Cynorthwyo gyda chynyrchiadau aml-ffynhonnell byw
URN: SKSP31
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon ymwneud ag amseru'r cynhyrchiad, ymwneud gyda rheolwyr y rhwydwaith a chyflwyniad.
Mae'n ymwneud â chyfrifo hyd bob dilyniant, a'r rhaglen gyfan, gan gyfri cyn ac ar ôl dilyniannau wedi'u recordio ymlaen llaw, monitro amseriadau, adnabod unrhyw glipiau sy'n gor-redeg neu'n dan-redeg, ail-gyfrifo amseriadau pan fo newidiadau, a chyfathrebu'n agos gyda rheolwyr y rhwydwaith.
Mae'r Safon hon yn arbennig yn bennaf ar gyfer Goruchwylwyr Sgriptiau yn gweithio ar gynyrchiadau Chwaraeon, Cerddoriaeth, Adloniant Ysgafn neu Ddigwyddiadau Darlledu yn yr Awyr Agored.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod cynnwys y rhaglen sydd angen ei ohebu a chynghori rheolwyr y rhwydwaith
- cyfrifo hyd bob dilyniant ynghyd ag amser y rhaglenni, gan eu monitro drwy gydol y rhaglen gyfan
- gwirio bod arbenigwyr cyfri bariau ar gael pan fo'u hangen
- cyfri tuag at fannau penodol mewn rhaglenni yn fanwl gywir
- cyfri cyn ac ar ôl mewnosodiadau wedi'u recordio ymlaen llaw yn fanwl gywir
- cynnig rhybuddion modd segur i weithredwyr fideo gan gynnig ciwiau iddyn nhw pan fo'n briodol
- hysbysu'r bobl briodol ar unwaith o unrhyw anghysonderau sylweddol rhwng union hyd dilyniannau ac amseriadau wedi'u hamcan neu amseriadau ymarferion
- cyfrifo a chofnodi addasiadau i amseriadau yn sgil newidiadau i gynnwys y rhaglen a'r drefn rhedeg i'r bobl berthnasol ar unwaith
- cyfrifo a chofnodi'r amser gofynnol ar gyfer hyd y rhaglen gyfan i'r bobl berthnasol pan fo eitemau o hyd hyblyg yn rhan o'r rhaglen
- defnyddio dulliau amseru sy'n ddibynadwy ac yn berthnasol i natur y cynhyrchiad
- pennu'r union amseroedd cychwyn a gorffen ac amseroedd rhedeg y rhaglen
- meddu ar union fanylion dolenni gweledol neu sain
- rhannu gwybodaeth eglur am amser a hyd unrhyw egwyliau sydd wedi'u trefnu yn y rhaglen ac unrhyw gyfyngiadau o ran eu safle i aelodau priodol o'r tîm cynhyrchu
- trosglwyddo dolenni gweledol neu sain ar gychwyn neu ddiwedd rhaglen i reolwyr y rhwydwaith neu dîm arwain y cyflwyniad er mwyn gofalu bod y trosglwyddiad yn rhwydd a didrafferth
- cofnodi gwybodaeth brydlon a manwl gywir am or-redeg neu dan-redeg mewn rhaglenni i reolwyr y rhwydwaith neu dîm arwain y cyflwyniad
- hysbysu rheolwyr y rhwydwaith neu'r swyddog dyletswydd am unrhyw gynnwys y rhaglen rydych chi'n eu hadnabod sydd angen eu cofnodi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i hysbysu rheolwyr y rhwydwaith o'r cynnwys gaiff ei gofnodi
- sut i gyfrifo amseriadau ac amrywiaethau i amseriadau
- sut i gyfri tuag at fannau penodol
- pryd bydd angen cyfri bariau
- sut i gyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu a'r tîm technegol a gyda pherfformwyr a chyfranwyr
- gwahanol ddulliau amseru a sut i'w defnyddio
- pa weithdrefnau cyfri i'w defnyddio
- y termau technegol i'w defnyddio
- sut i fynd i'r afael gyda gwahanol fathau o gynnwys i raglenni
- sut i fynd i'r afael gyda deunydd yn gor-redeg neu'n tan-redeg
- gweithdrefnau trin a thrafod a sut i'w defnyddio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP31
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Byw, Aml-ffynhonnell