Rheoli amserlenni ffilmio dyddiol ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSP28
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio saethiad y diwrnod gan ofalu eich bod yn manteisio i'r eithaf ar yr amser sydd ar gael a'ch bod yn cyflawni'r gwaith erbyn y dyddiadau cau.

Mae'n ymwneud â gofalu caiff goramser ond ei gytuno gyda chymeradwyaeth ymlaen llaw a chaiff perfformwyr eu rhyddhau ar amser.

Bydd angen ichi ddangos dull hyblyg, gan ymateb i newidiadau wrth iddyn nhw ddigwydd a phan maen nhw'n digwydd. Bydd hefyd angen ichi ofalu y caiff yr wybodaeth hon ei chyflwyno i'r cast a'r criw yn y daflen alwad ac y caiff diwygiadau eu cyflwyno'n brydlon.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y Rheolwr Cynhyrchu neu Gyfarwyddwyr Cynorthwyol 1af ar gyfer Cynyrchiadau Drama a Chynhyrchwyr neu Gyfarwyddwyr Cynyrchiadau Ffeithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynllunio saethiad y dydd gan ddwyn i ystyriaeth argyfyngau ac opsiynau
  2. adolygu trefniadau a gwneud addasiadau er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad yn well
  3. rheoli'r saethiad er mwyn gofalu eich bod yn manteisio i'r eithaf ar yr amser sydd ar gael
  4. gofalu eich bod yn bodloni'r holl dargedau cynhyrchu a terfynau amser

  5. cyfathrebu gyda'r holl adrannau perthnasol yn rheolaidd

  6. gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau iechyd a diogelwch
  7. mynd i'r afael â materion brys, pan fo nhw'n codi, ar y cyd â gweithwyr cynhyrchu priodol  
  8. gofalu nad oes unrhyw un yn gweithio heibio i'w horiau heb ymgynghori gyda chynhyrchwyr llinell neu reolwyr cynhyrchu
  9. gofalu eich bod yn rhyddhau perfformwyr a pherfformwyr cefnogol yn brydlon
  10. cadarnhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar y daflen alwad a ​bod unrhyw ddiwygiadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r cast a'r criw ar adegau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae gofynion Iechyd a Diogelwch yn effeithio ar weithgareddau ffilmio
  2. goblygiadau'r Rheoliadau Amser Gweithio ar oriau gwaith a threfniadau goramser
  3. y cyfreithiau trwyddedu sy'n llywodraethu caniatâd gweithio i blant ynghyd â'r cyrff a'r graddfeydd amser priodol ynghlwm â'u prosesu
  4. trefniadau a gweithdrefnau cytundebol, gofynion cyfreithiol a moesegol a rhwymedigaethau yn gysylltiedig â chydweithio gyda pherfformwyr cefnogol
  5. y mathau o ffactorau amgylcheddol a all effeithio ar ddefnyddio lleoliad
  6. y targedau a dyddiadau cau ynghlwm â'r cynhyrchiad
  7. sut i gynllunio ar gyfer argyfyngau annisgwyl
  8. sut i rannu'r wybodaeth hon gyda'r cast a'r criw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP28

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Amserlen