Rheoli gweithgareddau ffilmio ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSP24
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli set y cynhyrchiad a meithrin perthynas effeithiol rhwng cyfarwyddwr â'r holl bobl eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad.
Mae'n ymwneud â dehongli anghenion a gweledigaeth greadigol y cyfarwyddwr a throsi hyn i fod yn dasgau i'w cyflawni gan yr adrannau amrywiol. Mae'r Safon hefyd yn ymwneud â rheoli'r criw i gyflawni hyn.
Mae'n ymwneud â chynhyrchu asesiad risg ar gyfer pob diwrnod ffilmio unwaith ichi adnabod, gydag eraill, y peryglon dichonol i iechyd a diogelwch y criw.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cyfarwyddwyr Cynorthwyol 1af, Rheolwyr Llawr neu Reolwyr Cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno a chymeradwyo gweledigaeth ac amcanion y cynhyrchiad gyda chyfarwyddwyr a phenaethiaid adrannau ar adegau priodol
- trafod a chytuno ar y dulliau gorau o gyflawni'r weledigaeth greadigol gyda'r cyfarwyddwr a phenaethiaid adrannau
- rhannu'r wybodaeth gyflawn gyda'r tîm ynghylch gweledigaeth greadigol y cyfarwyddwr
- cynnal cyfarfodydd cynhyrchu rheoliadd a rheoli trafodaethau rhagchwiliadau ac amcanion er mwyn gofalu caiff anghenion y cyfarwyddwr eu diwallu
- adnabod y peryglon dichonol i iechyd a diogelwch y cast a'r criw a chyflawni mesurau priodol
- rhannu'r holl weithdrefnau iechyd a diogelwch gyda'r cast a'r criw ar ddechrau pob diwrnod er mwyn bodloni'r gofynion cyfundrefnol
- cofnodi a dosbarthu asesiadau risg perthnasol i holl aelodau'r criw cyn dechrau ffilmio
- cadarnhau cyfathrebu rhwydd rhwng yr holl gast a chriw
- datrys problemau technegol pan fo nhw'n codi a chyflawni canlyniadau boddhaol ar y cyd ag eraill
- gofalu caiff gofynion y cyfarwyddwr eu bodloni drwy ddirprwyo tasgau i bobl briodol wrth ffilmio
- cyfarwyddo gweithwyr y cynhyrchiad ynghylch y gofynion ar y set ar gyfer taflen alwad y diwrnod canlynol ar adegau priodol
- adnabod achosion dichonol dros oedi gydag amserlenni, ac awgrymu a threfnu datrysiadau hyfyw
- monitro gweithgareddau ar y set er mwyn gofalu caiff yr adnoddau eu defnyddio'n effeithlon
- rhoi gwybod i gynhyrchwyr neu reolwyr cynhyrchu am unrhyw broblemau gall achosi goblygiadau difrifol i amserlen neu gyllideb y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddatblygu perthynas gadarn gyda chyfarwyddwyr, penaethiaid adrannau a'r criw
- sut i adnabod peryglon dichonol sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch y criw
- pa ddogfennau sydd eu hangen er dibenion asesiadau risg
- sut i reoli'r criw er mwyn cyflawni'r deilliannau gorau posib
- sut i ddatrys problemau ar y cyd ag arbenigwyr technegol
- pa dasgau dylid eu dirprwyo, a phryd
- pa wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar wahanol adrannau er mwyn cyflawni gweledigaeth y cyfarwyddwr
- sut all penderfyniadau creadigol a thechnegol effeithio ar y gyllideb a'r amserlen
- sut i gynllunio tua'r dyfodol gan reoli gweithgareddau dydd i ddydd
- sut mae argaeledd y cast, criw a lleoliadau yn amharu ar benderfyniadau o ran ail-drefnu
- sut all gweithgareddau ffilmio effeithio ar iechyd a diogelwch a sut gaiff hyn ei gyflwyno i'r criw yn ddyddiol
- sut a phryd i roi gwybod i weithwyr y cynhyrchiad ynghylch unrhyw broblemau sy'n amharu ar yr amserlen neu gyllideb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP24
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Saethu / Ffilmio