Derbyn deunydd archif ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSP11
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â dewis ffilmiau, lluniau llonydd a deunydd sain o archifau ar gyfer cynyrchiadau gan gadw at y cyfyngiadau o ran amser a chostau.
Mae'n ymwneud â chyflwyno eich argymhellion a threfnu cynnwys deunydd mewn cynyrchiadau gan dderbyn caniatâd a thrwyddedau ynghyd â threfnu trosglwyddo deunyddiau i fod ar ffurfiau priodol.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am dderbyn deunydd archif gan gynnwys cydlynwyr cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r angen i ddefnyddio deunydd archif, yn unol â modd amgen o fodloni cyfarwyddiadau cynyrchiadau
- adnabod y mathau o ddeunyddiau archif sydd eu hangen i fodloni cyfarwyddiadau'r cynyrchiadau gan gadw at gyfyngiadau o ran amser, ffurf, cyllideb a gofynion cyfreithiol y cynyrchiadau
- chwilio am ffynonellau deunyddiau angenrheidiol er mwyn gweld ydyn nhw'n bodoli ac ydyn nhw ar gael
- cynnig a chytuno ar ddeunyddiau amgen realistig gyda gwneuthurwyr penderfyniadau pan nad ydy'r deunydd angenrheidiol ar gael
- gofalu fod ffurf y deunydd rydych yn ei dderbyn yn bodloni anghenion y cynyrchiadau
- adnabod cyfyngiadau costau, cyfyngiadau, hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol eraill ynghylch y defnydd o ddeunyddiau
- derbyn caniatâd i ddefnyddio deunyddiau pan fo'n briodol
- P8 dewis deunyddiau sy'n bodloni anghenion y cynyrchiadau ac sydd yn bodloni'r cyfyngiadau o ran amser a'r gyllideb
- cynnig cyfle i weithwyr cynhyrchu perthnasol werthuso deunyddiau wedi'u dewis cyn cytuno ar y dewis terfynol
- trin a thrafod costau a ffioedd cysylltiedig eraill gyda chyflenwyr
- archebu dewis terfynol y deunyddiau heb oedi yn y ffurf dechnegol gywir ac mewn pryd i fodloni dyddiadau cau'r cynhyrchiad
- cadarnhau unrhyw gytundebau trwyddedu yn ysgrifenedig ac yn unol â phrosesau cyfundrefnol
- rhannu costau, cyfyngiadau ac unrhyw orfodaethau cyfreithiol yn ymwneud â deunyddiau penodol gyda gwneuthurwyr penderfyniadau priodol
- cadw cofnodion cywir yn unol â phrosesau cyfundrefnol
- credydu ffynonellau yn unol â'r polisi golygyddol
- paratoi gwaith papur ategol gyda manylion llawn a chywir am y deunyddiau i'w trosglwyddo
- trefnu cyflwyno deunydd wedi'i drosglwyddo er mwyn golygu cyfresi erbyn y dyddiadau cau y cytunwyd arnyn nhw
- adnabod goblygiadau problemau sy'n codi a'u trafod gyda gweithredwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau er mwyn eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam ei fod yn bwysig ichi ragnodi gofynion yn eglur ac yn gryno
- yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol yn effeithio ar y defnydd o ddeunyddiau archif mewn cynyrchiadau
- canllawiau golygyddol perthnasol, gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chwaeth a gwedduster
- ffynonellau deunyddiau sydd ar gael a sut i fanteisio arnyn nhw
- pa opsiynau posib sydd pan fo deunydd penodol ddim ar gael
- ffurfiau technegol amrywiol a sut i'w hadnabod nhw
- mathau o hawlfraint a pha fathau o ddeunyddiau maen nhw'n berthnasol iddyn nhw
- sut i dderbyn trwyddedau a chaniatâd a beth ddylid ymdrin â nhw o ran amodau a thelerau
- sut gall defnyddio deunydd o ac mewn gwahanol wledydd effeithio ar reoliadau hawlfraint
- pa fath o gytundebau i'w defnyddio
- pam ei fod yn bwysig dosbarthu a chofnodi symud deunyddiau
- y polisi golygyddol ynghylch credydu ffynonellau
- sut a phryd i roi gwybod i wneuthurwyr penderfyniadau ynghylch unrhyw gyfyngiadau ar ddeunydd archif
- problemau posib a sut i'w datrys
- sut i drosglwyddo deunyddiau'n ddiogel i gyfleusterau ôl gynhyrchu fel bo'r angen
- cofnodion sydd angen ichi eu cadw gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â symud deunyddiau a manylion hawlfraint
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP11
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Teledu, Ffilm, Archif