Cyd-drefnu dogfennau’r cynhyrchiad
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio dogfennau cynhyrchu perthnasol ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu. Ymysg y dogfennau bydd amserlenni, sgriptiau, taflenni galwadau, archebion technegol, taflenni camera a rhestri'r cast a chriw.
Mae'n ymwneud â derbyn gwybodaeth ar gynnydd cynyrchiadau, casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer dogfennau'n ymwneud â'r cynhyrchiad a'i gyflwyno'n brydlon ar y ffurf ofynnol i bawb sydd eu hangen yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau yn ymwneud â diogelu data.
Mae'n ymwneud â gofalu bod yr wybodaeth yn gywir ac yn ddiweddar ynghyd â rhoi gwybod i bobl am unrhyw newidiadau.
Mae'n ymwneud â rhannu amserlenni cynhyrchu gyda chydweithwyr cynhyrchu, a darparu unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cydlynwyr Cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau pa wybodaeth sydd angen ei chynnwys yn y dogfennau ategol ynghyd â'r ffurf ofynnol gyda'r bobl briodol
- derbyn yr wybodaeth i'w chynnwys gan ffynonellau perthnasol
- gwirio bod yr wybodaeth rydych wedi'i chasgllu'n gywir ac yn ddiweddar
- gwirio bod unrhyw gyfrifiadau yn yr wybodaeth yn gywir
- adnabod unrhyw newidiadau i ddogfennau o gymharu â fersiynau blaenorol
- cynhyrchu dogfennau ategol eglur a chywir ar y ffurf ofynnol ac sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol
- dosbarthu dogfennau ategol heb oedi i'r holl bobl sydd eu hangen, gan eu hysbysu am unrhyw newidiadau o gymharu â'r fersiynau blaenorol
- rhannu gofynion cynlluniau, amserlenni a sgriptiau'r cynhyrchiad gydag aelodau'r tîm cynhyrchu mewn pryd fel bod modd iddyn nhw weithredu'n briodol
- cynnal yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynhyrchiad
- cymharu'r cynnydd gyda chynlluniau ac amserlenni'n barhaus
- casglu gwybodaeth gywir ar gyfer adroddiadau cynnydd dyddiol
cyd-drefnu gwybodaeth berthnasol ar gyfer taflenni galw
cynnal cyfrinachedd gwybodaeth sensitif yn unol â gofynion cyfundrefnol a rheoleiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cynhyrchiad gan gynnwys newidiadau i amserlenni blaenorol
- ffynonellau gwybodaeth perthnasol ar gynnydd y cynhyrchiad
- pwy sydd angen yr wybodaeth sy'n ymddangos yn y dogfennau ategol
- y gwahanol fathau o waith papur ategol sydd eu hangen ar wahanol adegau yn ystod y broses cynhyrchu.
- ffurfiau safonol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth a phryd i'w defnyddio
- y terfynau amser a'r gweithdrefnau ar gyfer dosbarthu gwaith papur
- y gofynion ar gyfer storio dogfennau am y cynhyrchiad gan gynnwys goblygiadau'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data a manylion cyswllt y perfformwyr
- pwy sydd angen yr wybodaeth am gynllun ac amserlen y cynhyrchiad a phryd y mae ei hangen arnyn nhw
- yr wybodaeth angenrheidiol ar daflen alwad
- sut i gydweithio'n agos gyda chydweithwyr wrth ffilmio