Cynorthwyo gyda’r broses ôl gynhyrchu
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyfathrebu gyda'r amryw adrannau sydd ynghlwm â'r broses ôl gynhyrchu a gofalu caiff eu gofynion eu bodloni erbyn y dyddiadau cau y cytunwyd arnyn nhw.
Mae'n ymwneud â chadw cysylltiad agos gyda phawb sydd ynghlwm â'r broses ôl gynhyrchu, gan gyfeirio'n uwch at y goruchwyliwr ôl gynhyrchu neu'r cynhyrchydd, fel sy'n briodol.
Mae dealltwriaeth sylfaenol o'r broses ôl gynhyrchu a therminoleg dechnegol yn hanfodol. Mae hyn yn golygu gwybodaeth am Effeithiau Gweledol (VFX), llif gwaith di-dâp, a derbyn a phrosesu metadata. Yn aml iawn byddwch yn gweithredu fel y pwynt cyswllt rhwng y cynhyrchydd a'r tîm ôl gynhyrchu, gan reoli amserlenni sy'n newid yn barhaus ac ail-ysgrifennu archebion mewn pensel o ganlyniad.
Hefyd mae'n bosib y bydd angen ichi fod yn ymwybodol o orfodaethau cyflwyno cytundebol y cynhyrchiad a chydweithio gyda'r tîm ôl gynhyrchu er mwyn gofalu caiff y gorfodaethau eu bodloni. Mae hyn yn golygu cyflwyno perfformiad a chyflwyno ar bapur.
Mae'r Safon hon ar gyfer Cydlynwyr Cynhyrchu a Golygyddion Iau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofalu eich bod bob amser yn ymwybodol o'r amserlenni ôl gynhyrchu
- cysylltu gyda'r bobl berthnasol i ganfod eu gofynion er mwyn gofalu bod y broses ôl gynhyrchu'n rhwydd a di-drafferth
- egluro'r union ofynion pan fo nhw'n amwys neu pan fo diffyg manylion
- cynnal gweithgareddau a thasgau rydych yn gyfrifol amdanyn nhw yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gofalu caiff yr holl ddeunyddiau a gwaith papur cysylltiedig angenrheidiol eu cyflwyno i'r timau ôl gynhyrchu pan fo'n briodol
- cadarnhau eich bod chi wedi derbyn yr holl ganiatâd gofynnol er mwyn bodloni gofynion
- cyfeirio unrhyw drafferthion neu broblemau gyda gwaith ôl gynhyrchu i'r bobl briodol
- cyfathrebu'n rheolaidd gyda'r holl adrannau sydd ynghlwm â'r broses ôl gynhyrchu
- gwirio ydy'r cyfarpar, cyfleusterau a pherfformwyr angenrheidiol ar gael yn ogystal â gwirio'u costau
- trefnu archebion a phrynu eitemau ac ati gan ofalu eich bod yn cadw at y gyllideb
- monitro cyflenwadau gan ddwyn i ystyriaeth yr archebion a phryniannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion yr amserlen ôl gynhyrchu
- eich lefel eich hun o gyfrifoldebau o ran y broses ôl gynhyrchu
- pryd i gyfeirio materion at aelodau uwch o staff a phwy ddylech chi gyfeirio'r materion atyn nhw
- pryd a sut i flaenoriaethu tasgau
- pryd a sut i gyd-drefnu caniatâd priodol
- dulliau o gyfathrebu gyda phobl briodol
- sut i reoli dyddiaduron ar gyfer cynhyrchwyr, y tîm ôl gynhyrchu, cyfleusterau a pherfformwyr
- sut i ddod o hyd i dywyswyr, darparwyr cyfarpar a chyfleusterau a pherfformwyr
- sut i wirio argaeledd a chost
- sut i archebu a phrynu'n defnyddio archebion a ffurflenni archebu priodol yn unol â'r cyfarwyddiadau
- sut i fonitro cyflenwadau
- sut i gyd-drefnu'r teithio a lletyau i berfformwyr pan fo'i angen
- sut i gyd-drefnu symud deunyddiau ffilm
- sut i wneud archebion theatr a rhagolygon
- y broses ôl gynhyrchu a'r derminoleg dechnegol ar gyfer lluniau a sain yn y broses ôl gynhyrchu
- Effeithiau Gweledol (VFX), llifoedd gwaith cynhyrchu, amlyncu a phrosesu metadata
- sut i drefnu sesiynau ôl gydamseru pan fo'n briodol
- y broses ar gyfer gofalu fod y credydau a diolchiadau yn gywir