Gweithio gan gydymffurfio gyda chyfarwyddyd ar gyfer llunio cynnwys golygyddol
URN: SKSJ7
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda chyfarwyddyd penodol ar gyfer cynnwys golygyddol fel aelod o dîm golygyddol, neu, os ydych chi wedi eich comisiynu fel newyddiadurwr llawrydd.
Mae'n ymwneud ag adnabod amcanion, cyllideb a chynulleidfaoedd targed, ynghyd â chydweithio'n effeithiol gyda phwy bynnag sydd wedi gosod y dasg neu gomisiynu'r gwaith. Mae'r safon yn egluro meysydd cyfrifoldeb ac adnabod y cyfryngau a therfynau amser priodol.
Mewn rhai amgylchiadau, gall olygu proses comisiynu cystadleuol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cydymffurfio gyda chyfarwyddyd yn y maes newyddiaduriaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymwneud â'r person sy'n gyfrifol am osod y cyfarwyddyd, ar gyfer y cynnwys golygyddol, mewn ffordd gadarnhaol
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy i adnabod yr amcanion, cyllideb, cynulleidfaoedd targed bwriadedig, graddfeydd amser a chyfrwng ar gyfer y gwaith golygyddol. Hefyd cytuno ar yr adnoddau y mae disgwyl ichi eu defnyddio gyda'r bobl berthnasol
- cadarnhau a chytuno ar y meysydd cyfrifoldeb gyda'r bobl berthnasol, gan lunio'r cyfarwyddyd pan fo angen establish
- rhoi gwybod i'r person wnaeth osod y cyfarwyddyd am y cynnydd ar gyfnodau rydych chi wedi cytuno arnyn nhw
- cynnig dewisiadau dichonol amgen a chytuno ar y camau nesaf gyda'r person wnaeth osod y cyfarwyddyd pan fo problemau neu rwystrau yn codi
- datblygu cynnwys golygyddol sy'n bodloni amcanion y gwaith
- cyflwyno'r cynnwys golygyddol yn brydlon a gan lynu at y gyllideb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyd-destun y comisiwn, arddull, diwylliant a pholisi golygyddol y mudiad neu frand, y cynulleidfaoedd targed
- lle i fanteisio ar wybodaeth ddibynadwy am y cyfarwyddyd, amcanion, y gyllideb, cynulleidfa targed, graddfeydd amser a chyfrwng
- sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda golygyddion neu gomisiynwyr a chleientiaid
- technegau ar gyfer gwrando a gofyn cwestiynau perthnasol er mwyn cadarnhau elfennau sefydlog a trafodadwy'r cyfarwyddyd
- gwahanol ffyrdd o ymateb i gyfarwyddyd ar gyfer cynnwys golygyddol
- sut i ddwyn i ystyriaeth argyfyngau ac ymateb i amgylchiadau newidiol
- sut i lunio cyfarwyddyd a ffurfiau posib y cyfarwyddiadau
- y gwahanol brosesau i gydymffurfio gyda nhw pan fo'n gomisiwn cystadleuol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ7
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Cynnwys, Golygyddol, Newyddiaduriaeth