Paratoi a gweithredu systemau goleuadau dadwefru
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a rigio cyfarpar dadwefru golau, cyflawni gwiriadau diogelwch a pharatoi unrhyw oleuadau a systemau arbenigol. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â gweithredu ystod o gyfarpar goleuo, goleuo'r set a rhoi gwybod i berfformwyr a chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill sut i ddefnyddio'r cyfarpar yn ddiogel.
Mae'r safon hon yn ymdrin â defnyddio'r systemau goleuo canlynol: unedau goleuo, lampau tyngsten, goleuadau LED, goleuadau HMI a Fflworoleuadau.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwybodaeth am a gweithredu gan gydymffurfio gyda'r safonau trydanol a'r codau ymarfer cymeradwy, sef BS7671 a BS7909.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal gwiriadau gweithredol a diogelwch ar y cyfarpar cyn ei ddefnyddio gan gydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfundrefnol a rheoliadau iechyd a diogelwch cyfredol
- rigio systemau dadwefru goleuadau'n unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- adnabod problemau'n gysylltiedig gyda blaen-geblau'r systemau goleuo, balastau a phennau'r systemau goleuo cyn eu hailosod
- gwirio'r balastau electronig i weld ydy'r gosodiad dim fflachio a modd mud yn gweithio a bod yr holl gyfarpar dadwefru'n gweithio ar yr un amledd
gwarchod y balastau electronig rhag amodau amgylcheddol a fyddai’n effeithio ar eu dibynadwyedd
- asesu risgiau er mwyn atal unrhyw ddifrod i'r systemau goleuo
- hysbysu'r tîm cynhyrchu a'r criw o unrhyw ragofalon arbennig sy'n ymwneud â'r cyfarpar a'i ddefnydd
- gweithredu a symud y cyfarpar yn ofalus ac yn ôl y gofyn gan y person hwnnw sy'n gyfrifol am y goleuo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o systemau goleuadau dadwefru a phryd y dylid eu defnyddio
- folteddau ac amleddau'r cyflenwad trydan lleol, a'u heffaith ar systemau goleuadau dadwefru
- ymarfer gorau'r diwydiant ynghylch gweithdrefnau defnyddio, trin a chael gwared ar lampau
- y disgrifiad technegol am y cyfarpar byddwch yn eu defnyddio
argymhellion y gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio, gan gynnwys onglau llosgi lampau, a gosod lampau/bylbiau
- ymwybyddiaeth o belydriadau Uwchfioled, sut i'w rheoli a sut i leihau'r peryglon ynghlwm
- sut i optimeiddio ansawdd arc cyson, tymheredd lliw ac oes y lampau
- sut i ganfod namau ar systemau goleuo dadwefru
y trefniadau cysylltu sy’n berthnasol i’r cyfarpar rydych chi’n ei ddefnyddio, gan gynnwys rheoliadau a chanllawiau iechyd a diogelwch cyfredol ynghyd ag ymarfer gorau'r diwydiant
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda'r criw cynhyrchu ynghylch defnyddio'r cyfarpar yn ddiogel a rhagofalon diogelwch
- ffyrdd o baratoi, symud a defnyddio'r cyfarpar