Cydlynu cyfathrebu yn ymwneud â goleuo’r cynhyrchiad
URN: SKSL12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu a chydweithio gyda chydweithwyr fel y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a'r Cynorthwyydd Cyfarwyddo 1af cyn ac yn ystod y ffilmio. Mae hefyd yn ymdrin â thrafod a chytuno ar ofynion goleuo, rhannu'r rhain gyda'r tîm a chynnig datrysiadau cadarnhaol i broblemau a all godi yn ystod y ffilmio.
Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd er mwyn gofalu caiff gofynion trydanol eu cofnodi ac y caiff unrhyw newid a'u goblygiadau o ran goleuo eu hystyried.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trafod y gofynion goleuo a thrydanol gyda'r bobl berthnasol a'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth neu ddeiliaid swyddi tebyg cyn ac yn ystod ffilmio
- gofalu caiff eich swydd ei chyflawni gan y 'Best Boy' neu gydweithiwr wedi'i enwebu yn eich absenoldeb
- cynnig awgrymiadau cadarnhaol mewn trafodaeth ynglŷn â goleuo a thrydan gyda'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ac eraill
- gofalu bod eich awgrymiadau'n ddichonol yn dechnegol ac yn cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch
- gofalu bod eich awgrymiadau chi'n bodloni gofynion y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ac o fewn y gyllideb goleuo. Hefyd gofalu bod cyfarpar ac arbenigedd trydanol ar gael ac wrth law er mwyn cyflawni awgrymiadau o'r fath
- mynychu cyfarfodydd y cynhyrchiad er mwyn gofalu y caiff gofynion goleuo a thrydanol eu trafod a'u cytuno
- cofnodi penderfyniadau a gofalu y caiff unrhyw newidiadau i ofynion yr amserlen a'r cyfarpar eu rhannu gyda'r 'Best Boy' a'r cwmni cynhyrchu a goleuo.
- ymgynghori gyda'r tîm cynhyrchu ynghylch awgrymiadau i ddatrys problemau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cwmpas, math a therfynau amser y cynhyrchiad
- gofynion goleuo a thrydanol y cynhyrchiad
- y dull creadigol gofynnol gan y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth neu ddeiliaid swyddi tebyg ar gyfer y cynhyrchiad
- mathau o ddatrysiadau i'w hawgrymu sy'n cyd-fynd â'r cyfarpar a'r arbenigedd gallwch fanteisio arnyn nhw
- pwysigrwydd cyfathrebu gydag eraill, fel y 'Best Boy', ynghylch newidiadau a deilliannau cyfarfodydd y cynhyrchiad
- pwysigrwydd trefnu bod rhywun i gyflawni'ch gwaith yn eich absenoldeb a gofalu bod y rheiny sy'n cyflawni'r cyfrifoldebau o'r fath yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ynghlwm â'u cyfrifoldebau
- pwysigrwydd cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch
- pwysigrwydd cadw cofnodion
- buddion ymwneud gyda'r tîm cynhyrchu pan fyddwch yn trafod datrysiadau i broblemau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSL15
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
gofynion goleuo; cyllideb; cyfathrebu ynghylch goleuo’r cynhyrchiad; gofynion trydanol; gofynion iechyd a diogelwch; amserlen; cadw cofnodion