Gosod cyfarpar goleuo gan ddefnyddio ategolion a chyfarpar gosod

URN: SKSL6
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod gosodion goleuo a'r isadeiledd yn y safle gofynnol yn dilyn cyfarwyddiadau ar lafar gan y person perthnasol fel y Giaffar neu Giaffar Rigio neu gan ddefnyddio cynllun rigio goleuo.

Mae'r safon hefyd yn ymdrin â gosod strwythurau i adeiladau ac ychwanegu ategolion a gorffeniadau mewn dull diogel.

Yn ogystal, mae'r safon hon yn ymwneud â sut i dderbyn caniatâd i osod ategolion ar adeiladau, a gofalu bod eraill yn ymwybodol o'r gweithrediadau gofalus wrth weithio yn yr ardal rigio.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfrifo pwysau a llwyth uchaf yr holl gyfarpar penodedig yn gywir
  2. dewis a defnyddio nwyddau gafael ar gyfer gosod systemau goleuo'n eu hunion safle gofynnol
  3. gofalu fod y cyfarpar diogelu personol sydd wedi'i ddewis ar gyfer defnydd yn bodloni'r gofynion diogelwch ar gyfer gweithio ar uchder
  4. gofalu bod y pyst neu'r cyfarpar goleuadau wedi'u gosod yn unol â'r cynllun rigio goleuo
  5. diogelu a chlymu lampau gan ddefnyddio'r clymau cywir
  6. gofyn am ganiatâd gan y personol penodol a / neu fudiad i osod ategolion a gorffeniadau ar adeiladau
  7. marcio mannau gwaith i'r adeilad ac er mwyn aelodau eraill eich tîm
  8. hysbysu'r tîm cynhyrchu a'r holl bobl berthnasol am y gweithrediadau gofynnol pan fydd angen cymryd gofal arbennig yn yr ardal rigio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manylion canfyddiadau'r asesiad risg er mwyn gofalu eich bod yn gosod y cyfarpar goleuo'n ddiogel
  2. sut i osod llwythi cyfarpar goleuo'n ddiogel gan ddefnyddio cyfarpar gosod neu gyfarpar crogi
  3. llwyth uchaf y nwyddau gafael goleuo a'r pyst goleuadau
  4. sut mae llwyth uchaf cyfarpar gafael goleuo yn newid wrth ei symud
  5. sut i withredu a symud pyst neu gyfarpar goleuo ar bob math o dir 
  6. sut i ofalu bod unrhyw system cefnogi wedi'i osod yn gwbl ganolog er mwyn atal damweiniau 
  7. sut i weithredu gan gydymffurfio gyda chynllun rigio goleuo neu drwy wrando ar gyfarwyddiadau gan y person sy'n gyfrifol am y goleuo
  8. y rhesymau dros a goblygiadau rheoliadau yn ymwneud â defnyddio cyfarpar goleuo a gosod

y rhesymau dros oblygiadau rheoliadau yn ymwneud â gweithrediadau codi a chyfarpar codi

  1. pwysigrwydd gwirio cyfarpar diogelu personol cyn ei ddefnyddio pan fyddwch yn gweithio ar uchder
  2. rheoliadau iechyd a diogelwch yn ymwneud ag ymarferion gweithio'n ddiogel ar uchder
  3. yr ystod o wahanol glymau sy'n bodloni safon y diwydiant a sut i'w defnyddio

  4. pwysigrwydd hysbysu'r tîm cynhyrchu a phobl berthnasol o'r rhagofalon hanfodol wrth rigio mannau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL8

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cynllun rigio; llwyth uchaf, ategolion; cyfarpar goleuo; cyfarpar gosod; asesiad risg; cyfarpar diogelu personol; rigio