Datblygu syniadau ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu

URN: SKSP1
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio, datblygu a chyflwyno syniadau, gan fanteisio ar eich gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth o ofynion y diwydiant.

Mae'n ymwneud â meddwl am syniadau, datblygu syniadau rydych eisoes wedi meddwl amdanyn nhw drwy awgrymu gwelliannau a deall sut caiff syniadau dichonol eu rhoi ar waith wrth ymwneud â gwahanol gyfryngau a ffurfiau. Gallwch weithio ar eich liwt eich hun neu gydweithio gydag eraill.

Bydd angen ichi ddangos gwybodaeth o'r farchnad, y tueddiadau presennol ac yn y dyfodol a sut mae eich syniad chi yn cydymffurfio gyda'r paramedrau hynny. Bydd hefyd angen ichi ystyried unrhyw ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a moesol pan fo'n briodol. 

Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwybod sut i lunio'r syniad a'i gyflwyno i fuddsoddwyr dichonol.
Yn ogystal fe fydd angen ichi ofalu bod y syniad yn cynrychioli eich brand chi / brand personol y cwmni cynhyrchu ei  hun a'r buddsoddwyr dichonol. Bydd angen ichi ymrwymo i'r syniad a gofalu bod hyn yn amlwg wrth ichi ddatblygu eich cais.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â datblygu syniadau ar gyfer cynyrchiadau, gan gynnwys rheolwyr cynhyrchu a staff golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ymchwilio a dadansoddi data a gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol er mwyn datblygu syniadau
  2. datblygu syniadau sydd â'r dichonolrwydd a'r sylwedd i fodloni gofynion cynhyrchu a'r farchnad
  3. awgrymu syniadau neu welliannau i syniadau sy'n dwyn i ystyriaeth y ffurf, yr arddull, y gyllideb a'r gynulleidfa ddichonol             
  4. amlygu'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng syniadau a chynyrchiadau tebyg er mwyn gwirio gwreiddioldeb syniadau
  5. datblygu cynigion amlinellol ac ymdriniaethau manwl sy'n defnyddio iaith eglur a darbwyllol 
  6. llunio deunyddiau blasu pan fyddan nhw o help i gyflwyno syniadau i eraill
  7. addasu ymdriniaethau i fodloni gofynion o ran yr amserlen a'r gyllideb
  8. defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn cadarnhau bod ffactorau risg lleiaf posib i brosiectau a'r cwmni cynhyrchu
  9. cydymffurfio gyda holl reoliadau a chodau ymarfer perthnasol wrth ddatblygu syniadau
  10. awgrymu cast a chriw wedi'u henwi rydych chi'n eu hystyried yn addas ar gyfer cyflawni cynyrchiadau
  11. cynnwys gwybodaeth briodol wrth gyflwyno syniadau i gynhyrchwyr, arianwyr a golygyddion comisiynu er mwyn sicrhau buddsoddiadau a chyllid
  12. pennu'r dichonolrwydd ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu aml-lwyfan gorau posib
  13. trafod a dod i delerau gyda phobl briodol yn ystod y broses datblygu syniadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ffynonellau syniadau a sut i fanteisio arnyn nhw
  2. tueddiadau a datblygiadau cyfredol ynghyd ag anghenion newidiol y diwydiant
  3. gwahanol ffurfiau a'r disgwyliadau ynghlwm â phob un
  4. holl agweddau cynhyrchu, o ddatblygu i gyflwyno
  5. gofynion creadigol a chyllidebol buddsoddwyr
  6. sut gall ffactorau cyllidebol, technegol a logistaidd effeithio ar syniadau ac amserlenni
  7. sut i wirio bod syniadau yn rhai gwreiddiol a ddim yn gwrth-ddweud rheoliadau neu bolisïau
  8. sut i lunio deunyddiau blasu effeithiol a phryd y bydd hi'n fuddiol ichi wneud hynny
  9. effaith gofynion cynhyrchu, polisïau golygyddol a'r gynulleidfa ddichonol ar lwyddiant syniadau
  10. y fframwaith rheoleiddiol a'r codau ymarfer ar gyfer cynyrchiadau
  11. ystyriaethau cyfreithiol a moesegol allweddol a fydd yn effeithio ar y defnydd o wybodaeth mewn cynyrchiadau
  12. sut i leihau ffactorau risg i gynyrchiadau a chwmnïau cynhyrchu
  13. sut i allanoli gwybodaeth datblygu ac ymwybyddiaeth o'r farchnad a phryd mae'n briodol ichi wneud hynny
  14. gwerth a budd cydweithio gydag asiantau gwerthiannau a dosbarthwyr
  15. sut gall cynlluniau dosbarthu ac aml-lwyfan gorau posib dichonol fod yn fuddiol ar gyfer syniadau
  16. sut i lunio a chyflwyno pecynnau effeithiol ar gyfer buddsoddwyr dichonol
  17. sut i gydweithio gydag eraill mewn ffordd galonogol ac adeiladol drwy gydol y broses datblygu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP1

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Deunyddiau, Syniadau