofynnol gan gynnwys lluniau llonydd, cyfweliadau gyda'r cast a chriw a ffilmiau o'r tu ôl i'r llenni.
- sut i gofnodi gwybodaeth y cynhyrchiad sy'n ymwneud â monitro'r diwydiant fel cyfrifyddion amrywioldeb a charbon
- dogfennau cyfreithiol perthnasol gan gynnwys tystysgrifau tarddiad, rhestri credyd, dogfennau yswiriant gwallau a hepgoriadau, amserlenni cyflawni a chytundebau gydag asiantau gwerthiannau a dosbarthwyr
- pa ddeunydd meistr a gwaith papur cysylltiedig sydd ei angen a sut i ddod o hyd iddyn nhw
- pryd i gyfeirio materion at aelodau uwch o staff
- y rheiny sydd angen deunyddiau cyflawni, gan gynnwys darlledwyr, dosbarthwyr, arddangoswyr ac arianwyr
- sut i gadarnhau eich bod wedi derbyn deunyddiau
- y broses cyhoeddi deunydd hyrwyddo ar wefannau perthnasol
- sut i adnabod a chywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau yn brydlon
- gyda pha gyfryngau ddylech chi gynnal cysylltiad gyda nhw
- sut i fonitro ac ail drin a thrafod cytundebau dosbarthu er mwyn medru hyrwyddo'r prosiect yn y ffordd fwyaf effeithiol posib
- cyflawniad hirdymor a all fod yn ofynnol ar gyfer prosiectau gan gynnwys ail- ddatganiadau, datganiadau mewn tiriogaethau newydd a chydweithio gyda modelau dosbarthu'r dyfodol.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP37
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cwblhau