Cyd-drefnu adnoddau’r cynhyrchiad – offer a chyfarpar
URN: SKSP16
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
                    Datblygwyd gan: ScreenSkills
                    Cymeradwy ar: 
2019                        
                    
                Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydlynu adnoddau cynhyrchu ar gyfer y prosiect. Mae'n ymdrin ag ymwneud â'r holl adrannau er mwyn canfod eu hanghenion a chytuno ar flaenoriaethau gydag uwch aelodau o staff.
Mae'n ymwneud ag archebu, prosesu archebion, gwirio costau a threfnu derbyn yr adnoddau angenrheidiol. Mae hyn yn bwysig yn enwedig ar gyfer ffilmio ar leoliad.
Bydd angen ichi sicrhau bod y swyddfeydd cynhyrchu'n gweithredu'n unol ag unrhyw ganllawiau neu amodau yn ymwneud ag effaith carbon isel. Hefyd bydd angen cwblhau'r dogfennau angenrheidiol a chyflawni'r prosesau angenrheidiol wrth anfon cyfarpar dramor.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cydlynwyr Cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gosod systemau priodol ar gyfer rheoli adnoddau cynhyrchu
 - casglu a chrynhoi gwybodaeth am adnoddau sydd eu hangen ar wahanol adrannau ac yn ystod gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
 - trefnu cludo adnoddau dramor yn unol â'r gofynion cynhyrchu
 - cwblhau dogfennau cludo er mwyn bodloni gofynion pen y daith
 - rhoi gwybod i yswiriwr pan fyddwch yn cludo adnoddau a dosbarthu amserlen cludo gyda dyddiadau cau a chyngor i'r holl bobl berthnasol
 - canfod oes angen adnoddau ar wahanol adrannau a disgwyl amdanyn nhw pan fyddwch chi ar leoliadau tramor
 - cyfathrebu gyda gweithwyr lleoliad er mwyn gofalu bod y deunyddiau hyn yn bodoli ar y lleoliad a'u bod o safon ddigonol.
 - gweithio yn unol â gofynion defodau pen y daith a'r mannau ymadael
 - cynnal trafodaethau gydag adrannau mewn ffordd sy'n hyrwyddo perthnasau gweithio da
 - cymharu costau gan nifer o gyflenwyr amgen a derbyn beth sydd ei angen am y pris rhataf posib gan ofalu eich bod yn cynnal safon ofynnol y cynyrchiadau
 - pennu pa adnoddau sydd eu hangen a pha gyflenwyr i gydweithio gyda nhw yn unol â'r polisïau cyfundrefnol a gorfodaethau cyfreithiol
 - cadarnhau gyda rheolwyr cynhyrchu bod y gofynion oddi fewn cyfyngiadau'r gyllideb
 - cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am symud a storio adnoddau gyda'r holl bartïon perthnasol
 - caffael deunyddiau recordio a storio cyfryngau mewn ymgynghoriad er mwyn bodloni gofynion yr adrannau camera
 - cadw cofnod yn gwirio bod y cyfanswm o gyflenwadau a chyfarpar camera yn gywir ynghyd â gweithgareddau symud y cyflenwadau yn gywir
 - nodi unrhyw adnoddau arbennig ychwanegol wedi'u defnyddio ar yr adroddiad cynhyrchu dyddiol gan gofnodi unrhyw golledion neu ddifrod
 - monitro a chofnodi ôl troed carbon isel yn ystod y cynhyrchiad
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd defnyddio adnoddau cynhyrchu'n effeithiol
 - natur a blaenoriaeth y gweithgareddau gaiff eu cyflawni yn ystod gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
 - nifer a mathau'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
 - sut mae gwahanol amgylcheddau, ffurfiau, mathau a graddfeydd cynhyrchu yn effeithio ar natur a nifer yr adnoddau sy'n angenrheidiol
 - pa adnoddau fydd eu hangen ar gyfer ffilmio dramor
 - sut i ymchwilio ac adnabod y gwerth gorau wrth archebu adnoddau cynhyrchu
 - y polisïau cyfundrefnol a gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol er mwyn manteisio ar adnoddau
 - y dogfennau priodol i'w defnyddio wrth archebu adnoddau
 - trefniadau ar gyfer symud a storio adnoddau
 - gofynion defodau'r wlad berthnasol ar gyfer cludo dramor
 - y dogfennau priodol i'w defnyddio pan fyddwch yn dychwelyd adnoddau i gyflenwyr (nodiadau dychwelyd) neu'n cofnodi hawliad colled neu ddifrod
 - sut i ofalu bod y cynhyrchiad yn cynnal ôl troed carbon isel a sut i fynd ati i gyflawni hyn
 - gofynion y cyfleusterau ôl gynhyrchu drwy gydol y broses cynhyrchu
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        ScreenSkills 
        
    
URN gwreiddiol
        SKSP16
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu        
    
Cod SOC
        3416
        
    
Geiriau Allweddol
            Teledu, Ffilm, Adnoddau, Offer, Cyfarpar