Rhaglennu a gweithredu consolau goleuo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod a phennu, mewn ymgynghoriad â'r person sy'n gyfrifol am ddylunio'r goleuadau, a'r gweithredwr pylu os yn briodol, y sianeli rydych yn bwriadu eu defnyddio, a gosod y sianeli hynny ar y consol.
Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â newid gosodiadau'r consol gwreiddiol yn gywir ac ar unwaith. Mae'n ymwneud ag addasu'r cydbwysedd goleuo i fodloni gofynion, boed hynny ar gyfer Teledu, digwyddiadau byw neu saethiad corfforaethol / stiwdio, addasu'r newidiadau mewn goleuo'n gyson, rheoli gweithrediadau goleuo sydd allan o'r golwg a pharhau i gyfathrebu gyda'r staff cynhyrchu.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel arbenigwyr consolau goleuo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod, mewn ymgynghoriad â'r person perthnasol, fel y dylunydd goleuo, pa osodiadau consol gaiff eu defnyddio
- trafod a chytuno ar unrhyw ofynion arbennig, gyda'r person perthnasol, ac unrhyw gyfyngiadau neu broblemau ynghlwm â'r system
- gosod sianeli ar y consol er mwyn cynhyrchu'r effaith ddymunol ar gyfer y saethiad camera
- gosod a defnyddio systemau wrth gefn pan fo'n briodol
- gweithredu'r consol yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch
- cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol pan fo'n briodol
- addasu'r cydbwysedd golau er mwyn bodloni gofynion y person sy'n gyfrifol am ddylunio'r goleuadau
- rheoli gweithrediadau goleuo allan o'r golwg
- unioni'r systemau monitro llun pan fo'n briodol
- addasu'r goleuadau'n gyson, ac ar y cyd â'r cynhyrchiad
hysbysu'r person sy'n gyfrifol am ddylunio'r goleuo am unrhyw ddiffygion neu namau ar y cyfarpar allai effeithio ar y ffilmio neu’r saethu
- addasu'r sianeli unigol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- dehongli ffyrdd gall cydbwysedd y goleuadau newid ar y cyd â symudiadau'r camera a pherfformwyr
- adnabod a thrwsio problemau a chyfyngiadau ynghlwm â'r cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad gan gynnwys y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr
- gweithredu a monitro'r fideo gaiff ei ddefnyddio
- cynllunio neilltuo sianel rheoli DMX a systemau data DMX (ceblau a chaledwedd)
- cyflawni gwaith 'cyweirio' cywir gyda sianeli rheoli DMX i gyfarpar DMX
- gofalu caiff rheoliadau DMX a systemau data eu defnyddio'n unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- cadw a chynnal cofnodion o weithredu systemau goleuo er mwyn sicrhau dilyniant ail-saethu pan fo'i angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i raglennu'r consol er mwyn cynhyrchu ystod o effeithiau a sut i ddilyn gwahanol fathau o blotiau goleuo
- sut i osod, rhaglennu a gweithredu gwahanol fathau o gonsolau a chyfarpar yn ddiogel ac yn fanwl gywir
- pa weithdrefnau wrth gefn i'w rhoi ar waith
- gweithredu gwahanol fathau o gonsolau er mwyn cynhyrchu gwahanol fathau o effeithiau
- effeithiau a defnyddio goleuadau strôb yn ddiogel
- sut i ddehongli gofynion darluniadol y cynhyrchiad drwy weithredu dewisiadau dynamig wrth ymwneud â chydbwysedd y goleuadau
- y gofynion iechyd a diogelwch, a sut maen nhw'n effeithio ar ymarferion rhaglennu, gweithredu a gweithiol gwahanol fathau o gonsolau
- sut gall perfformiad cerddorol effeithio ar weithrediad y consol ac unrhyw newidiadau goleuo dilynol
sut i adnabod unrhyw broblemau neu gyfyngiadau ynghlwm â'r cynhyrchiad, a sut i ddatrys y rhain
- y gwahanol fathau o systemau cyfathrebu sydd ar gael ar gyfer y cynhyrchiad
- y gweithdrefnau ar gyfer defnyddio'r monitor fideo
- wrth ymwneud â chynyrchiadau teledu, y berthynas gyda rheoli lluniau a gyda'r cyfarwyddwr goleuo
- sut gaiff DMX ei ddefnyddio er mwyn rheoli cyfarpar goleuo ac effeithiau
pensaernïaeth, egwyddorion a chyfyngiadau systemau DMX
- sut i ddefnyddio cyfarpar ymylol DMX
- pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer dilyniant ail-saethu