Adnabod a gohebu am ddigwyddiadau fel newyddiadurwr
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod dichonolrwydd golygyddol digwyddiadau mae'n bosib y byddwch gohebu amdanynt fel newyddiadurwr a sut gall digwyddiadau gynnig cyfleoedd arferol ac annisgwyl ar gyfer llunio cynnwys golygyddol.
Mae'n ymwneud â digwyddiadau sydd yn y dyddiadur y gallwch gynllunio ar eu cyfer yn ogystal â straeon newyddion diweddaraf anrhagweladwy gan gadw anghenion eich cynulleidfa darged mewn cof.
Mae'r Safon hon ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm ag adnabod a gohebu digwyddiadau fel newyddiadurwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn asesu'r cyfleoedd golygyddol yn sgil digwyddiadau wedi'u trefnu
- dilyn y newyddion diweddaraf sy'n bodloni anghenion y llwyfan a'r gynulleidfa darged dichonol
- adnabod, asesu a chofnodi peryglon iechyd a diogelwch yn unol â'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch gan weithredu i geisio'u lleihau
- cofnodi manylion cywir o ran ffeithiau allweddol digwyddiadau, adnabod unrhyw bwyntiau sydd angen ichi eu trafod mewn cyfweliad dilynol neu eu dilyn drwy ymchwil desg
- gofalu eich bod yn cofnodi deunydd sain neu fideo sydd eu hangen ar gyfer cynnwys golygyddol yn y dyfodol
- cydnabod pryd y bydd deunydd ategol yn hybu deunydd wedi'i gyhoeddi
- gwneud trefniadau priodol i dderbyn a defnyddio deunydd ategol
- egluro unrhyw anghysonderau yn yr wybodaeth rydych yn ei derbyn mewn digwyddiadau gan ddefnyddio ffynonellau priodol
- cynnig barnau gwybodus ynghylch gwerth golygyddol gwybodaeth gaiff ei chasglu yn ystod digwyddiadau
gwahaniaethu rhwng ffaith a barn
adnabod sut i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol yn sgil dilyn y wybodaeth, neu ghyoeddi deunydd yn ymwneud ag o, yn ôl eich cyfyngiadau o ran awdurdod
- cadarnhau triniaeth ddichonol materion cynhennus gyda phobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod a chynllunio ar gyfer digwyddiadau ar y gweill
- sut i ymateb i ddigwyddiadau newyddion diweddaraf
- gofynion golygyddol y mudiad neu frand o ran cynnwys, triniaeth a'r cynulleidfa darged
- sut i farnu gwerth golygyddol gwybodaeth a'i allu i ddiwallu anghenion y cynulleidfa darged
- dichonolrwydd tebygol digwyddiad yn nhermau cynnwys golygyddol
- y mathau o ddeunydd ategol all wella cynnwys golygyddol gan gynnwys dogfennau a deunydd sain neu fideo
- pryd mae angen deunydd sain neu fideo o'r digwyddiad ac a oes disgwyl ichi eu cynnig neu drefnu bod rhywun arall yn gwneud hynny
- trefniadau'r mudiad ar gyfer derbyn, defnyddio, dychwelyd a thalu am ddeunydd ategol
- sut i adnabod ac asesu peryglon iechyd a diogelwch dichonol wrth gohebu am ddigwyddiadau a'ch cyfrifoldebau yn unol â pholisïau cyfundrefnol a deddfwriaeth iechyd a diogelwch
y problemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o ddilyn unrhyw wybodaeth wedi'i chaffael neu gyhoeddi deunydd sy'n seiliedig ar y wybodaeth
trefniadau'r mudiad ar gyfer derbyn, defnyddio, dychwelyd a thalu am ddeunydd ategol
y problemau cynhennus a all godi a gyda phwy dylech chi wirio'r problemau hyn
yr angen i wirio ffynonellau, at bwy i'w cyfeirio. a sut