Cynhyrchu ffilmio ar leoliad ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu ffilmio ar leoliad. Gall hyn fod yn rhaglen gyflawn neu fewnosodiadau i'w cynnwys mewn rhaglen.
Mae'n ymwneud â chynllunio'r gwaith ffilmio, strwythuro'r stori a chydweithio gyda'r criw camera a sain ar leoliad. Mae hefyd yn ymwneud â deall ffurfiau'r camera a goruchwylio trosglwyddo neu gludo data i'r cyfleusterau ôl gynhyrchu.
Bydd angen ichi fod yn drefnus er mwyn gofalu na chaiff y cyfarpar ei gamgadw, ei golli neu ei ddifrodi. Bydd angen ichi ddangos eich bod yn ymwybodol o amseriadau gofynnol ar gyfer cynyrchiadau a gofalu eich bod chi'n eu bodloni. Os ydych chi'n ffilmio mewnosodiad ar gyfer rhaglen, bydd angen ichi wybod arddull a ffurf y cynhyrchiad ynghyd â hyd gofynnol y darn.
Mae'n bosib y byddwch yn gweithio ar eich liwt eich hun, neu mae'n bosib y bydd angen ichi gynllunio ar gyfer criw ac adnoddau cywir i ddiwallu anghenion y cynhyrchiad. Mae'n bwysig gofalu eich bod yn gweithio'n effeithiol gan gydymffurfio â'r amserlen a'r amseriadau y cytunwyd arnyn nhw er mwyn ffilmio'r saethiadau gofynnol.
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn dwyn i ystyriaeth y ffactorau amgylcheddol fel gwres, oerni, glaw neu dywod wrth gadw data oherwydd fe all y rhain niweidio'r saethiadau rydych wedi'u ffilmio.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio ar leoliad ac fe all fod yn berthnasol i swyddi Sain, Ffotograffiaeth, Cynhyrchu neu Gyfarwyddo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- penderfynu sut i adrodd y stori er mwyn cydymffurfio gyda gofynion cynnwys ac arddull y cynyrchiadau
- dewis cyfweledigion a chyfranwyr sy'n addas ar gyfer y cynyrchiadau
- cymeradwyo'r dewis o leoliadau gan ddwyn i ystyriaeth gofynion y cynhyrchiad a gwirio eich bod yn derbyn y caniatâd perthnasol
- cynllunio'r cynnwys, strwythur, cefndiroedd a meintiau saethiadau'r cyfweliadau er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cynllunio saethiadau lleoliadau er mwyn creu'r lluniau mwyaf syfrdanol a dangos yr hynny sy'n bosib ei gyflawni
- pennu hyd, cymhareb agwedd a ffurf ffilmio'r mewnosodiad er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cyfarwyddo'r criw neu gyflwynwyr yn drylwyr cyn ffilmio gan fod yn barod i dderbyn eu hawgrymiadau
- penderfynu ar y cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen arnoch chi, eu harchebu a'u gwirio cyn y diwrnod ffilmio os ydych chi'n ffilmio ar eich pen eich hun
- cofnodi a labelu'r holl ddata yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- casglu a chadw data mewn ffordd ddiogel a phriodol
- creu sawl copi o'r data rydych yn ei gasglu er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cynnig cyfarwyddiadau eglur i gyfranwyr, criw neu gyflwynwyr ar adegau priodol
- gwneud penderfyniadau sy'n gofalu bod modd ichi gadw at yr amserlenni heb gyfaddawdu eitemau wedi'u cwblhau pan fo oedi
- trefnu sgriptiau'r cyflwynwyr i'r camera er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad, penderfynu pa gwestiynau ychwanegol sydd eu hangen a pha gwestiynau sydd angen eu hailadrodd fel ffilmiau cadarnhaol
