Rheoli cyfranwyr yn ystod cynyrchiadau
URN: SKSP22
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyfarch a chyfarwyddo cyfranwyr cyn recordio cynhyrchiad. Bydd angen eu cefnogi fel sy'n briodol a'u hebrwng o stiwdios neu leoliadau unwaith y byddan nhw wedi gorffen.
Mae'n ymwneud â pharatoi ar gyfer cyfweliadau, monitro eu safon a gwirio'u cynnwys yn erbyn y polisi golygyddol a chyfarwyddyd y cynyrchiad.
Bydd angen ichi lunio a chadw nodiadau cynhwysfawr lle'n briodol.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn y tîm rheoli cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a chyfarch cyfranwyr gan eu cyflwyno i'r gweithwyr cynhyrchu perthnasol
- bodloni unrhyw ofynion o ran mynediad neu anghenion arbennig y cyfranwyr yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- cynnig gwybodaeth eglur i gyfranwyr ynghylch unrhyw ymarferion neu reoliadau stiwdios neu leoliadau sy'n berthnasol iddyn nhw
- gofalu am gyfranwyr pan fyddwch ar leoliad neu yn y stiwdio yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- cynnig gwybodaeth eglur i gyfranwyr am eu disgwyliadau ynghyd â gwybodaeth am unrhyw newidiadau i'r drefn wreiddiol, amseriad neu gynnwys mewn digon o amser iddyn nhw fedru addasu
- datblygu cynllun cyfweld cywir i fodloni gofynion
- cyfarwyddo cyflwynwyr neu holwyr ynghylch perfformiad y cyfrannwr neu ddiben cyfweliadau ar adegau priodol
- llunio cofnod cywir o gwestiynau ac atebion, gyda'r amseriadau pan fo'n briodol
- monitro ansawdd cyfweliadau perfformwyr, gwirio cynnwys yn erbyn y polisi golygyddol a chyfarwyddyd y cynhyrchiad, yn ogystal ag awgrymu newidiadau neu welliannau
- derbyn ffurflenni rhyddhau neu ganiatâd gan gyfranwyr a phan fo'n briodol, eu stori yn unol â'r gofynion rheoleiddiol a chyfundrefnol
- bwrw golwg ar drefniadau teithio a thaliadau'r cyfrannwr yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- hebrwng cyfranwyr o stiwdios neu leoliadau pan fyddan nhw wedi cwblhau eu gwaith yn unol â gofynion y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwy ydy'r cyfranwyr a'r trefniadau ynghlwm â chydweithio gyda nhw
- pam ei bod hi'n bwysig trin cyfranwyr yn gwrtais
- gofynion o ran mynediad ac anghenion arbennig y cyfranwyr sydd angen eu hystyried
- pa ymarferion stiwdios neu leoliadau sydd angen i'r cyfranwyr fod yn ymwybodol ohonyn nhw
- cyfarwyddyd y cynhyrchiad a'r polisïau golygyddol
- cwmpas y wybodaeth cyfarwyddo i'w rhannu gyda chyfranwyr a sut gall hyn amrywio gyda gwahanol gynyrchiadau
- sut i drin cyfranwyr gyda gwahanol gymeriadau ac ysbryd yn effeithiol ac yn sensitif
- y ddyletswydd gofal tuag at gyfranwyr
- sut i fonitro cyfweliadau a pherfformiadau ynghyd â chydnabod arwyddion o orfodaeth
sut i awgrymu newidiadau a gwelliannau mewn ffordd sensitif i'r cyfrannwr a'r holwr
sut a phryd i dderbyn ffurflenni caniatâd neu ryddhau
- sut i dderbyn awdurdod i ddefnyddio'r deunydd ar aml-lwyfannau ac ar amryw adegau e.e. ailadroddiadau
- goblygiadau deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â Diogelu Data
- sut i wneud taliadau i gyfranwyr
- sut i hebrwng cyfranwyr o'r stiwdio neu o leoliadau pan fyddan nhw wedi cwblhau eu gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP22
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cyfranwyr