Paratoi cyfarpar a systemau goleuo’n defnyddio batri
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod y gwahaniaethau rhwng goleuadau Cerrynt Eiledol (AC) a Cherrynt Uniongyrchol (DC), paratoi batris a gwefrwyr a defnyddio'r cyfarpar goleuo sy'n defnyddio batris.
Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â dewis gwahanol fathau o fatris, eu defnyddio a'u cadw'n ddiogel.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Golau, 'Best Boys' a Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dilyn rheoliadau iechyd a diogelwch wrth gyflawni'ch swydd, gan gynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol
- cyfrifo'r llif cyfredol mewn cylchedau Cerrynt Uniongyrchol
- gofalu nad ydy terfynellau cysylltiadau heb eu gorchuddio yn beryg
- gwirio integredd y gwifriad ar wregysau batri
- cysylltu gwrthdroyddion i systemau batri'n ddiogel
- amcangyfrif oes defnydd batri wedi'i wefru'n llawn yn amodol ar y llwyth
- marcio a labelu batris yn unol â statws eu gwefr
- labelu, storio a symud batris yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd a diogelwch perthnasol
- gofalu caiff yr holl fatris eu gwefru yn eu tro a'u bod wedi'u marcio'n gywir pan gân nhw eu cyflwyno
- gofalu caiff cyfarpar sy'n defnyddio batris eu defnyddio'n ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rheoliadau iechyd a diogelwch a sut mae'r rhain yn effeithio ar eich gwaith ac ymarferion diogelwch gan gynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol
- y gwahaniaeth rhwng systemau pŵer Cerrynt Eiledol a Cherrynt Uniongyrchol
y gwahaniaeth rhwng gwefru cyfres a gwefru paralel
y peryglon a’r cyfyngiadau wrth ddefnyddio nwyddau batri gan gynnwys gwefru
y paramedrau a'r cyfyngiadau gwefru yn ymwneud â nwyddau batri asid plwm, nicel-cadmiwm a lithiwm; ynghyd â'u cyfraddiadau
- y problemau all godi yn sgil camddefnyddio polaredd neu ddefnyddio'r polaredd anghywir
sut i drin colled asid batri a beth ddylid ei wneud i adfer y sefyllfa
- sut i symud a chadw batris yn ddiogel
- sut i gyflawni'r weithred orfodol o labelu batris a pham fod angen gwneud hynny
- y dulliau diogel ar gyfer cael gwared ar fatris a'r gofynion yn ôl polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol perthnasol
- pwysigrwydd gofalu caiff yr holl fatris eu gwefru yn eu tro a sut i gyflawni'r broses
- defnyddio cyfarpar sy'n defnyddio batris yn ddiogel