Rheoli gwaith cynllunio cyffredinol y cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwaith cynllunio cyffredinol ynghlwm â chynyrchiadau unwaith caiff amserlenni eu cyhoeddi.
Mae'n ymwneud â gofalu caiff cynlluniau ac amserlenni priodol, yn ymwneud â holl gamau cynyrchiadau, eu cynhyrchu a'u cytuno. Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod y bobl, lleoedd, cyfarpar a deunyddiau angenrheidiol.
Mae'n ymwneud â gofalu bod y systemau monitro a gohebu priodol mewn grym.
Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod ffactorau gall effeithio ar y broses ffilmio. Ymysg y ffactorau posib mae cytundebau contract a chydymffurfio gyda rheoliadau, gwyliau crefyddol a diwylliannol, gwahaniaethau diwylliannol, yr hinsawdd ddaearyddol a'r oriau ffilmio sydd ar gael.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer rheolwyr cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y cyfrifoldebau, camau a thasgau sylweddol ac angenrheidiol i gyflwyno cynhyrchiadau gan gadw at y gyllideb a'r amserlen ofynnol
- cydweithio gyda chydweithwyr ac adrannau i bennu'r prif elfennau a graddfeydd amser angenrheidiol i fodloni cyfarwyddiadau creadigol
- defnyddio dulliau cynllunio cynyrchiadau priodol ar gyfer y math o gynhyrchiad rydych chi ynghlwm ag o
- trafod a chytuno ar ddewisiadau a newidiadau cyllidebol realistig gyda chydweithwyr pan fo costau'r cynlluniau arfaethedig yn debygol o fod yn uwch na'r gyllideb neu phan fo gofynion adrannol yn uwch na'r cyfyngiadau artistig neu dechnegol
- adnabod a chadarnhau'r lleoedd a safle mwyaf addas ar gyfer cynyrchiadau
- adnabod ffactorau gall achosi oedi i weithgareddau cynhyrchu a llunio cynlluniau mewn argyfwng i fynd i'r afael â nhw
- cadarnhau gyda chydweithwyr perthnasol fod cynlluniau cynhyrchu'n addas i'w pwrpas
- sefydlu systemau monitro a gohebu sy'n bodloni gofynion cynhyrchu a chyfundrefnol
- dw dogfennau cynhyrchu yn unol â gweithdrefnau rheoleiddiol a chyfundrefnol
- rhannu gwybodaeth gyda'r holl bobl berthnasol ar adegau priodol
- gofalu bod asesiadau risg priodol ar gyfer cynyrchiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manylion y cyfarwyddyd creadigol, gan gynnwys y gyllideb a'r dyddiad cyflwyno arfaethedig ar gyfer y cynhyrchiad
- gofynion o ran adnoddau gan gynnwys pobl, offer a deunyddiau
- pwy ydy'r buddsoddwyr
- lle'n briodol, effaith tebygol ffilmio dramor ar ofynion adnoddau
- ffynonellau gwybodaeth ynghylch prisiau cyfredol adnoddau a sut i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau sydd ar gael
- sut i ddefnyddio pecynnau cynllunio cynyrchiadau
- y prif gyfnodau cynhyrchu a'r gweithgareddau ynghlwm
- sut i gydweithio gyda'r adran lleoliadau i adnabod y lleoedd a'r safle mwyaf addas ar gyfer y cynhyrchiad
- pwysigrwydd cadw cofnodion cywir o amcan brisiau
- sut i gydweithio gydag adrannau eraill mewn ffordd adeiladol sy'n hyrwyddo perthnasau gwaith effeithiol
- y cyfrifoldebau, camau, tasgau a dyddiadau targed gofynnol ar gyfer y cynhyrchiad
- sut gall ffactorau amrywiol effeithio ar amseriad a threfn tasgau ac os bydd perfformwyr a chyfranwyr ar gael
sut i ddiwygio'r gyllideb ac amserlen yn dilyn rhagchwiliadau technegol ynghyd â chyfarfodydd yngylch y cynhyrchiad lle'n briodol
sut i lunio neu gymeradwyo asesiadau risg ar gyfer y cynhyrchiad
- goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data
- agweddau cynyrchiadau y mae angen cynnal asesiadau risg yn eu cylch a sut i'w llunio neu gymeradwyo'r rheiny y mae pobl eraill yn eu cynnal