Monitro a rheoli cynnydd cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gofalu fod pawb yn ymwybodol o'u disgwyliadau a chân nhw eu hysbysu am unrhyw newidiadau i amserlenni.
Mae'n ymwneud â monitro cynnydd amserlenni a chyfathrebu gyda'r rheiny sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad.
Mae'n ymwneud ag adnabod unrhyw anghysonderau rhwng union gynnydd a chynnydd rydych chi wedi'i gynllunio ynghyd ag awgrymu datrysiadau realistig i broblemau.
Mae'n ymwneud â chyfiawnhau unrhyw newidiadau i amserlenni o ran costau a logisteg a gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda'r holl gytundebau cyflogaeth, cyfreithiol a chytundebol.
Mae'n ymwneud â deall a rheoli ystod o ddogfennau fel adroddiadau diwedd diwrnodau ffilmio, adroddiadau dilyniant, datganiadau cost ac adroddiadau cost. Fe all hefyd ymwneud â datrys unrhyw ddadleuon yn effeithiol neu drîn trafferthion cyfathrebu rhwng aelodau'r cast a chriw mewn ffordd amserol a sensitif.
Mae'r Safon hon ar gyfer Rheolwyr Cynhyrchu a Chydlynwyr Cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofalu fod pawb yn ymwybodol o'u disgwyliadau yn ystod holl gamau'r cynyrchiadau gan gynnal cyfarfodydd rheolaidd ynghylch y cynhyrchiad
- sefydlu systemau cyfathrebu sy'n gofalu bod yr wybodaeth yn llifo'n effeithlon
- cytuno gyda phobl berthnasol bod yr amserlenni'n realistig ac yn gyraeddadwy yn defnyddio gwybodaeth o ragchwiliadau technegol
- adnabod problemau dichonol a chynllunio tuag at argyfyngau adnabyddadwy
- gofalu fod pawb yn deall ac yn cydymffurfio gyda'r holl gytundebau cyflogaeth, cyfreithiol, iechyd a diogelwch, yswiriant a chytundebol ac yn eu dwyn i ystyriaeth yn yr amserlenni sydd wedi'u cynllunio
- cynnal asesiadau risg parhaus yn ystod cynyrchiadau er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn paratoi adroddiadau cynnydd rheolaidd a chynnal gwiriadau manwl gywir o gynnydd i gymharu â'r taflenni galwadau
- adnabod y rhesymau dros, ac awgrymu datrysiadau realistig i unrhyw anghysonderau rhwng union gynnydd a chynnydd wedi'i gynllunio ymlaen llaw
- cyfiawnhau unrhyw newidiadau i amserlenni o ran cost a logisteg i awdurdodau priodol
- rhoi gwybod i gydweithwyr priodol ynghylch newidiadau i'r amserlenni'r cynhyrchiad heb oedi
- datrys dadleuon neu drafferthion cyfathrebu rhwng aelodau'r cast neu griw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i reoli cyfarfodydd rheolaidd ynghylch y cynhyrchiad er mwyn gofalu bod cyfathrebu effeithiol rhwng pawb sydd ynghlwm
- unrhyw anghysonderau rhwng yr union gynnydd a'r cynnydd wedi'i gynllunio ymlaen llaw
- gwahanol fathau o systemau cyfathrebu a sut a phryd ydy'r adeg gorau i'w rhoi ar waith
- pryd mae'n angenrheidiol gwneud newidiadau i'r amserlen neu'r cynnwys a sut i gyfiawnhau'r newidiadau o ran cost, logisteg ac iechyd a diogelwch
- pwy sydd angen eu hysbysu am newidiadau i amserlenni?
- sut i reoli dogfennau'r cynhyrchiad gan gynnwys adroddiadau diwedd diwrnodau ffilmio, adroddiadau dilyniant, datganiadau cost ac adroddiadau cost
- rheoliadau cyflogaeth, cyfreithiol, yswiriant, cytundebol ac iechyd a diogelwch a sut allan nhw effeithio ar yr amserlen
- pa ffactorau all achosi oedi i gynyrchiadau a'r angen am gynllunio ar gyfer argyfyngau
- ffyrdd effeithiol o ddatrys dadleuon rhwng aelodau'r cast a chriw
- sut i gasglu gwybodaeth angenrheidiol er mwyn paratoi adroddiadau cynnydd a chyfeirnodi'r rhain yn erbyn y daflen alwad
- sut i gyflwyno rhesymau a chyfiawnhau newidiadau i'r amserlen