Darparu deunydd rhyddhau ar gyfer cyflwyno cynyrchiadau

URN: SKSP36
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd a'r wasg ar ffurf cyhoeddiadau fel taflenni ffeithiau, pamffledi, a llyfrynau i gyd-fynd â chynyrchiadau. Mae hefyd yn cynnwys deunydd cyhoeddusrwydd fel hysbyslenni cynyrchiadau, datganiadau i'r wasg, gwefannau cysylltiedig, tudalennau testun a thaflenni ffeithiau.

Mae'n ymwneud ag ysgrifennu, golygu a pharatoi deunyddiau ar gyfer eu cyhoeddi a gwybod pa wybodaeth i'w chyhoeddi a sut i'w chyflwyno yn y ffordd orau yn unol â natur y gynulleidfa. Gall deunydd o'r fath gael ei gynhyrchu yn ystod y cynhyrchiad yn ogystal ag yn ystod y broses ôl gynhyrchu.

Mae'n ymwneud â dangos ymwybyddiaeth o'r ystyriaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â rhyddhau gwybodaeth i'r wasg a'r cyhoedd, yn arbennig pan fo materion sensitif neu gynhennus ynghlwm.

Mae’r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â marchnata cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a chytuno ar yr angen am gyhoeddiadau ôl gynhyrchu a'u gofynion cysylltiedig gyda phobl briodol
  2. adnabod gyda gwneuthurwyr penderfyniadau, yr adnoddau a graddfeydd amser sy'n angenrheidiol i gynhyrchu deunydd rhyddhau
  3. trafod a chytuno ar yr arddull, cynulleidfa bwriadedig, cynnwys, hyd ac ansawdd deunydd rhyddhau gyda phobl briodol
  4. casglu ac asesu deunydd ffeithiol a graffeg o ran eu perthnasedd a'u cywirdeb
  5. paratoi copïau drafft sy'n bodloni'r gofynion
  6. trafod deunydd rhyddhau drafft gyda gwneuthurwyr penderfyniadau ar adegau priodol       
  7. cytuno ar ddeunydd terfynol sy'n cydbwyso anghenion a diddordebau'r gynulleidfa gydag amser, costau a chyfyngiadau cyfreithiol
  8. cyfathrebu'n effeithiol gyda'r bobl berthnasol i gynhyrchu a chyflwyno deunydd rhyddhau yn brydlon a chadw at y gyllideb
  9. gofalu bod y deunydd yn cydymffurfio gyda chanfyddiadau'r gwaith ymchwil, y cynnwys ac arddull y cytunwyd arnyn nhw, y polisi golygyddol a manylion yr argraffiad neu wefan.
  10. adnabod a chywiro unrhyw wallau yn y proflenni cyn gynted â phosib
  11. cadarnhau eich bod wedi gwirio'r holl gynnwys o ran hawlfraint
  12. gofalu eich bod yn cyflwyno a dosbarthu'r cynnyrch fel y cytunwyd
  13. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol ynghylch sut gall y cyhoedd gael y deunyddiau rhyddhau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y polisi golygyddol a sut mae'n effeithio ar y defnydd o ddeunydd
  2. y gynulleidfa fwriadedig a'r goblygiadau ar gyfer dewis deunydd
  3. y graddfeydd amser a'r adnoddau angenrheidiol i gynhyrchu deunydd
  4. gyda phwy mae angen i chi gysylltu a phryd, gan gynnwys  gwneuthurwyr penderfyniadau, dylunwyr, argraffwyr a chyhoeddwyr
  5. diben, cwmpas, arddull a ffurf y deunydd
  6. y cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol sy'n gysylltiedig â chyhoeddiadau gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â materion sensitif neu gynhennus
  7. sut i gadarnhau bod gwiriadau hawlfraint wedi'u rhoi mewn grym ar gyfer yr holl gynnwys sydd wedi'i ryddhau
  8. sut i adnabod a chywiro gwallau a hepgoriadau mewn proflenni
  9. defnydd o ddeunydd blasu a deunydd tu ôl i’r llenni ar y cyfryngau cymdeithasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP36

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Deunydd Rhyddhau