Rheoli Gwariant y cynhyrchiad
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheolaeth gyffredinol o wariant y cynhyrchiad yn erbyn y gyllideb y cytunwyd arni.
Mae'n ymwneud â monitro a rheoli gwariant yn unol â'r gyllideb a goruchwylio'r gwaith paratoi adroddiadau ariannol rheolaidd ar gyfer y comisiynydd, cyllidwr neu warantwr cwblhau.
Mae hefyd yn ymwneud â medru adnabod meysydd sy'n achosi pryder yn ymwneud â'r gwariant dyddiol ynghyd â dod o hyd i adnoddau i dalu am y costau hyn.
Mae'n ymwneud â gweithredu'n briodol pan fo amrywiaethau sylweddol i'r gyllideb a chyflwyno'r wybodaeth hyn i'r bobl berthnasol yn brydlon.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cynhyrchwyr Llinell, Cyfrifwyr Cynyrchiadau a Rheolwyr Cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfarwyddo aelodau'r tîm cynhyrchu ynghlych systemau rheoli a monitro gwariant ar adegau priodol
- cadarnhau bod y bobl berthnasol yn ymwybodol o sut i lunio adroddiadau gwariant a gwybodaeth gysylltiedig
- cadarnhau bod penaethiaid adrannau yn meddu ar yr wybodaeth gyfredol am y gyllideb sydd ar gael ynghyd â gwariant a gweithdrefnau i'w gweithredu pan fo nhw'n rhagweld amrywiadau neu orwario
- neilltuo cyfrifoldeb dros fonitro a rheoli gwariant i'r bobl briodol
- awdurdodi gwariant yn unol â'r gweithdrefnau cynhyrchu
- gofalu y caiff manylion gwariant eu cofnodi ar becyn cyfrifiadurol priodol a chyfaddas
- gwirio bod y gwariant sydd grybwyll yn yr adroddiadau yn cyd-fynd â'r gyllideb
- trafod amrywiaethau yn y gyllideb gyda chyfrifwyr y cynhyrchiad pan fo'n briodol
- cynnig adroddiadau ariannol cywir a diweddar pan fo'u hangen
- cofnodi cynnydd yn unol â'r gyllideb i gydweithwyr perthnasol sy'n gweithio ar y cynhyrchiad
- defnyddio dulliau dibynadwy a chyson o fonitro gwariant o gymharu â'r cyllidebau y cytunwyd arnyn nhw
- rhagweld meysydd o orwario dichonol o'r wybodaeth yn yr adroddiadau gwariant dyddiol
- trin a thrafod a chytuno ar unrhyw amrywiaethau gofynnol rhwng neu o fewn penawdau'r gyllideb er mwyn bodloni cyfyngiadau'r gyllideb
- cofnodi crynodeb eglur o'r gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw
- rhannu penderfyniadau ynghylch cyllidebau gyda'r bobl briodol heb oedi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli adroddiadau gwariant, gan gynnwys datganiadau costau wythnosol, llif arian, adroddiadau costau, adroddiadau costau dyddiol o gymharu â'r costau sydd wedi'u rhagamcan yn y gyllideb (Hot costs) a chynlluniau cyllid
- pwysigrwydd rheoli gwariant yn effeithiol i sicrhau bod y cynhyrchiad yn effeithlon a'ch dyletswydd a chyfrifoldebau ynghlwm â hyn
- yr egwyddorion a systemau sy'n tanategu rheolaeth gwariant effeithiol
- sut i gadarnhau ymrwymiad pobl eraill tuag at ofalu bod y gwariant o fewn paramedrau'r gyllideb y cytunwyd arnyn nhw
- gweithdrefnau yn ymwneud ag amrywiaethau wedi'u rhagweld neu orwario
- pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr a sut i sefydlu systemau i gyflawni hyn
- manteision ac anfanteision gwahanol becynnau rheoli cyllidebu a gwariant
- egwyddorion cyfrinachedd yn ymwneud â chyllidebau a pha wybodaeth gellir ei rhannu gyda phwy
- gofynion cofnodi ariannol
- pwysigrwydd monitro gwariant yn erbyn cyllidebau a beth sy'n gyfwerth ag amrywiaeth sylweddol o'r gyllideb
- gweithdrefnau cynhyrchu ar gyfer awdurdodi taliadau
- pwysigrwydd rheoli cyllidebau'n effeithiol er mwyn gofalu bod y cynhyrchiad yn effeithiol ynghyd â'ch dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau yn ymwneud â hyn
- sut i lunio a chyflwyno adroddiadau ariannol cywir
- cydweithwyr perthnasol y dylech roi gwybodaeth am gynnydd iddyn nhw, gan gynnwys arianwyr, gwarantwyr cwblhau a darlledwyr
- sut i ofalu caiff amodau a gofynion y bond cwblhau eu bodloni