Dewis criw a chyflenwyr er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad

URN: SKSP14
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chadarnhau manylion ar gyfer y criw, cyfleusterau a gwasanaethau technegol angenrheidiol ar gyfer cynyrchiadau.

Mae'n ymwneud â gwahodd cyflenwyr i geisio am gytundebau a dewis criw a chyflenwyr gall fodloni gofynion y cynhyrchiad erbyn y dyddiadau cau.

Mae'n ymwneud â thrin a thrafod cytundebau hyd nes y byddan nhw wedi'u llofnodi. Gall y cyflenwyr hyn olygu llogwyr offer technegol a storfeydd cyfleusterau.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am ddewis criwiau a chyflenwyr gan gynnwys rheolwyr cynhyrchu, cydlynwyr cynhyrchu a chyfarwyddwyr cynorthwyol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyfweld ag a dewis criw arfaethedig sy'n meddu ar y gallu a'r cyfaddasrwydd i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  2. derbyn tendrau, amcan brisiau a dyfynbrisiau gan gyflenwyr adnoddau dichonol
  3. asesu cost ac ansawdd amcan brisiau gan gyflenwyr arfaethedig yn unol â'r gofynion cynhyrchu a'r gyllideb
  4. adnabod cyflenwyr cyfleusterau a gwasanaethau technegol arfaethedig a dewis y rheiny sy'n medru bodloni gofynion y cynhyrchiad ac erbyn y dyddiadau cau
  5. trin a thrafod cytundebau o dan ganllawiau undeb neu gyfundrefnol neu gytundebau masnach sydd oddi fewn y paramedrau cyllidebol
  6. trefnu cytundebau sy'n bodloni gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol ac sy'n cynnwys manylion cyflawn a chywir ynghylch cyfraniad yr unigolyn neu gyflenwr
  7. gwirio bod gwiriadau diogelu a thasgau archwilio wedi'u cyflawni yn unol â'r gofynion lleol
  8. cadarnhau bod yr holl gytundebau wedi'u llofnodi gan yr holl bartïon perthnasol
  9. monitro perfformiad y criw a chyflenwyr er mwyn gofalu caiff amodau'r cytundebau eu cyflawni
  10. cadarnhau fod y criw a'r cyflenwyr yn meddu ar eu hyswiriant eu hun pan fo'i angen
  11. trefnu unrhyw yswiriant ac ardystiadau gofynnol ar gyfer unrhyw waith peryglus
  12. trefnu polisïau yswiriant o ran cynhyrchu a chyflawni cyllid er mwyn bodloni gofynion
  13. cwblhau dogfennau cywir sy'n dangos bod y criw a chyflenwyr yn ymwybodol o'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a'u bod yn meddu ar y cymwysterau a thystysgrifau priodol
  14. cadarnhau bod gyrwyr cerbydau yn meddu ar drwyddedau gyrru perthnasol a'u bod yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i fanteisio ar ffynonellau gwybodaeth ynghylch cyflenwyr arfaethedig
  2. sut i fanteisio ar ffynonellau gwybodaeth ynghylch aelodau criw arfaethedig
  3. sut i adnabod timau creadigol priodol ar gyfer y cynhyrchiad
  4. canllawiau yn ymwneud â dewis cast a chriw
  5. y gweithdrefnau ar gyfer casglu data gan gynnwys data am amrywioldeb
  6. sut i drin a thrafod cyfraddau a chytundebau gyda'r criw a chyflenwyr
  7. sut i weithredu proses tendro neu geisio yn unol â'r gofynion cyfundrefnol 
  8. sut i lunio cytundebau a chadarnhau eu bod wedi'u llofnodi'n gywir gan bartïon perthnasol
  9. gofynion iechyd a diogelwch, gan gynnwys y Rheoliadau Amser Gweithio perthnasol
  10. y dulliau mwyaf priodol o fonitro perfformiad yn y gweithle
  11. y trwyddedau ac ardystiadau angenrheidiol sy'n ofynnol
  12. y gofynion treth gall fod yn berthnasol
  13. sut i gadarnhau bod yswiriant a thystysgrifau wedi'u derbyn ac wedi'u diweddaru
  14. y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y criw a chyflenwyr
  15. goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymdrin â diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP14

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Criw, Cyflenwadau