Adnabod a dewis perfformwyr a chyfranwyr cefnogol ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod nifer a natur y perfformwyr a chyfranwyr cefnogol angenrheidiol ar gyfer y cynhyrchiad.
Mae'n ymwneud ag asesu a dewis perfformwyr cefnogol. Bydd angen cynnwys cynnal clyweliadau a gwirio bod y perfformwyr cefnogol dewisol ar gael ar adegau sy'n addas ar gyfer graddfeydd amser y cynhyrchiad. Hefyd bydd angen gwirio bod eu cost oddi fewn cyllideb y cynhyrchiad.
Mae'n ymwneud â chydnabod ffactorau o ymarfer da a gwybod sut i fanteisio ar wybodaeth berthnasol ynghylch y ffactorau hynny.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn nhîm rheoli'r cynhyrchiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- amcan a chytuno ar y nifer a mathau o berfformwyr ategol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynyrchiadau gyda'r bobl berthnasol
- adnabod amseriad a hyd perfformiadau neu gyfraniadau o'r sgriptiau ac amserlenni ffilmio
- adnabod perfformwyr a chyfranwyr ategol sy'n debygol o fodloni'r gofynion
- gwirio a chadarnhau ydy'r perfformwyr cefnogol ar gael i fynychu clyweliadau pan fo'u hangen
- dod o hyd i berfformwyr a chyfranwyr addas pan nad ydy'r rheiny rydych wedi'u cytundebu'n wreiddiol ar gael mwyach
- defnyddio dull dewis sy'n briodol i'r rôl neu gyfraniad gofynnol
- gwirio ydy perfformwyr a chyfranwyr cefnogol ar gael ynghyd â gwirio'u cost
dewis y perfformwyr a chyfranwyr cefnogol sy'n fwyaf tebygol o fodloni gofynion y cynyrchiadau
trin a thrafod a chytuno ar y nifer terfynol o berfformwyr cefnogol gallwch fanteisio arnyn nhw yn unol â'r gyllideb
- cadarnhau ffioedd gyda pherfformwyr cefnogol neu eu hasiantau a threfnu cyflwyno cytundebau
- gwirio gyda pherfformwyr cefnogol oes ganddyn nhw unrhyw ofynion o ran mynediad neu unrhyw anghenion arbennig.
- cadw cofnodion o gytundebau a'u storio mewn man diogel yn unol â'r gofynion rheoleiddiol a chyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion a'r nodweddion ar gyfer perfformwyr neu gyfranwyr cefnogol
- ffynonellau gwybodaeth am berfformwyr neu gyfranwyr cefnogol a sut i fanteisio ar y ffynonellau
- y meini prawf masnachol ac esthetig i'w roi ar waith wrth ddewis perfformwyr a chyfranwyr cefnogol
- pryd a sut i gysylltu gyda pherfformwyr cefnogol neu eu cynrychiolwyr
- trefniadau a gweithdrefnau cytundebol, a gofynion a rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chydweithio gyda pherfformwyr a chyfranwyr cefnogol
- rôl cyfarwyddwyr castio a sut i'w penodi
- gofynion a rheoliadau sy'n effeithio ar gymhwysedd perfformwyr cefnogol i weithio mewn gwahanol wledydd
- gofynion a rheoliadau i'w hystyried wrth gyflogi pobl ifanc
- gofynion a rheoliadau i'w hystyried wrth gyflogi pobl gyda gwahanol alluoedd a chefndiroedd
- gofynion o ran mynediad ac anghenion arbennig y perfformwyr cefnogol mae'n debyg bydd angen eu hystyried
- goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data