Cynnal rhagchwiliad o safbwynt trydanol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal rhagchwiliad o safbwynt trydanol.
Mae hyn yn golygu ystyried agweddau o'r lleoliad a fydd yn effeithio ar y gwaith trydanol, gan fwrw golwg ar fanteision ac anfanteision y safle. Yn ogystal mae'n ymdrin â phenderfynu ar gamau i'w cyflawni unwaith caiff stiwdio neu leoliad ei ddewis. Mae hefyd yn hanfodol cadarnhau union leoliad y safle o ran yr haul a sut byddai hynny'n effeithio ar yr amser o'r dydd ar gyfer saethiadau penodol.
Mae'r safon hon yn ymdrin â chynnal asesiad risg ynghyd ag amcan a gwerthuso'r amserlen goleuo'r cynhyrchiad.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Giaffars a 'Best Boys'.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
paratoi ar gyfer yr ymweliad â’r lleoliadau arfaethedig gydag aelodau'r tîm cynhyrchu ynghyd â'r cynllunydd goleuo, cyfarwyddwr goleuo, cyfarwyddwr ffotograffiaeth a'r person camera sy'n gyfrifol am oleuo.
asesu, cofnodi a thrafod gyda'r tîm technegol, addasrwydd y lleoliadau arfaethedig ac unrhyw gynlluniau goleuo i fodloni'r gofynion technegol
- asesu'r goblygiadau o ran cost o ddefnyddio'r lleoliadau arfaethedig
- gofalu bod nodiadau a chofnodion y safle'n ddigon manwl er mwyn medru dehongli'r gofynion technegol yn fanwl gywir
- asesu a chofnodi nodweddion, safle a dilyniant arfaethedig y lleoliadau ac unrhyw gynlluniau goleuo arfaethedig o ran cludo offer a chyfarpar trydanol, yn yr amserlen cynhyrchu
- cwblhau asesiad risg er mwyn adnabod peryglon ynghlwm â'r lleoliadau arfaethedig ac unrhyw gynlluniau goleuo arfaethedig yng nghyd-destun trin offer a chyfarpar trydanol a staff
- gofalu bod yr asesiad risg yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau iechyd a diogelwch cyfredol
- trafod a chysylltu gyda holl gontractwyr a / neu weithwyr gwasanaethau arbenigol sy'n ymwneud â'r gofynion trydanol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
amserlen y cynhyrchiad, y gofynion technegol a gofynion y gyllideb ynghyd â'u heffaith ar y rhagchwiliad
y cynllun goleuo arfaethedig er mwyn medru cynnig awgrymiadau eraill os oes angen gwneud newidiadau i'r cynllun gwreiddiol oherwydd y lleoliad
- sut i asesu manteision ac anfanteision lleoliadau o safbwynt trydanol
- pwysigrwydd manteisio ar gyngor arbenigol
- pryd a sut i fanteisio ar gyngor arbenigol
- y prif ffactorau ynghlwm â llunio asesiad o'r goblygiadau trydanol a chost-effeithiolrwydd defnyddio lleoliadau penodol
- beth i chwilio amdano mewn lleoliadau er mwyn penderfynu ar y cyfarpar a'r adnoddau angenrheidiol
- sut i baratoi at amodau amgylcheddol neu ffisegol anffafriol posib
y gweithdrefnau i'w cyflawni unwaith y bydd lleoliad wedi'i ddewis
sut i gynnal asesiad risg
- pwysigrwydd gofalu bod yr holl staff a'r cyfarpar / adnoddau'n ddiogel
- y rheoliadau iechyd a diogelwch cyfredol sy'n effeithio ar yr asesiad risg ar gyfer y cynhyrchiad