Asesu a dewis gofynion goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a threfnu'r cyfarpar goleuo hanfodol ar gyfer y cynhyrchiad, dewis a nodi'r cyfarpar trydanol gan gontractwyr gan gynnwys cyfarpar (fel offer mynediad) a pheiriannau hanfodol eraill.
Mae'r safon hon hefyd yn ymdrîn â dyletswyddau diwedd y cynhyrchiad yn ymwneud â chyfarpar trydanol a gofalu fod y 'Best Boy' ac eraill yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r amserlen cynhyrchu a all effeithio ar ofynion yn ymwneud â'r cyfarpar trydanol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
pennu’r nifer a’r mathau o ddeunyddiau a chyfarpar trydanol fydd yn ofynnol ar gyfer y cynhyrchiad gan ofalu eu bod yn bodloni gofynion y gyllideb a'r lleoliad arfaethedig
nodi amserlen waith gan gynnwys terfynau amser a rhoi gwybod am y rhain i’r bobl berthnasolgal
- archebu'r deunyddiau a'r cyfarpar trydanol er mwyn gofalu eu bod yn cyrraedd y lleoliad yn unol â'r amserlen
- gwirio bod y deunyddiau a'r cyfarpar trydanol sy'n cyrraedd y lleoliad yn bodloni gofynion y cynhyrchiad a'u bod yn unol â threfn dilyniant y cynhyrchiad
- adnabod a chofnodi problemau a rhannu'r manylion gyda'r bobl berthnasol
- rhoi gwybod i'r 'Best Boy' a'r bobl berthnasol am newidiadau i'r amserlen fel eu bod yn medru gofalu bod y cyfarpar trydanol yn ddigonol ar gyfer newidiadau o'r fath
- cadarnhau symud cyfarpar trydanol ar ddiwedd y cynhyrchiad
- gofalu caiff unrhyw gyfarpar gaiff ei dorri neu ei golli ei gofnodi a'ch bod yn hysbysu'r bobl berthnasol
- paratoi a chwblhau'r dogfennau terfynol ar y cynhyrchiad a'u cyflwyno i'r bobl berthnasol gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cwmpas, graddfa a gofynion y cynhyrchiad ynghyd â'r agweddau rydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw
- pwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cynhyrchiad
- pwysigrwydd paratoi amserlen mewn trefn ar gyfer y cynhyrchiad sy'n gofalu y caiff ei gwblhau'n effeithiol
- sut i bennu nifer, math a threfniadau cyflenwi deunyddiau a chyfarpar trydanol yn unol â gofynion y gyllideb
- pwysigrwydd cynnig cyfarwyddyd manwl am y cynhyrchiad a'i ofynion i'r 'Best Boy', y criw a'r contractwyr allanol
- y dogfennau angenrheidiol ar gyfer contractwyr cyfarpar goleuo, rheoli cost ac ar gyfer cofnodi problemau posib gydag amserlen y cynhyrchiad
- pwysigrwydd mynd i'r afael â phroblemau'n brydlon a gofyn am gytundeb cydweithwyr eraill am unrhyw amrywiadau
- pwysigrwydd cadw cofnodion
- sut i gadw cofnodion a pharatoi dogfennau terfynol