Cychwyn a diffodd generaduron trydan
URN: SKSL10
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â meddu ar wybodaeth sylfaenol am generaduron trydan a medru cyflawni'r dasg sylfaenol o gychwyn generadur.
Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â chyflawni tasgau syml eraill ar y generadur trydan un ai o dan oruchwyliaeth uniongyrchol neu o dan gyfarwyddyd prif weithredwr y generadur.
Mae'r safon yn ymdrin â gwybodaeth am a defnyddio safonau trydanol a chodau ymarfer, sef BS7671 a BS7909.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo a Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau fod y generadur wedi'i osod yn ddiogel
- gofalu bod y generadur yn lefel pan fo'n briodol gwneud hynny
- cynnal profion cyn-cychwyn ar y system dosrannu ceblau o ran polaredd a daearu yn unol â'r rhifyn diweddaraf o'r safonau diogelwch trydan a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo
- cychwyn y generadur a gofalu bod y gosodiadau a systemau'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn egnioli'r trydan
- monitro'r generadur tra'r ydych yn ei ddefnyddio o ran ei weithrediad, cydbwysedd, llwytho a lefelau tanwydd a hylif
- cydnabod cyn gynted â phosib pan fo'r generadur yn ymddangos yn wallus h.y. dirgrynu, straen a mwg
- dilyn y gweithdrefnau diogelwch perthnasol i ddiffodd y generadur yn ddiogel ac effeithlon
- monitro holl ddefnyddwyr y generadur o ran llwytho ac ymarferion diogelwch
- gofalu fod yr holl gyfarpar a'r offer yn ddiogel i'w defnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch, safonau diogelwch trydan a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo yn ymwneud â defnyddio'r generaduron
sut i gychwyn a diffodd y generadur ynghyd â'i fonitro tra mae o’n rhedeg
- pwysigrwydd monitro ar gyfer peryglon dichonol
- pwysigrwydd defnyddio'r generadur ar wyneb gwastad a gwirio lefelau tanwydd y generadur yn ddyddiol
- llwyth uchaf is-gylchedau a blychau dosrannu
- sut i adnabod a chywiro peryglon yn ymwneud â'r system ceblau
- sut i wirio fod yr holl gyfarpar dosrannu pŵer rydych yn ei ddefnyddio'n gweithio'n iawn
- y ddeddfwriaeth amgylcheddol sy'n effeithio ar y defnydd o generaduron a sut rydych yn eu storio
- pwysigrwydd monitro holl ddefnyddwyr y generadur
- pwysigrwydd gofalu bod yr holl offer a'r cyfarpar yn ddiogel er mwyn eu defnyddio'n barhaus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSL9
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
generaduron; generaduron trydanol; cychwyn; diffodd; safonau diogelwch trydanol; codau ymarfer; gweithdrefnau diogelwch; dosrannu pŵer