Cyd-drefnu logisteg ar gyfer y cast a chriw

URN: SKSP23
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng aelodau'r criw cynhyrchu, y swyddfa gynhyrchu a'r cast.

Mae'n ymwneud â llunio taflenni galwadau dyddiol, dewis ecstras, cyfathrebu gyda'r adrannau gwisgoedd a cholur i drefnu amseroedd galw a gofalu fod y perfformwyr wedi derbyn eu hamseroedd galwadau ar gyfer y diwrnod canlynol.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer 2il Gyfarwyddwyr Cynorthwyol, Cydlynwyr Cynhyrchu ac Ysgrifenyddion Cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgynghori gydag adrannau priodol er mwyn paratoi, llunio a diwygio taflenni galwadau dyddiol
  2. cyfathrebu gyda'r swyddfa gynhyrchu ar amseroedd priodol er mwyn cyflwyno taflenni galwadau
  3. cadarnhau bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer teithio a llety i berfformwyr lle nad ydyn nhw'n lleol
  4. pennu gofynion diwrnod canlynol yr adrannau gwisgoedd, colur ac arlwyo ynghyd ag unrhyw adrannau perthnasol eraill a defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu ar yr amseroedd galwadau ar gyfer y diwrnod canlynol
  5. rhannu'r amseroedd galwadau dyddiol gyda'r holl bobl ac adrannau priodol
  6. rhoi gwybod i'r cast a chriw mai chi ydy'r prif bwynt cyswllt yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  7. cynnig gwybodaeth eglur a chywir i gydweithwyr ynghylch eu disgwyliadau o ran cyflwyno gwybodaeth ar gyfer amserlenni a thaflenni galwadau
  8. rhoi gwybod i'r criw a chast am unrhyw newidiadau ar fyrder i daflenni galwadau ar ddiwedd y diwrnod ffilmio heb oedi
  9. gofalu eich bod yn cyfathrebu'n barhaus gyda'r swyddfa gynhyrchu'n unol â gofynion y cynhyrchiad
  10. trin a thrafod gyda'r cast a chriw unrhyw dasgau sydd tu hwnt i'w dyletswyddau arferol yn unol â gofynion y cynhyrchiad  
  11. cyd-drefnu symudiad cyson cyfranwyr drwy'r adrannau gofynnol yn unol â gofynion y cynhyrchiad 
  12. gofalu bod cyfranwyr yn barod pan fo'u hangen o ystyried y daflen alwad ac anghenion y set  
  13. paratoi a rhoi cynlluniau ar wait her mwyn gofalu caiff y targedau o ran anghenion amserlennu hirdymor eu cyflawni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gynnig cefnogaeth i'r cast, criw a chyfranwyr gan gynnwys hebryngwyr a thiwtoriaid lle'n briodol
  2. sut i ymdrin yn effeithiol gyda chast, criw a chyfranwyr o wahanol anianodau
  3. sut i ddewis a defnyddio cyfarpar cynhyrchu priodol
  4. sut i ddarllen nodiadau cynghori ar gastio yn ymwneud â'r amserlen 
  5. sut i ddewis a threfnu ecstras i ymddangos yn y cefndir
  6. gofynion yr adrannau gwisgoedd, colur, celf a chyfleusterau yn ymwneud â'r cast
  7. gofynion y cynhyrchiad ar y set
  8. achosion tebygol dros oedi ac ail-drefnu
  9. pwysigrwydd rhoi gwybod i'r swyddfa gynhyrchu am unrhyw newidiadau i'r daflen alwad a chynnydd ar y set, gan gynnwys galwadau prydlon pan fo'r diwrnod ffilmio wedi dod i ben   
  10. sut i gyd-drefnu symudiadau perfformwyr a pherfformwyr cefnogol ar y set er mwyn gofalu eu bod yn barod ar yr amser gofynnol 
  11. pa weithgareddau sydd angen eu cyd-drefnu'n ddyddiol ac yn yr hirdymor er mwyn gofalu caiff y cynhyrchiad ei gynnal yn effeithiol
  12. sut i drin a thrafod gyda'r cast a chriw mewn ffordd sensitif

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP23

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cast, Criw