Goruchwylio’r broses ôl gynhyrchu
URN: SKSP33
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio, cyllidebu a monitro cynnydd yr amserlen ôl gynhyrchu.
Mae'n ymwneud â chyfathrebu'n agos gyda'r bobl berthnasol a gofalu eu bod yn meddu ar bopeth sydd eu hangen i weithio'n effeithiol.
Mae'n ymwneud â gofalu fod y cyfnod ôl gynhyrchu'n rhedeg yn rhwydd ac yn ddidrafferth, gan ddirprwyo gweithgareddau allweddol fel sy'n briodol. Fe all gwybodaeth am feddalwedd ôl gynhyrchu fod yn fanteisiol.
Mae'r Safon hon yn canolbwyntio ar ddyletswyddau goruchwyliol y tîm cynhyrchu yn hytrach na'r prosesau technegol gaiff eu rhoi ar waith yn y cyfnod ôl gynhyrchu.
Mae'r Safon hon ar gyfer Cynhyrchwyr Llinell, Cydlynwyr Ôl Gynhyrchu a Rheolwyr Cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio a chytuno ar amserlenni ôl gynhyrchu gyda'r bobl briodol gan adnabod y prif weithgareddau i'w cwblhau.
- cynllunio deilliannau i fodloni gofynion y partneriaid neu ddarlledwr wrth weithio ar gydgynyrchiadau
- dewis, trin a thrafod a chytuno ar wasanaethau ôl gynhyrchu a chriw i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cyfleu gofynion y cyfarwyddyd a sgript greadigol wreiddiol i'r rheiny sy'n rhan o'r broses ôl gynhyrchu ar adegau priodol
- rhagnodi deilliannau a meini prawf eglur ar gyfer golygu
- monitro deilliannau ôl gynhyrchu gan ddwyn i ystyriaeth gofynion penodol yn rheolaidd
- monitro costau ariannol yn barhaus
- adolygu adrannau ôl gynhyrchu cyllidebau'n rheolaidd a gwneud addasiadau pan fo'u hangen
- paratoi amcan brisiau ar gyfer adroddiadau costau gyda chyfrifwyr cynhyrchu pan yn briodol
- cyfeirio at y bobl berthnasol pan fo cynnydd yn debygol o effeithio ar yr amserlen
- cynnal rhwydwaith o gysylltiadau priodol i'w defnyddio pan fyddwch yn wynebu problemau gyda'r broses ôl gynhyrchu
- cadarnhau gofynion ôl gynhyrchu gan y criw, cyflenwyr, talentau creadigol a gweithredwyr ar adegau priodol
- cadarnhau eich bod yn cydymffurfio gyda'r holl weithdrefnau yn ymwneud â lladradau a chaniatâd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- llwybr critigol y broses ôl gynhyrchu
- sut i gyfrifo cost cyfleusterau a chriw'r broses ôl gynhyrchu o'i gymharu â pharamedrau'r gyllideb sydd wedi'u cyfrifo eisoes
- deilliannau'r cynhyrchiad sy'n ofynnol ar gyfer cydgynyrchiadau
- gwasanaethau a chriw'r broses ôl gynhyrchu gan gynnwys golygyddion, cyfarpar, llunio trac sain a chymathu
- sut i gyllidebu'r deilliannau yn gywir
- unrhyw berthnasau sydd eisoes yn bodoli rhwng y cynhyrchydd neu'r cyfarwyddwr a'r criw ôl gynhyrchu arfaethedig
- defnyddiau, a'r angen am, amryw eitemau sy'n ofynnol ac sydd wedi'u cynhyrchu gan yr adran ôl gynhyrchu
- y prosesau ynghlwm â chynhyrchu teitlau ac effeithiau arbennig
- y prosesau ynghlwm â recordio cerddoriaeth
- y gweithdrefnau ynghlwm â chreu elfennau digidol ar ffilm
- elfennau a ffurfiau gofynnol y cynnyrch terfynol
- manylion allweddol contractau a chytundebau
- y gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer lladradau a chaniatâd a sut i ofalu eich bod yn eu bodloni
- sut i fonitro cynnydd gyda'r lefel gywir o ymrwymiad heb gythruddo'r criw creadigol
- pwy ddylech chi eu hysbysu ynghylch ddiffyg cynnydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP33
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Ôl gynhyrchu, Goruchwylio