Gosod gwifrau ar gyfer cyfarpar ymarferol a chyfarpar cyffredinol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio cyfarpar ymarferol gan gymharu gyda'r rhestr goleuo, gosod gosodion a ffitiadau a gosod cyfarpar celfi ar gyfer y saethiad. Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin ag adnabod y gofynion o ran trydan a gosod a gwirio goleuadau fflworoleuol.
Mae'r safon hon yn ymdrin â gwybodaeth am a gweithredu gan gydymffurfio gyda'r safonau trydanol a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo, sef BS7671 a BS7909.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydlynu a chadarnhau gofynion trydanol gyda'r person sy'n gyfrifol am y goleuo, cyn mynd ati i osod y gwifrau
- asesu'r cyfarpar a chadarnhau ei fod yn addas i'w bwrpas ac yn ddiogel i'w ddefnyddio
- gofalu bod y cyfarpar yn bodloni'r gofynion o ran gwrthiant inswleiddio a llwytho
- gofalu bod y cyfarpar wedi'i ddiogelu'n drydanol, ei ddaearu a bod ganddyn nhw ffiws
- gwirio'r cyfarpar a'u gosodiad cyn eu defnyddio i ofalu bod yr elfennau trydanol yn ddiogel a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio
- asesu a bodloni'r gofynion o ran yr ynni trydanol er mwyn gosod y cyfarpar
- asesu ynni trydanol a chydnawsedd y gwahanol fathau o falastau fflworoleuol y byddwch yn eu defnyddio
- adnabod peryglon dichonol a hysbysu'r person sy'n gyfrifol amdanyn nhw
- canfod a thrwsio unrhyw namau gyda'r cyfarpar a'r gwaith gosod
- gosod gosodion a ffitiadau a gofalu eu bod yn bodloni'r gofynion o ran iechyd a diogelwch
troi’r cyfarpar ymlaen cyn eu defnyddio er mwyn gofalu eu bod yn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- defnyddio holl osodion a ffitiadau ymarferol gan gynnwys goleuadau arbennig a gwifrau gan ofalu eu bod ar y gyfradd dylunio cywir
- defnyddio systemau gwifrau ar gyfer pob mathau o diwbiau fflworoleuol a neon
- adnabod a labelu unrhyw folteddau ansafonol
- defnyddio'r cyfarpar / gosod
- cyfarwyddo eraill ynghylch defnyddio unrhyw gyfarpar yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
- y safonau a'r codau ymarfer trydanol perthnasol a sut i'w gweithredu
pwysigrwydd cynllunio weirin a systemau ymarferol i ddwyn i ystyriaeth graddoli a llwytho
sut i neilltuo digon o gwmpas er mwyn medru addasu'r cyfarpar ymarferol wedi ichi eu gosod
- pwysigrwydd gwybod pa geblau a chysylltwyr sy'n addas ar gyfer y defnydd gofynnol
- y gwahaniaethau rhwng gwifriad cyflin neu gyfres, sut i ddefnyddio ffiwsys, defnyddio torwyr cylchedau a phryd i ddefnyddio Dyfeisiau Cerrynt Gweddilliol (RCDs)
sut i wirio bod cyfarpar yr adran celfi bwriadedig yn gydnaws gyda'r cyflenwad trydan sydd ar gael, ac y bydd yn gweithio fel y disgwylir iddo wneud
- pryd a sut i wirio cyfarpar a gosodiadau er mwyn cydymffurfio gyda rheoliadau
- sut i adnabod, cyn mynd ati i'w defnyddio, bod modd gofalu bod hen gyfarpar byddwch yn eu defnyddio'n cydymffurfio gyda'r safonau a'r codau ymarfer trydanol perthnasol
- goblygiadau cywiriad ffactor pŵer yn enwedig goleuadau fflworoleuol
- sut i osod a defnyddio goleuadau, gan ddefnyddio goleuadau fflworoleuol a systemau cychwyn
sut i ganfod a thrwsio unrhyw namau ar y cyfarpar a’r gosodiadau
- sut i ddefnyddio goleuadau arbennig e.e. neon, deuodau allyrru golau (LED), laser a systemau cychwyn
- sut i ddefnyddio folteddau eithriadol o isel hyd at 50V AC neu 110V DC
- sut i ddiogelu'r cysylltiad is-gylched
- sut i adfer cyfarpar i'w ffurf gwreiddiol wedi ichi eu defnyddio
- pwysigrwydd gofalu nad ydy'r gosodiad yn beryg i'r criw na'r perfformwyr
- sut i gyfarwyddo eraill ynghylch defnyddio'r cyfarpar yn ddiogel pan fydd perfformwyr neu bobl anghymwys yn ei weithredu