- trafod yr union ofynion technegol yn ymwneud â'r ffilmio gyda'r cast a chriw cyn mynd ati i ffilmio
- pennu ymlaen llaw oes angen i'r criw fod yn anymwthgar a chynllunio er mwyn gofalu eich bod yn cyflawni hyn
- gofalu eich bod yn gweithredu'r gweithdrefnau priodol er mwyn cynhyrchu cynnyrch ffilm sydd o safon darlledu
- gofalu bod cyfranwyr a pherchnogion lleoliadau yn llofnodi ffurflenni caniatâd a rhyddhau ar adegau priodol
- gadael lleoliadau ar ddiwedd diwrnod ffilmio gan ofalu bod cyflwr y lleoliadau'n union fel oedden nhw pan gyrhaeddoch chi
- pacio a dychwelyd cyfarpar a deunyddiau i bobl briodol yn syth wedi ichi eu defnyddio
- cadarnhau bod gweithwyr ôl gynhyrchu wedi derbyn y data rydych wedi'i gasglu ar y ffurf briodol
- cadarnhau bod asesiad risg cywir a chyfredol wedi'i gyflawni
- cynhyrchu lluniau llonydd a deunydd Cysylltiadau Cyhoeddus effeithiol er mwyn marchnata'r rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffactorau technegol y ffilmio gan gynnwys ffurf y ffilm, amser ffilmio, cymhareb agwedd a'r safle sydd angen eu rhannu gyda'r criw cyn mynd ati i ffilmio
- sut, pryd a pham dylid gofalu bod y camera yn un sy'n cydbwyso lliwiau
- os ydych chi'n ffilmio cynnyrch sgrîn eang, pam a sut ddylech chi fframio pob saethiad er mwyn ei warchod ar gyfer ei ddarlledu ar ffurf teledu
- sut i gofnodi a labelu data'n gywir
- sut i fanteisio i'r eithaf ar yr amser ac adnoddau er mwyn ichi gynnal gwerthoedd cynhyrchu uchel, gan ofalu eich bod yn cwblhau'r rhaglen mewn pryd a'ch bod yn cadw at y gyllideb
- sut i ofalu eich bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau preifatrwydd a thresmasu wrth ffilmio ar leoliad
- yr angen i fod yn hyblyg ac ymateb i ddigwyddiadau sy'n datblygu ar leoliad
- pa saethiadau sydd angen ichi eu ffilmio er mwyn llunio golygfa a fydd yn cyd-fynd a lle na fydd unrhyw broblemau o ran dilyniant
- fframio, cyfansoddiad, dyfnder y maes a galluoedd gwahanol lensys a chamerâu
- sut i ofalu caiff data ei gasglu a'i gadw'n briodol ar leoliad
- sut i greu sawl copi o'r data rydych wedi'i gasglu a gofalu na all y tywydd neu amgylchedd eu niweidio
- pryd mae'n briodol ichi ddefnyddio microffonau radio a'r rhai priodol i'w defnyddio ar gyfer y dasg
- arbenigedd cyfranwyr, criw a chyflwynwyr a sut i ddangos eich bod chi'n cydnabod eu harbenigedd
- pryd fydd angen goleuadau a lle dylid eu gosod yn ddiogel ac yn effeithiol
- lledred amser datguddio, amodau golau trafferthus ac effaith cymysgu golau mewnol ac allanol
- sut i ofalu bod cyflwynwyr a chyfweledigion y perfformio hyd eithaf eu gallu
- sut i gyfweld â chyfranwyr ar y camera
- sut i guddio hunaniaeth cyfweledigion pan yn briodol
- peryglon lluniau sy'n fflachio a sut i olygu dilyniannau o'r fath er mwyn gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda safonau'r diwydiant
- sut i gynnal asesiad risg o'r lleoliad a phwysigrwydd ail-adrodd hyn os oes angen
- sut i ofalu caiff data ei gyflwyno'n effeithlon i weithwyr ôl gynhyrchu
- y gofynion marchnata ar gyfer y cynhyrchiad a sut i dynnu lluniau cyhoeddusrwydd effeithiol er dibenion Cysylltiadau Cyhoeddus yn y dyfodol