Cynllunio a threfnu cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio amserlenni cynyrchiadau sy'n caniatau digon o amser i fodloni amcanion a defnyddio adnoddau yn effeithiol.
Mae'n ymwneud ag ystyried ffactorau sy'n debygol o oedi'r cynhyrchiad a chadw cynlluniau ac amserlenni cywir a diweddar. Gallai'r y rhain gynnwys cytundebau contract a chydymffurfio gyda rheoliadau, gofynion amrywioldeb, gwyliau crefyddol a diwylliannol, gwahaniaethau diwylliannol, yr hinsawdd ddaearyddol a'r oriau ffilmio sydd ar gael.
Bydd angen ichi feddu ar ddealltwriaeth gref o weledigaeth y Cyfarwyddwr a sut mae ef neu hi yn bwriadu cyflawni hynny ar gyfer y cynhyrchiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- neilltuo digon o amser ar gyfer pob cam o'r broses cynhyrchu er mwyn gofalu y caiff amcanion eu bodloni ac er mwyn gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau
- adnabod cyfrifoldebau sylweddol a threfn a hyd y gweithgareddau a thasgau i gyflwyno cynyrchiadau oddi fewn y gyllideb ac ar amser
- adnabod a chadarnhau lle priodol ar gyfer ffilmio a lle priodol ar gyfer cynhyrchu
- cydweithio gydag adrannau eraill er mwyn pennu'r prif elfennau a graddfeydd amser gofynnol i fodloni cyfarwyddiadau creadigol
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wirio pryd mae'r cast a'r criw ar gael i weithio
- defnyddio adnoddau priodol er mwyn trefnu amserlenni ffilmio
- datblygu cynlluniau ac amserlenni sy'n dwyn i ystyriaeth ffactorau sy'n debygol o achosi oedi yn y gweithgareddau cynhyrchu
- llunio cynlluniau mewn argyfwng sy'n realistig i fynd i'r afael gydag unrhyw oedi
- gwirio gyda phobl briodol eich bod chi wedi derbyn y caniatâd a hawliau angenrheidiol
- gwirio bod y cynlluniau a'r amserlenni cynhyrchu'n gywir ac yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol
- cyflwyno cynlluniau ac amserlenni eglur yn y ffurfiau priodol
- dosbarthu cynlluniau ac amserlenni i bobl berthnasol heb oedi, gan eu hannog i adnabod a mynegi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynghylch dichonolrwydd cynlluniau ac amserlenni
- awgrymu datrysiadau realistig pan gaiff trafferthion gyda rhoi cynlluniau ar waith eu hadnabod
- rhoi gwybod am newidiadau i amserlenni i'r holl bobl briodol ar unwaith
- llunio neu gymeradwyo dogfennau asesu risg priodol
- cynnig gofynion a mynediad penodol ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion gwahanol
- cadarnhau bod amserlenni yn dwyn i ystyriaeth iechyd a diogelwch y cast a'r criw
- cadw amserlenni cynhyrchu mewn man diogel yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod gwybodaeth am y cyfarwyddyd creadigol a gweledigaeth y cyfarwyddwr gan gynnwys y gyllideb a'r dyddiad cyflwyno arfaethedig ar gyfer y cynhyrchiad
- sut i lunio amserlen ar gyfer y cynhyrchiad gan ddefnyddio'r adnoddau priodol
- sut i ddewis y lleoliad daearyddol mwyaf priodol ar gyfer ffilmio a'r safle ar gyfer cynyrchiadau
- y drefn ofynnol a hyd tebygol y gweithgareddau yn ystod gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
- natur a phwysigrwydd gweithgareddau sy'n digwydd yn ystod gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
- ffactorau a all olygu na fydd y cast a'r criw ar gael fel gwyliau crefyddol neu ddiwylliannol
- canllawiau yn ymwneud â dewis cast a chriw
- y gweithdrefnau ar gyfer casglu data ar gyfer cynhyrchiad, fel amrywioldeb neu effaith carbon
- sut mae gwahanol amgylcheddau cynyrchiadau, mathau a maint cynhyrchiad cynhyrchu yn debygol o effeithio ar amserlennugweithgareddau
- effaith tebygol ffilmio dramor ar amserlenni, fel amser teithio, gwahaniaethau amser, hinsawdd ac oriau ffilmio
- pryd bydd angen derbyn caniatâd a hawliau a sut i fynd ati i'w derbyn
- y mathau o argyfyngau all ddigwydd, a sut i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y rhain yn yr amserlen
- ffactorau dylid eu cynnwys mewn amserlen cynhyrchu
- pwy ddylai dderbyn copïau o'r amserlen a phryd
- y mathau o drafferthion allai ymddangos wrth roi'r amserlenni ar waith a sut mae modd mynd i'r afael â nhw
- pwy sydd angen ichi eu hysbysu ynghylch newidiadau i amserlen
- sut i gynnal asesiad risg ar gyfer y cynhyrchiad
unrhyw ofynion arbennig ar gyfer anghenion amrywiol unigolion a sut i roi'r wybodaeth i'r cast a'r criw
goblygiadau’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyfredol sy’n ymdrin â Diogelu Data