Cynnal a chyflwyno gwaith ymchwil ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod gwybodaeth a phobl berthnasol er mwyn cyflawni'r cyfarwyddyd ymchwil. Gall hyn ymwneud â dod o hyd i gyfrannwyr neu gynnal ymchwil ychwanegol a thrylwyr ynghylch cyfnod o hanes neu leoliad.
Mae'r Safon yn ymwneud â diweddaru rhestri cysylltiadau a dod o hyd i bobl addas gall gynorthwyo gyda'r broses. Mae'n ymwneud â chasglu ac asesu gwybodaeth gan ffynonellau amrywiol a gofalu caiff agweddau yn ymwneud â'r gyfraith, cydymffurfio a hawlfraint eu dwyn i ystyriaeth.
Mae hefyd yn ymwneud â chyflwyno canfyddiadau ymchwil yn eglur i wneuthurwyr penderfyniadau.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm ag ymchwilio cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod ffynonellau dichonol o wybodaeth sy'n berthnasol i gyfarwyddiadau ymchwil
- sefydlu cyswllt cychwynnol gyda'r bobl berthnasol er mwyn adnabod eu mewnbwn dichonol a dwyn i ystyriaeth agweddau yn ymwneud â'r gyfraith, moeseg, cydraddoldeb ac amrywioldeb
- casglu gwybodaeth briodol o ffynonellau ysgrifenedig neu ar-lein
- gofalu eich bod yn gweithio gan gydymffurfio gyda chodau a rheoliadau perthnasol
- cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr o ffynonellau gwybodaeth, diweddaru rhestri cysylltiadau pan fo'n briodol a chadw copïau o restri cysylltiadau blaenorol
- llunio cwestiynau yn ymwneud ag ymchwil a chanfyddiadau
- defnyddio dulliau priodol o gwestiynu er mwyn manteisio ar wybodaeth ofynnol
- canfod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen a lle gallwch chi ddod o hyd iddi
- gwirio unrhyw wybodaeth anghyson neu groesddywedol gyda ffynonellau priodol
- gwerthuso'r wybodaeth rydych wedi ei chasglu o ran ei haddasrwydd a dewis pa ddeunydd fydd yn cyflawni cyfarwyddiadau ymchwil orau
- gwirio ffynonellau a chyfranwyr ar gyfer cynyrchiadau yn unol â gofynion cyfundrefnol
- cyflwyno crynodeb cywir am eich canfyddiadau i wneuthurwyr penderfyniadau priodol
- cyflwyno canfyddiadau ar ffurf y cytunwyd arni ac erbyn y dyddiadau cau sydd wedi'u gosod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o adnoddau ymchwil sydd ar gael ac sy'n addas ar gyfer cynyrchiadau penodol
- yr ystyriaethau masnachol, cyfreithiol, moesegol ac ystyriaethau o ran cydraddoldeb ac amrywioldeb sy'n berthnasol wrth ichi gysylltu gyda phobl
- codau ymarfer a rheoliadau eraill sy'n berthnasol
- pwy i gysylltu gyda nhw i dderbyn gwybodaeth
- ffyrdd o gadw cofnodion hawdd eu trin a chynhwysfawr am gysylltiadau
- goblygiadau deddfwriaethau a rheoliadau cyfredol yn ymdrin â Diogelu Data
- sut i fanteisio ar ffynonellau dichonol o wybodaeth a gwneud cyswllt cychwynnol mewn dull priodol
- arddull a chyflwyniad wrth ofyn cwestiynau
- sut i wirio ffynonellau am eu dilysrwydd a chywirdeb
- sut i lunio a chynnal nodiadau a chofnodion cywir ar ganfyddiadau
- sut i ganfod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen a sut i fanteisio arni
- sut i wirio ffynonellau a dosbarthwyr ar gyfer cynhyrchiad
- ffurfiau a dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno canfyddiadau
- pwy ddylech chi gyflwyno canfyddiadau iddyn nhw a pha wybodaeth sydd angen iddyn nhw ei gwybod
- sut i gyflwyno canfyddiadau yn eglur a chryno
- pa ffactorau i'w dwyn i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd gwybodaeth