Darparu goleuadau er mwyn bodloni’r effaith ddymunol

URN: SKSL8
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu systemau goleuo ar danbeidrwydd golau priodol sy'n bodloni gofynion y cynhyrchiad. Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â sicrhau cyfeiriad, ansawdd a lliw golau dymunol, ynghyd â rheoli ac addasu'r golau a chynnig amgylchedd gweithio diogel.

Mae'r safon hon yn ymdrin â defnyddio'r systemau goleuo canlynol: unedau goleuo, lampau tyngsten, goleuadau LED, goleuadau HMI, Fflworoleuadau.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio bod yr holl ffynonellau golau'n gweithredu'n gywir o fewn cyfyngiadau eu dyluniad

  2. cadarnhau caiff cysylltwyr a systemau goleuo eu hadnabod gyda labeli wedi'u rhifo er mwyn gofalu cysylltiad a rheolaeth gyson

  3. dilyn cyfarwyddyd er mwyn addasu'r ffynhonnell golau o ran gosodiad, tymheredd golau, ongl y pelydr a gosodiad baner neu adlewyrchydd
  4. cadarnhau bod yr hidlyddion priodol mewn lle ac yn cynhyrchu'r effaith ddymunol.
  5. defnyddio ategolion i reoli'r ffynhonnell golau er mwyn bodloni'r effaith ddymunol
  6. defnyddio systemau goleuo neu reoliadau balast er mwyn bodloni'r effaith ddymunol
  7. defnyddio effeithiau goleuo ar gyfer y cynhyrchiad gyda chyfarpar arbenigol, mewn amgylchedd diogel ac sydd wedi'i reoli 
  8. hidlo a chywiro'r goleuadau'n gyson
  9. cyfathrebu gyda chydweithwyr pan nad oes modd cyflawni gofynion y cynhyrchiad
  10. uno tymheredd lliw ffynonellau golau cymysg pan fo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahanol fathau o gyfarpar mesur golau sydd ar gael a'u defnyddiau
  2. sut gall lefelau goleuni effeithio ar awyrgylch y cynhyrchiad
  3. sut mae eich ymarferion gwaith yn effeithio ar adrannau eraill
  4. y gwahanol systemau goleuni a'u defnydd er mwyn bodloni'r effaith ddymunol
  5. y mathau o gyfarpar ategol sydd ar gael fel drysau ysgubor, caeadau pylu, 'gobos', baneri, byrddau dotwaith, hidlyddion, sgrin dryledol a'r meini prawf er mwyn eu defnyddio'n ddiogel
  6. sut i gynhyrchu ystod o effeithiau gan ddefnyddio gwahanol unedau goleuo, cyfarpar ategol a thechnegau
  7. sut mae'r gwahanol ffynonellau golau, deunyddiau tryledu, a hidlyddion neu adlewyrchyddion rydych yn eu defnyddio'n cynhyrchu'r effaith ddymunol
  8. y gwahanol gynlluniau goleuo cyffredin a sut i'w dehongli
  9. technegau cywiro lliwiau a sut mae eu defnyddio'n effeithio ar y canlyniad
  10. defnyddiau ffynonellau caled a meddal a sut i'w rheoli 
  11. pryd a pham ddylid defnyddio golau adlewyrchedig
  12. y gwahanol fathau o systemau a ffynonellau goleuo, a sut i ofalu eu bod yn gweithredu yn y ffordd orau bosibl

  13. sut i ddefnyddio lensys par i siapio'r pelydr golau er mwyn bodloni'r effaith ddymunol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL11

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

goleuo; dylunio; systemau goleuo; effaith ddymunol; ffynonellau golau; hidlyddion; gofynion cynhyrchu; cynllun goleuo