Paratoi a defnyddio offer i addasu a thrin goleuadau
URN: SKSL3
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar i addasu a thrin golau fel caiff ei ragnodi gan y person sy'n gyfrifol am y goleuo. Mae'r safon hon yn ymdrin â sut i osod hidlydd ar ffenestri a fframiau hidlydd, gosod a symud ategion baner neu ffrâm a chydosod fframiau a thecstilau. Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â sut i ddilyn cyfarwyddiadau er mwyn cyflawni'r effeithiau goleuo gofynnol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gosod ac addasu cyfarpar goleuo i gydymffurfio gyda gofynion a chyfarwyddiadau'r person sy'n gyfrifol am y goleuo
2. gofalu bod yr holl osodiadau yn cydymffurfio gyda rheoliadau a chanllawiau iechyd a diogelwch cyfredol
3. cynnal asesiad risg dynamig ar yr holl gyfarpar a gweithrediadau trydanol tra'r ydych chi ar y safle
4. mireinio’r effeithiau goleuo cyn cychwyn saethu nes bod yr holl bobl berthnasol yn fodlon gyda'r effeithiau
5. dewis hidlyddion, sgrimiau, RGB neu olwynion lliw yn unol â'r gofynion goleuo
6. gwirio a chofnodi pa hidlydd a hidlydd cywiro sydd wedi'u gosod
7. gosod yr hidlyddion a'r fframiau hidlyddion gofynnol ynghyd ag unrhyw ategolion eraill
8. pennu lle a phryd y dylid defnyddio hidlyddion gwrthsefyll gwres, a phryd y bydden nhw'n fwyaf effeithiol
9. gosod a symud baneri er mwyn cyflawni'r effaith ddymunol
10. cydosod a defnyddio fframiau mawr a'u hategion, adlewyrchyddion neu dryledwyr
11. adnabod a thrwsio namau a phroblemau gyda chyfarpar goleuo
12. newid cyfarpar sydd ddim yn gweithio gan amharu cyn lleied â phosibl ar y cynhyrchiad a chydymffurfio gyda'r rheoliadau iechyd a diogelwch cyfredol sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i osod a defnyddio cyfarpar effeithiau goleuo gan gydymffurfio gyda rheoliadau iechyd a diogelwch ac ymarfer gorau'r diwydiant
- pwysigrwydd asesiad risg dynamig
- sut i gynnal asesiad risg dynamig
- y mathau o effeithiau goleuo sydd ar gael, pryd i'w defnyddio nhw, a'r dulliau i gyflawni'r effeithiau hynny
- yr ystod o hidlyddion, sgrimiau, RGB ac olwynion lliw sydd ar gael ynghyd â'u gwahanol effeithiau fel tryledu, cywiro, a rheoli lliw a thymheredd
- nodweddion hidlyddion arafu tannau, y rheoliadau perthnasol cyfredol ynghlwm â nhw a sut mae'r rhain yn effeithio ar eu defnydd
- sut i adnabod namau a phroblemau gyda'r cyfarpar goleuo a sut i drwsio'r problemau
- sut i greu cysgodion caled a chysgodion meddal gan ddefnyddio baneri
- sut i osod a symud fframiau o dan wahanol amodau gan ofalu am eich diogelwch chi a diogelwch eraill
- dulliau diogel ar gyfer trwsio neu osod ategion, a phwy i gysylltu gyda nhw am gymorth
- beth i'w wneud pan fo cyfarpar ddim yn gweithio
- pwysigrwydd amharu cyn lleied â phosib ar y cynhyrchiad wrth newid cyfarpar gwallus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSL3
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus
Cod SOC
xxxx
Geiriau Allweddol
cyfarpar goleuo; rigio; dad-rigio; asesiad risg; cyfrifoldebau; olwynion lliw; hidlyddion