Manteisio ar gynnwys a mynediad ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chael gafael ar syniadau neu gynnwys ar gyfer cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu gan fanteisio ar eich gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth bresennol o ofynion y diwydiant.
Bydd angen ichi wybod sut i fanteisio ar gynnwys a chaniatâd i ddefnyddio ffurfiau penodol neu fanteisio ar unigolion gan ofalu bod y cwmni cynhyrchu'n meddu ar yr hawliau cyfreithiol priodol.
Bydd angen ichi wybod sut i drafod a dod i delerau ynghylch amodau gydag asiantau, cynrychiolwyr, cyfreithwyr neu ddeiliaid ffurfiau a'r cyfle mwyaf priodol i wneud hynny.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â threfnu hawliau a mynediad fel gweithredwyr cynhyrchu a thimau cyfreithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn adnabod perchnogion hawliau syniadau neu gynnwys
- cydweithio'n barhaus gydag asiantau, cynrychiolwyr a chyfreithwyr er mwyn cael gafael ar gynnwys neu fanteisio ar gynnwys
- dod i delerau gyda phartïon perthnasol er mwyn manteisio ar hawliau cyfreithiol angenrheidiol yn ymwneud â chynnwys neu ffurfiau
- meddu ar hawliau sylfaenol syniadau neu gynnwys ar adegau priodol
- gwirio fod yr holl waith papur yn ymwneud â hawliau cyfreithiol yn gywir ac wedi'i gadw mewn mannau diogel
- cadarnhau bod y gwariant oddi mewn i'r cyllidebau datblygu wedi'u neilltuo ar gyfer hawlddewision a sicrhau hawliau
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn adnabod a gwirio goblygiadau hawlfraint ac unrhyw broblemau rheoleiddiol neu gyfreithiol dichonol
- gwirio bod unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a moesegol wedi'u hystyried ar adegau priodol
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy er mwyn cadarnhau bod ffactorau risg lleiaf posib i brosiectau a'r cwmni cynhyrchu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau arwahanol o adnabod pwy sy'n berchen ar hawliau yn ymwneud â syniadau neu gynnwys a'r wybodaeth i'w ddefnyddio er mwyn gwneud hynny
- sut i feddu ar hawlddewision a hawliau cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud â chynnwys neu ffurfiau
- sut i wirio bod dogfennau cyfreithiol yn gywir ac wedi'u cadw'n ddiogel
- sut i fanteisio ar, trafod a datblygu perthnasau gydag asiantau neu gynrychiolwyr
- sut i gydweithio gyda chyfreithwyr er mwyn dod i delerau gyda'r cytundeb gorau posib ar gyfer y cwmni cynhyrchu
- holl agweddau ynghlwm â chynhyrchu, o ddatblygu i gyflwyno
- unrhyw ystyriaethau cyfreithiol a moesegol a all effeithio ar y defnydd o'r cynnwys dewisol mewn cynyrchiadau
- sut i leihau ffactorau risg a niwed i'r prosiect a'r cwmni cynhyrchu
- y gyllideb sydd ar gael er mwyn prynu cytundebau a chyngor cyfreithiol