Trefnu gweithgareddau cyn cynhyrchu ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu

URN: SKSP15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â threfnu gweithgareddau cyn cynhyrchu o'r swyddfa cynhyrchu, yn ogystal â chyflawni gwaith trefnu a pharatoi ar gyfer ffilmio. ​Mae hyn er mwyn sicrhau bod y cyfnod cyn cynhyrchu yn rhedeg mor rhwydd a di-drafferth â phosib.

Mae'n ymwneud â deall blaenoriaethau a sut i gynllunio ar gyfer argyfyngau. Mae'n ymwneud â llunio cynlluniau a threfniadau amrywiol, cyfathrebu gyda chyrff perthnasol a thrafod gydag awdurdodau priodol.

Mae'r Safon hon yn arbennig i'r rheiny sydd ynghlwm â gweithgareddau cyn cynhyrchu gan gynnwys rheolwyr cynhyrchu, cydlynwyr cynhyrchu a chyfarwyddwyr cynorthwyol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. crynhoi sgriptiau er mwyn canfod anghenion y cynhyrchiad
  2. gosod a chyflenwi'r swyddfa cynhyrchu a swyddfa'r cyfarwyddwr cynorthwyol fel eu bod yn addas i fodloni gofynion y cynhyrchiad  
  3. cyfathrebu gydag adrannau perthnasol er mwyn gofalu bod y cyfarpar offer, pobl a chyfleusterau wedi'u trefnu er mwyn cyd-fynd gyda gofynion yr amserlen ar gyfer y safle
  4. cynllunio a threfnu gweithgareddau cyn cynhyrchu er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  5. trefnu cyfarfodydd cynhyrchu a rhagchwiliadau technegol er mwyn bodloni gofynion
  6. goruchwylio gweithredu gweithgareddau cyn cynhyrchu yn unol â'r cynllun
  7. datblygu a gweithredu cynlluniau ar gyfer argyfwng priodol er mwyn mynd i'r afael â ffactorau all effeithio ar amserlennu'r gweithgareddau
  8. trin a thrafod gydag awdurdodau addysg, asiantau a'r swyddfa cynhyrchu fel bod modd cael y trwyddedau i blant
  9. adnabod hebryngwyr a thiwtoriaid er mwyn bodloni gofynion
  10. gwirio cywirdeb amserlenni yn unol â'r nodiadau cynghori o ran castio
  11. trefnu a chynnal prosesau dewis er mwyn dod o hyd i gyfranwyr cefndir priodol
  12. dosbarthu rhestri dadansoddi costau a gwisgoedd ecstras i'r adrannau priodol heb oedi
  13. rhoi gwybodaeth am y newidiadau i weithgareddau wedi’u trefnu i’r holl bobl berthnasol heb oedi 
  14. rhannu a chadarnhau manylion taflenni galwadau gyda'r holl adrannau perthnasol
  15. creu a chadw ffeiliau Iechyd a Diogelwch a'r holl ardystiadau angenrheidiol eraill yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddatgymalu sgript er mwyn dod o hyd i wybodaeth berthnasol
  2. sut i adnabod pa adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cynyrchiadau
  3. sut i gyfarparu swyddfa gynhyrchu yn briodol
  4. gweithgareddau cyn cynhyrchu sydd angen eu cynllunio a'u trefnu gan gynnwys amserlen ymarfer, amserlen gwisgoedd a thiwtora
  5. sut i adnabod gofynion hyfforddiant a thiwtora'r cast a'r criw
  6. sut i werthuso a dewis darparwyr hyfforddiant addas
  7. sut i lunio a rheoli amserlen ymarferion a gwisgoedd cyn cynhyrchu er mwyn diwallu anghenion yr amrywiol adrannau
  8. sut i drefnu cyfarfodydd cynhyrchu a rhagchwiliadau technegol fel bo'r angen
  9. beth fydd eu hangen ar yr adrannau amrywiol yn ystod y cyfnod cyn cynhyrchu o ran aelodau cast
  10. ffactorau gall beri oedi gyda gweithgareddau cynhyrchu a chyn cynhyrchu
  11. pwysigrwydd cyflawni gwaith erbyn y terfynau amser

  12. cyfreithiau trwyddedu sy'n llywodraethu caniatâd gweithio i blant, a'r cyrff a graddfeydd amser priodol ynghlwm â'u prosesu

  13. gwahanol weithdrefnau pob Awdurdod Addysg Lleol a phan fo'n angenrheidiol, sut i drefnu ymddangosiadau mewn llys i gadarnhau cyfrifoldeb dros blant
  14. pwy ddylai dderbyn dadansoddiadau costau, amserlenni ymarfer ac amserlenni gwisgoedd yr ecstras
  15. gofynion arbennig ar safle'r uned ar gyfer ffilmio ar leoliad mewn amrywiaeth o amgylchiadau ac amodau ffilmio
  16. gofynion arbennig ar gyfer ffilmio dramor a sut i baratoi trwyddedau
  17. trefniadau ar gyfer trwyddedau gwaith y DU ar gyfer y cast a'r technegwyr
  18. pwysigrwydd casglu manylion cyswllt cywir a gwybodaeth am y cast a'r criw
  19. yr angen am ddogfennau ategol cywir
  20. sut i baratoi'r ffeil Iechyd a Diogelwch ac unrhyw ardystiadau eraill
  21. goblygiadau'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP15

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cynllunio