Cydlynu gweithgareddau er mwyn cefnogi gweithwyr y cynhyrchiad

URN: SKSP18
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal y swyddfa gynhyrchu o ddydd i ddydd a'r amryw weithgareddau angenrheidiol er mwyn cefnogi cynyrchiadau.

Mae'n ymwneud â llunio'r adroddiad cynnydd dyddiol, trefnu teithio a llety a gofalu bod y tîm cynhyrchu'n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf. 

Pan fo plant yn perfformio mewn cynyrchiadau, mae hefyd yn ymwneud â chyfathrebu gydag ysgolion a rhieni a gwneud trefniadau priodol ar gyfer hebryngwyr a thiwtoriaid.

Mae hefyd gofyn ichi gyfathrebu gyda'r holl adrannau er mwyn pennu eu gofynion penodol a gofalu eich bod yn eu bodloni.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n aelodau o dîm rheoli'r cynhyrchiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​llunio adroddiadau cynnydd dyddiol yn defnyddio gwybodaeth gan adrannau perthnasol
  2. dosbarthu adroddiadau cynnydd dyddiol i'r holl bobl briodol
  3. trefnu teithio a llety i'r cast a chriw er mwyn bodloni gofynion
  4. cadarnhau caiff taflenni galwadau eu dosbarthu fel y cytunwyd arno gyda'r swyddfa gynhyrchu
  5. cynnig diwygiadau eglur i sgriptiau yn dilyn unrhyw newidiadau y cytunwyd arnyn nhw a dosbarthu'r rhain i'r cast a chriw ar adegau priodol
  6. gofalu eich bod yn rhannu sgriptiau cywir a diweddar ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol eraill gyda buddsoddwyr, cwmnïau yswiriant a gwarantwyr bondiau cyflawni
  7. gofalu caiff trwyddedau priodol eu trefnu gydag awdurdodau addysg am unrhyw blant sy'n gweithio ynghlwm â'r cynyrchiadau
  8. cadarnhau ydy'r cast a chriw ar gael gydag asiantau perthnasol a gofalu eu bod yn cynnig unrhyw newidiadau i amserlenni heb oedi
  9. cadarnhau eich bod wedi derbyn unrhyw ganiatâd gofynnol a bod unrhyw aelodau cast gyda chofnodion troseddol yn ymwybodol o'u cyfyngiadau sifil
  10. cynnig cyngor i dimau cynhyrchu ynghylch oriau gwaith a thiwtora'r plant ynghlwm â'r cynhyrchiad a cheisio am drwyddedau pan fo'u hangen
  11. cadw cofnod o oriau'r plant yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion cynhyrchu
  12. trefnu hebryngwyr, tiwtoriaid neu gyfieithwyr iaith arwyddo er mwyn bodloni gofynion
  13. cadarnhau caiff y gofynion ôl gynhyrchu dyddiol eu bodloni a'u bod yn derbyn popeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu
  14. trefnu cludo neu ddanfon cynnwys i fannau ôl gynhyrchu ar ddiwedd pob diwrnod o ffilmio
  15. adnabod a chadarnhau gofynion meddygon uned a threfnu cymorth ac adnoddau meddygol ychwanegol pan fo'u hangen
  16. cyflawni gorchmynion symudiadau er mwyn dangos holl deithio'r gweithwyr
  17. cadw manylion pasbort yr holl aelodau cast a chriw a phobl gynorthwyol mewn man diogel er dibenion teithio ac yswiriant
  18. gwirio eich bod yn meddu ar y datganiadau meddygol o iechyd gofynnol gan y cast a chriw perthnasol
  19. gwirio caiff profion meddyliol eu cynnal er mwyn bodloni gofynion
  20. trefnu yswiriant ar gyfer yr holl gast a chriw er mwyn yswirio holl weithgareddau gofynnol y cynyrchiadau
  21. cyfathrebu gyda hyfforddwyr anifeiliaid a milfeddygon i drefnu dogfennau gofynnol am yr anifeiliaid
  22. gwirio bod y gyrwyr yn meddu ar y dogfennau cywir ar gyfer gyrru cerbydau ar y set

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​yr wybodaeth sydd ei hangen mewn adroddiadau cynnydd dyddiol a gyda phwy ddylech chi ddosbarthu'r adroddiadau
  2. sut a phryd i drefnu gofynion teithio a llety i'r cast a chriw
  3. yr wybodaeth sydd ei hangen yn rheolaidd gan y timau cynhyrchu
  4. goblygiadau deddfwriaethau a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data
  5. sut i ddosbarthu taflenni galwadau dyddiol ar y cyd ag adran y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a'r swyddfa gynhyrchu
  6. sut i ddiwygio sgriptiau ac amlygu diwygiadau
  7. sut i gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth hawl i weithio  
  8. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cydweithio gyda phlant, gan gynnwys caniatâd ac oriau gwaith a sut mae'r rhain yn amrywio yng ngwahanol ranbarthau ac yn rhyngwladol 
  9. pwy sydd angen cyflawni gwiriad datgelu a gwahardd a sut i dderbyn tystysgrifau priodol
  10. sut i gyfathrebu gyda rhieni, ysgolion ac awdurdodau addysg i dderbyn trwyddedau'r plant
  11. sut i ddod o hyd i a threfnu hebryngwyr, tiwtoriaid a chyfieithwyr iaith arwyddo
  12. pryd mae hi'n briodol cynnal gwiriadau meddyliol ar y cast a phobl sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad
  13. bod meddyg uned ar gael ac wedi'i gadarnhau ar ddyddiau gofynnol ynghyd â bod cefnogaeth feddygol ychwanegol ar gael os oes ei angen
  14. sut i gyflwyno gorchmynion symud i'r holl bobl sy'n teithio yn y DU neu dramor
  15. sut i drefnu brechiadau i'r criw, fisâu a dogfennau teithio gofynnol ar gyfer yr holl gast/criw sy'n mynd i leoliadau tramor
  16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cydweithio gydag anifeiliaid
  17. yr wybodaeth briodol wrth gydweithio gydag anifeiliaid gan gynnwys gofynion yn ymwneud â bwydo, cludo a'u diogelu
  18. sut i gyfathrebu gyda'r tîm ôl gynhyrchu drwy gydol y cynhyrchiad er mwyn gofalu fod ganddyn nhw bopeth sydd eu hangen arnyn nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP18

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Gweithwyr