Adnabod ac argymell cyfranwyr ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSP20
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod a chysylltu gyda chyfranwyr dichonol a threfnu eu bod yn ymddangos ar y cynhyrchiad gan gydymffurfio â'r cyfyngiadau o ran amser a chost.
Mae'n ymwneud â chyfweld â phobl dros y ffôn ac wyneb yn wyneb er mwyn asesu eu haddasrwydd i fod yn rhan o'r cynhyrchiad ynghyd â chynnig argymhellion i wneuthurwyr penderfyniadau.
Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau cyfreithiol, moesegol a chytundebol cyfranwyr a chydymffurfio gyda safonau ymarfer da.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Ymchwilwyr sydd ynghlwm â chynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu'r math a'r amrywiaeth o gyfranwyr sydd eu hangen ar gyfer cynyrchiadau gyda'r bobl briodol
- adnabod cyfranwyr dichonol gan ffynonellau dibynadwy
- cysylltu gyda chyfranwyr dichonol er mwyn trefnu cyfweliadau, mewn amser digonol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwneud a chadarnhau trefniadau er mwyn gan ofalu eu bod yn gyfleus i'r cyfranwyr dichonol ac yn diwallu anghenion y cynhyrchiad
- cynnal cyfweliadau gyda chyfranwyr dichonol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- llunio nodiadau cywir a chyfoes o'r holl sgyrsiau gyda chyfranwyr a chyfranwyr dichonol
- asesu cyfweledigion o ran eu dichonolrwydd i gyfrannu tuag at gynyrchiadau a'u haddasrwydd ar gyfer rhaglen darlledu
- gwirio cyfranwyr yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- argymell a chyfiawnhau cyfranwyr sydd mwyaf tebygol o fodloni gofynion cynyrchiadau
- defnyddio gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn cadarnhau gyda chyfranwyr bod eu hangen nhw, gan roi gwybod iddyn nhw am y trefniadau o ran teithio a mynediad
- gwneud trefniadau priodol o ran cyllid, teithio a llety ar gyfer cyfranwyr
- gwirio gyda chyfranwyr oes ganddyn nhw unrhyw ofynion o ran mynediad neu anghenion arbennig yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- cofnodi a chadw manylion cywir ynghylch cyfranwyr fel sy'n ofynnol gan eich mudiad
- gwneud trefniadau ynghylch cyflwyno cytundebau pan fo'u hangen
- derbyn ffurflenni rhyddhau a chofnodi awdurdodaeth er mwyn defnyddio deunydd ar aml-lwyfannau yn unol â gofynion cyfundrefnol
- cynnig cytundeb i unrhyw blant sydd eu hangen yn unol â deddfau a rheoliadau perthnasol
- cynnig awgrymiadau eraill pan nad ydy'r cyfranwyr dewisol ar gael, gan hysbysu'r cynhyrchwyr bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau o gysylltu gyda chyfranwyr dichonol
- sut i fanteisio ar asiantaethau a ffynonellau dibynadwy er mwyn dod o hyd i gyfranwyr dichonol
- sut i wirio ffynonellau a chyfranwyr yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- y nodweddion sy'n gofalu bod cyfranwyr dichonol yn addas ar gyfer rhaglen wedi'i darlledu
- sut i strwythuro cyfweliadau a geirio cwestiynau er mwyn ysgogi'r wybodaeth angenrheidiol
- sut i gynnal agwedd cwrtais ac addysgiadol wyneb yn wyneb a dros y ffôn
- y goblygiadau cyfreithiol, moesegol, cytundebol ac ariannol yn ymwneud â chyfweld â phobl benodol
- sut i lunio nodiadau cywir a chyfoes ar yr holl sgyrsiau sydd wedi'u cynnal
- agweddau perthnasol cyfreithiau yn ymwneud â pherfformiadau gan blant
- pam ei bod hi'n bwysig cynnal a chadw cofnodion cynhwysol a chywir o gyfweliadau
- dulliau cyflwyno'ch gofynion i wneuthurwyr penderfyniadau
- y gofynion rhyddhau a chaniatâd sy'n angenrheidiol a pham eu bod yn bwysig
- sut i drwyddedu cyfranwyr sy'n blant ac unrhyw drefniadau hebrwng sy'n ofynnol
- sut i wneud trefniadau o ran teithio a llety
- gofynion mynediad ac anghenion arbennig y cyfranwyr sydd angen eu hystyried
- y trefniadau angenrheidiol er mwyn defnyddio anifeiliaid
- sut i gytundebu gyda chyfranwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP20
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cyfranwyr