Rheoli deunyddiau, cyfarpar a chyflenwadau’r cynhyrchiad
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â sefydlu systemau ar gyfer prynu, llogi, symud a storio'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer cynyrchiadau.
Mae'n ymwneud ag egluro i bawb perthnasol sut mae'r systemau'n gweithredu. Mae'n ymwneud â gofalu eich bod yn manteisio ar gyflenwyr addas, eich bod yn archebu ac yn derbyn yr adnoddau erbyn y dyddiadau cau y cytunwyd arnyn nhw. Yn ogystal mae'r safon yn ymdrin â gofalu caiff cyfarpar a deunyddiau eu trin a'u symud yn ddiogel.
Mae'n bosib y bydd angen ichi fanteisio ar gyngor arbenigol ynghylch storio ar gyfer rhai adnoddau os ydyn nhw'n fregus, yn werthfawr neu'n medru bod yn beryglus.
Mae’r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n rhan o dîm rheoli’r cynhyrchiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi amserlen a chyfarwyddyd y cynhyrchiad er mwyn adnabod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer pob cam o'r broses cynhyrchu
- derbyn tendrau, amcan brisiau a dyfynbrisiau gan gyflenwyr adnoddau dichonol, sy'n diwallu anghenion y cynhyrchiad
- asesu cost ac ansawdd amcan brisiau gan gyflenwyr dichonol gan ddwyn i ystyriaeth gofynion a chyllideb y cynhyrchiad
- cytuno a chymeradwyo ar bapur y manylion ynghylch costau ac unrhyw amodau a thelerau perthnasol eraill yn ymwneud â chyflenwi
- cynnig cytundebau addas sy'n bodloni gofynion cyfreithiol ac sy'n cynnwys manylion llawn a chywir am gyfraniadau'r cyflenwyr
- adnabod diffygion dichonol, unrhyw oedi gyda chludo adnoddau neu anghysonderau ynghylch lefelau stoc a mynd i'r afael gyda hyn yn brydlon
- egluro a chytuno gyda'r holl bartïon perthnasol y dyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer symud a storio deunyddiau, cyfarpar a chyflenwadau
- gwirio caiff deunyddiau, cyfarpar a chyflenwadau eu storio mewn lle diogel a gofalu bod y trefniadau i storio sylweddau a deunyddiau peryg yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
- manteisio ar gyngor arbenigol ynghylch storio ar gyfer adnoddau sy'n fregus, yn werthfawr neu sy'n medru bod yn beryglus
- adnabod y goblygiadau tebygol ynghylch yr angen am yswiriant ar gyfer gweithio mewn amgylchiadau peryglus ac ar gyfer cerbydau yn ymddangos yn y cynhyrchiad
- cofnodi manylion cywir y polisi yswiriant
- cynnal a diweddaru rhestr o'r cyfarpar
- rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn gofalu caiff cyfarpar a deunyddiau rydych yn eu llogi eu dychwelyd mewn cyflwr derbyniol wedi ichi eu defnyddio
- cydymffurfio gyda chyfreithiau a rheoliadau lleol pan fyddwch yn defnyddio adnoddau cynhyrchu
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar cynhyrchu wedi'u hyswirio gydag yswiriant cynhyrchu digonol
- derbyn adroddiadau colledion neu ddifrod ar ffurfiau priodol yn ymwneud ag unrhyw gyfarpar sydd wedi'i golli, ei ddifrodi neu ei ladrata
- cymharu polisïau yswiriant a rhestri cyfarpar er mwyn canfod gofynion yswiriant arbennig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwahanol fathau o systemau monitro a'u haddasrwydd tebygol ar gyfer gwahanol gynyrchiadau
- gofynion system y cynhyrchiad
- pa adnoddau a chyflenwyr dichonol sydd eu hangen
- dulliau o fanteisio ar adnoddau a phryd ydy'r amser gorau i'w rhoi ar waith
- pa bolisïau cyfundrefnol a gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol er mwyn manteisio ar adnoddau
- pa ddogfennau i'w defnyddio wrth archebu adnoddau
- sut i fynd i'r afael ag oedi gyda danfon neu gludo
- sut i fanteisio ar a chofnodi gwybodaeth ynghylch lefelau stoc a symud stoc
- sut i lunio a chynnal rhestr o gyfarpar
- y manylion angenrheidiol i'w cofnodi ar gyfer y polisi yswiriant
- y deunyddiau a chyfarpar mae'n bosib y bydd angen eu trin mewn dull arbennig
- ffynonellau cyngor arbenigol ynghylch storio adnoddau bregus, gwerthfawr neu beryglus
- ffynonellau gwybodaeth ynghylch gofynion cyfreithiol yn ymwneud â sylweddau peryglus a sut i fanteisio ar y ffynonellau hynny
- pa systemau cofnodi i'w defnyddio gan gynnwys gwybodaeth rheolaeth ariannol
- y gofynion ynghylch dychwelyd y cyfarpar byddwch yn llogi, gan gynnwys goblygiadau ariannol dychwelyd cyfarpar wedi'i logi yn hwyr neu mewn cyflwr gwael