Goruchwylio golygu cynyrchiadau Teledu
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â goruchwylio golygu rhaglen deledu. Gall hyn fod ar gyfer cyfres gyflawn, rhaglen unigol neu fewnosodiadau i'w ymgorffori.
Mae'n ymwneud â chydweithio gyda'r golygyddion ar-lein ac all-lein a'r cymysgydd tros-seinio gan ofalu eich bod wedi derbyn yr holl ganiatâd priodol.
Mae hefyd yn ymwneud â chydweithio gydag uwch weithwyr er mwyn gofalu eich bod yn cyflawni'r weledigaeth ddymunol ar gyfer y cynnyrch terfynol. Bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth anghenion technegol y tîm ôl gynhyrchu ynghyd â gofynion creadigol y cynhyrchiad.
Mae'n bosib na fyddwch yn meddu ar yr amser neu adnoddau i baratoi golygiad ar bapur. Felly bydd angen ichi baratoi dogfennau eraill ichi gyfeirio atyn nhw yn ystod y broses hon.
Bydd hefyd angen ichi fod yn ymwybodol o'r gwahanol ganiatâd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth rhaglenni a cherddoriaeth sydd â'r un pennawd â'r cynhyrchiad.
Bydd angen ichi wirio'r hyd ac amseriadau os ydych chi'n ymwneud â mewnosodiadau a chydweithio'n agos gyda Chynhyrchydd y Gyfres a'r golygydd.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Rheolwyr Cynyrchiadau a Chynhyrchwyr Llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod cynnwys brysluniau a chynigion perthnasol
- dewis a chofnodi cyfweliadau a digwyddiadau ar y pryd sy'n bodlooni'r gofynion
- llunio dogfennau perthnasol i gyfeirio atyn nhw drwy gydol y broses golygu
- cydweithio gydag aelodau'r tîm ôl gynhyrchu i fodloni gofynion o ran ôl gynhyrchu
- cyfnewid gwybodaeth gydag aelodau'r tîm ôl gynhyrchu ar adegau priodol
- cyfathrebu gyda'r sianel neu'r comisiynydd drwy gydol y broses olygu
- gofalu bod y cynnig troslais dewisol yn cyd-fynd â'r llun o ran yr hyd a'r graddliw, heb wyro oddi wrth y sgript y cytunwyd arni.
- gofalu bod y sgriptiau sylwebaeth o'r hyd gofynnol ac â'r cynnwys gofynnol
- cynnig gwybodaeth fanwl gywir i ddylunwyr graffeg ynghylch gofynion ar gyfer teitlau credydau a phenawdau agoriadol a chymeradwyo'r gwaith wedi'i gwblhau
- ysgrifennu deunydd cyhoeddusrwydd realistig a phriodol
- gwirio'r cynnwys er mwyn gofalu ei fod yn cydymffurfio gyda'r costau cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol ac yn bodloni gofynion y darlledwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i strwythuro'r eitem mewn ffordd sy'n adrodd y stori orau
- yr angen am baratoadau a dogfennau perthnasol ynghyd â'r goblygiadau ariannol ynghlwm â llunio golygiad all-lein heb y rhain
- egwyddorion o sut ddylai'r sgript gyflenwi'r lluniau
- sut ddylai graddliw ac arddull y rhaglen fod yn briodol ar gyfer ffurf ac amser darlledu'r rhaglen
- pryd i gyfathrebu gyda'r sianel neu gomisiynydd yn ystod y broses olygu
- defnydd a phwysigrwydd cerddoriaeth yn y trac sain a'r goblygiadau logisteg ac ariannol o ddefnyddio gwahanol ffynonellau cerddoriaeth
- bod yn ymwybodol o'r gwahanol ganiatâd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth rhaglen a cherddoriaeth teitl ac a oes angen caniatâd arbennig ar gyfer cerddoriaeth teitlau
- sut i oruchwylio sesiwn recordio troslais
- sut i ysgrifennu sgriptiau sylwebaeth gennych chi a gyda chyflwynydd
- pa ddeunydd ffynhonell fydd o bosib ei angen gan yr arlunydd graffeg
- sut i gydnabod cyfleoedd ar gyfer lluniau cyhoeddusrwydd llonydd, copïau a phresenoldeb ar-lein
- pa wybodaeth i'w cynnwys mewn deunydd cyhoeddusrwydd gan gynnwys hysbyslenni
- y materion cyfreithiol a moesegol sy'n effeithio ar ddeunydd darlledu a sut i fanteisio ar gyngor am ddeunydd gall fod yn sensitif
- sut i gydweithio gydag eraill
- sut i gynnig cyfarwyddiadau eglur gan fod yn barod i dderbyn awgrymiadau pobl eraill