Cynorthwyo’r rheolwyr gyda ffilmio’r cynhyrchiad
Trosolwg
Mae'r Safon yn ymwneud â chynnig ystod o gefnogaeth i berfformwyr a chyfranwyr ar gyfer ffilmio cynyrchiadau.
Mae'n ymwneud â chyfathrebu rhwng adrannau a chyfranwyr gan ddosbarthu gwybodaeth a gwaith papur priodol er mwyn gofalu caiff y cynhyrchiad ei gynnal yn rhwydd a didrafferth a bod y cast a'r criw yn y mannau cywir bob amser.
Mae'r Safon hefyd yn ymwneud â gwybod lle mae unigolion allweddol bob amser a gofalu eu bod ar y set ar yr amser gofynnol.
Mae'n ymwneud ag ymdrin ag ystod o bobl a gwybod sut i weithio gyda gwahanol bersonoliaethau er mwyn cyflawni'r nod y cytunwyd arno. Mae hefyd yn ymwneud ag egluro'r broses ffilmio i'r rheiny sydd o bosib yn anghyfarwydd â'r broses a'u calonogi.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cydlynwyr Cynyrchiadau, Cyfarwyddwyr Cynorthwyol 1af, 2il Gyfarwyddwyr Cynorthwyol a Rheolwyr Cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod y taflenni galwadau a gwaith papur eraill ar gyfer y criw wedi'u dosbarthu pan fo'n briodol
- cyfarwyddo'r cast ar adegau priodol ar godau ymarfer y stiwdio neu leoliad ynghyd ag unrhyw ofynion iechyd a diogelwch
- cyd-drefnu cludiant er mwyn trefnu caiff y cast a chriw eu cludo'n sydyn ac yn effeithiol rhwng y set a'u cartref neu lety yn ystod ffilmio
- gofalu bod yr arwyddion a hysbysiadau yn egluro a rhagnodi gofynion mynediad yn eglur ac i'w gweld yn glir
- rhoi gwybod i weithwyr y cynhyrchiad a phobl berthnasol am gynnydd y ffilmio ac am unrhyw oedi dichonol a newidiadau i amserlenni
- trosglwyddo ciwiau eglur fel sydd wedi'i gyfarwyddo i berfformwyr a chyfranwyr
- gofalu caiff y gweithrediadau yn y cefndir eu trefnu fel sydd wedi'i gyfarwyddo
- cyd-drefnu rhedwyr ar y set, rhoi cyfarwyddiadau neu ddirprwyo goruchwyliaeth ynghylch tasgau perthnasol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cynnal cofnodion cywir o'r perfformwyr ar y set ynghyd ag amseroedd prydau a gorffen ffilmio yn unol â gofynion y cytundebau
- cadarnhau bod cludiant digonol ar gael ar yr amseroedd gofynnol yn ystod y diwrnod ffilmio
- rhybuddio adrannau perthnasol ymlaen llaw ynghylch y set derfynol er mwyn iddyn nhw fedru paratoi ar gyfer diwedd y diwrnod ffilmio
- dirprwyo dros a chymryd yr awenau dros y llawr yn unol â chyfarwyddiadau gan reolwyr y cynyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion adrannol gan y cast a chriw
- manylion unrhyw godau ymarfer neu ofynion iechyd a diogelwch lleoliadau i'w rhannu gyda'r cast
- anghenion perfformwyr a'r criw yn ystod cyfnodau sefydlog, ymarferion a chynigion
- sut i gyfathrebu mewn sull sensitif gyda pherfformwyr a chyfranwyr
- y galwadau i weithwyr y cynhyrchiad
- pwysigrwydd cyfathrebu a chyflwyno'r rhain i'r bobl berthnasol
- sut i gyfathrebu'n sensitif, yn effeithiol ac yn effeithlon gyda pherfformwyr, cyfranwyr ac adrannau ar y set
- sut i drefnu, neu gynorthwyo gyda threfnu, gweithrediadau yn y cefndir
- pwysigrwydd rhannu gwybodaeth yn brydlon ynghylch amseroedd rhyddhau'r cast
- sut i storio gwybodaeth yn ymwneud â'r cynhyrchiad yn ddiogel ac yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â gwarchod data
- pwysigrwydd gweithredu'n brydlon i gyfarwyddiadau
- goblygiadau, amrywiaeth o adrannau, ynghylch penderfyniadau wedi'u gwneud ar y set
- ffactorau sy'n debygol o achosi oedi i weithgareddau cynhyrchu
- sut i drosglwyddo ciwiau
- beth sy'n ofynnol o ran gweithrediadau yn y cefndir
- pwysigrwydd monitro lle mae'r cast a chriw pan nad ydyn nhw ar y set
sut i ddiwallu anghenion mynediad neu anghenion penodol y cast a chriw
goblygiadau cyllidebol ar y defnydd o gyfranwyr
- sut i gymryd yr awenau dros reoli'r llawr os cewch chi eich cyfarwyddo i wneud hynny gan reolwyr y cynhyrchiad