Cynorthwyo gweithrediadau galeri a chynhyrchu cynyrchiadau aml-ffynhonnell wedi’u recordio
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro gweithgareddau cynhyrchu yn ystod sesiynau recordio a galw'r rhifau saethiadau cywir o'r sgriptiau yn y drefn gywir ac ar amser. Mae'n ymwneud â bwrw golwg ar y saethiad nesaf neu sydd ar y gweill ar y monitor a'u cymharu gyda'r sgript.
Mae'n ymwneud â chadarnhau a gweithredu cyfarwyddiadau'r cyfarwyddwr ar gyfer newidiadau i'r saethiadau a thrafod y rhain yn eglur gyda'r bobl briodol.
Mae'n ymwneud â chyfrifo hyd bob dilyniant a rhaglenni cyflawn, gan gyfri cyn ac ar ôl dilyniannau wedi'u recordio ymlaen llaw, monitro amseriadau, adnabod unrhyw adegau lle mae'r ffilmio'n rhy hir neu'n rhy fyr, ac ail-gyfrifo amseriadau pan fo newidiadau.
Mae'n ymwneud â chofnodi cynigion a llunio nodiadau golygu manwl gywir. Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Goruchwylwyr Sgriptiau a Chydlynwyr Cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno ac uwch lwytho sgriptiau i'w defnyddio ar systemau priodol
- paratoi cardiau camera a chiwiau a gwirio bod y rhain yn gywir o gymharu â gofynion y cynhyrchiad
- galw'r rhif saethiad cywir o'r sgriptiau yn y drefn gywir, ac ar amser
- bwrw golwg ar a chyhoeddi'r saethiadau nesaf neu sydd ar y gweill ar y monitorau a'u cymharu gyda'r sgriptiau
- cynnig rhybuddion modd segur i weithredwyr fideo gan gynnig ciwiau iddyn nhw pan fo'u hangen
- rhoi gwybod i gyfarwyddwyr heb oedi os oed yna unrhyw anghysonderau rhwng y sgript y cytunwyd arni a'r ffynhonnell nesaf neu sydd ar y gweill
- cadarnhau a gweithredu cyfarwyddiadau'r cyfarwyddwr ar gyfer newidiadau i saethiadau gan roi gwybod i'r bobl briodol am y newidiadau
- llunio cyfrifiadau manwl gywir o hyd y rhaglenni a phob dilyniant
- monitro amseriadau dilyniannau drwy gydol y rhaglen er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cyfri'r mewnosodiadau wedi'u recordio ymlaen llaw cyn dechrau ac ar ôl gorffen ffilmio yn fanwl gywir
- cynnig cyfrifiad manwl gywir ac eglur cyn ac ar ôl mannau penodol mewn rhaglenni, sy'n glywadwy i dimau cynhyrchu a thechnegol, perfformwyr a chyfranwyr
- cynnal cymhariaeth fanwl gywir rhwng union amseriadau ac amcanion
- cyflwyno amseriadau ymarferion ac unrhyw anghysonderau sylweddol i'r bobl briodol
- ail-gyfrifo amseriadau pan fo newidiadau i gynnwys rhaglenni a threfn y dilyniant
- cyfrifo'r amser gofynnol er mwyn ffilmio cynnwys sydd yr un hyd â'r rhaglen gyflawn pan fo rhaglenni yn cynnwys eitemau o hyd hyblyg a chyflwyno cyfrifiadau i weithwyr y rhaglenni heb oedi
- monitro perfformiad o gymharu â'r sgript a hysbysu gweithwyr y rhaglen ynghylch unrhyw anghysonderau heb oedi
- llunio cyfeirnod manwl gywir ac eglur ar gyfer pob cynnig, gan gynnwys manylion manwl gywir a chryno o'r cynnwys ac amseriad ar gyfer pob cynnig ynghyd â'r rhesymau dros unrhyw ail-gynigion yn y cofnod
- dosbarthu cofnodion i'r bobl briodol heb oedi
- gwirio fod yr wybodaeth yn y penawdau a deunyddiau rhwydweithio cymdeithasol a hyrwyddo yn fanwl gywir ac yn berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gyflwyno ac uwch lwytho sgriptiau
- pwysigrwydd cardiau camera a chiwiau
- sut i adnabod saethiadau yn eu trefn
- sut i fwrw golwg ar saethiadau sydd ar y gweill o gymharu â'r sgript
- dulliau galw saethiadau a sut i'w defnyddio i alw saethiadau'n fanwl gywir ac yn glywadwy
- sut i gyfrifo amseriadau a monitro dilyniannau
- sut i gyfri'n gywir
- pwy i'w hysbysu o unrhyw anghysonderau
- dulliau cyfathrebu gyda gweithwyr y rhaglen a sut i'w defnyddio
- pam a sut mae newidiadau yn effeithio ar amser rhedeg y rhaglen
- y termau technegol i'w defnyddio
- sut i gyfeirnodi cynigion
- pa wybodaeth i'w chofnodi
- sut i gofnodi anghysonderau neu newidiadau yn y sgript
- sut i ailgyfrifo newidiadau i gynnwys y rhaglen
- sut i greu cyfrif manwl gywir yn y cofnod
- sut i lunio a dosbarthu nodiadau golygu
- sut caiff penawdau eu defnyddio a phwysigrwydd gwirio'u cywirdeb pan fyddwch yn eu defnyddio
- sut i fanteisio ar gyfryngau cymdeithasol i lunio presenoldeb marchnata uniongyrchol