Cyflwyno sgriptiau ar gyfer cynyrchiadau wedi’u sgriptio
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gofalu bod sgriptiau wedi'u comisiynu o safon ofynnol a'u bod yn cydymffurfio gyda'r cyfarwyddyd y cytunwyd arno. Mae'n ymwneud â chynghori ar holl faterion yn ymwneud â sgriptio ynghlwm â'r cynhyrchiad a rheoli'r berthynas rhwng yr ysgrifennwr a'r cynhyrchiad.
Mae hefyd yn ymwneud â chyflwyno sgript neu addasiad dilys ac o safon sydd wedi'i lunio ar y cyd â'r holl bartïon perthnasol.
Bydd angen ichi fod yn ystyriol nad ydy'r broses greadigol, o ran ei natur, yn ddiriaethol. Mae'n rhaid ichi reoli ystod o berthnasau creadigol mewn ffordd hyblyg a chydweithredol, er mwyn llunio sgript o safon.
Mae’r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm ag ysgrifennu sgriptiau gan gynnwys golygyddion ac ysgrifennwyr sgriptiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnig gwybodaeth ddigonol i ysgrifennwyr er mwyn iddyn nhw fedru bodloni'r gofynion o ran arddull, cynnwys a ffurf ynghyd ag unrhyw ystyriaethau arbennig ynghlwm â chyfarwyddiadau cynyrchiadau
- datblygu syniadau creadigol a syniadau ar gyfer straeon sy'n berthnasol i gyfarwyddiadau cynyrchiadau
- gofalu eich bod yn trin y cymeriadau sefydlog yn gyson a bod dilyniant y straeon yn gyson
- gofalu caiff unrhyw ddrafftiau eu cyflwyno i fodloni gofynion erbyn y dyddiad cau
- rhoi gwybod i ysgrifennwyr sgriptiau am y goblygiadau ariannol yn ymwneud â phenderfyniadau golygyddol
- cyfeirio at reolwyr uwch pan fo'n briodol er mwyn mynd i'r afael ag amheuon neu safbwyntiau cystadleuol all godi yn ymwneud â sgriptiau
- cyd-drefnu holl newidiadau i sgriptiau a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol
- gwirio caiff yr holl sgriptiau eu paratoi yn y dulliau gofynnol
- cadarnhau fod holl weithrediadau rhesymol wedi'u cyflawni er mwyn osgoi troseddau hawlfraint, enllibion neu ddifenwad. Hefyd cynnal gwiriadau i ofalu nad ydy enwau'r cymeriadau yn debyg i enwau pobl go iawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- lle i fanteisio ar wybodaeth yn ymwneud â chyfyngiadau cyllidebau ar gyfer datblygu sgriptiau
- sut i asesu effeithiau penderfyniadau golygyddol ar gyllid
- y goblygiadau cyfreithiol ynghlwm â'r broses cynhyrchu, gan gynnwys y ddeddf hawlfraint a chytundebau gydag urddau'r diwydiant
- sut dylid strwythuro a chyflwyno sgriptiau
- sut i gydweithio'n greadigol gydag ysgrifennwyr ar y plot a chymeriadaeth
- sut i helpu ysgrifennwyr i lunio darnau o ysgrifennu creadigol ar gyfer ffilm a theledu yn defnyddio syniadau effeithiol
- sut i gydweithio'n synhwyrol gydag ysgrifennwyr er mwyn meithrin eu gallu i ysgrifennu sgriptiau
- sut i gydbwyso anghenion y cynhyrchiad gydag anghenion yr ysgrifennwyr
- sut i ofalu bod yr ysgrifennydd yn cyflawni'r tôn a chynnwys priodol ar gyfer cymeriadau a lleoliadau mewn sgriptiau.
- sut i reoli'r broses datblygu er mwyn cyflwyno sgriptiau o safon yn brydlon ac oddi fewn y gyllideb