Cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol a rheoleiddio’r DU wrth weithio yn y maes newyddiaduriaeth
URN: SKSJ3
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymdrin â chydymffurfio gydag agweddau o ofynion cyfreithiol y DU sy'n berthnasol i newyddiadurwyr a chreu cynnwys - a sut maen nhw'n effeithio ar beth mae modd ei wneud ac nad oes modd ei wneud fel rhan o'r broses honno.
Mae'r safon yn ymdrin â chyfyngiadau cyfreithiol perthnasol yn ymwneud â diogelu a dosbarthu gwybodaeth am droseddau, yr heddlu ac achosion llys ynghyd â'r gyfraith sy'n gwarchod diogelwch cenedlaethol, trefn gyhoeddus, hawliau eiddo deallusol, hawliau mentrau masnachol, hawliau unigolion a hawliau grwpiau lleiafrifol a phobl fregus fel plant.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y maes newyddiaduriaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gywir i asesu cyfreithlondeb eich gweithgareddau a chynnyrch
- gofyn am gyngor gan bobl cymwys pan fyddwch yn ansicr ynghylch cyfreithlondeb eich gweithgareddau
- defnyddio dulliau priodol er mwyn Derbyn manylion sylfaenol gan swyddogion y llys a dogfennau llys pan fyddwch yn mynychu achosion llys
- cydymffurfio gyda'r cyfyngiadau cyfreithiol ynghlwm â phob achos neu stori wrth ohebu mewn llys
- gofalu bod eich ffynonellau a gwybodaeth eich ffynonellau yn berthnasol a dibynadwy bob amser
- gofalu nad ydy eich gwaith gohebu yn effeithio ar unrhyw ymchwiliadau cyfredol neu achosion troseddol sydd ar waith
- defnyddio dulliau priodol i gyflawni heriau cyfreithiol pan fo ymdrechion I geisio cyfyngu ar eich mynediad
- gofyn am gyngor gan bobl briodol cyn mynd ati i wneud gwaith ymchwil ar y we a all olygu eich bod yn torri'r gyfraith
- gwirio eich bod yn meddu ar y trwyddedau neu ganiatâd priodol i ddefnyddio deunydd hawlfraint i lunio cynnwys
- cydymffurfio gyda gofynion rheoleiddiol perthnasol a chodau ymddygiad y diwydiant bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth gyfredol yn berthnasol i newyddiadurwyr gan gynnwys deddfwriaethau yn ymwneud â difenwi, dirmygau, hawlfraint, eiddo deallusol, preifatrwydd, rhyddid mynegiant, gwarchod data, cydraddoldeb, gwahaniaethu, anweddustra, deddf cyfrinachau swyddogol, tresmasu, tynnu lluniau o blant, rhyddhad eiddo, hawliau a chaniatâd, cytundebau, atebolrwydd cyhoeddus a throseddau rhywiol.
- egwyddorion Rheolaeth y Gyfraith yn y DU
- strwythur eang y system gyfreithiol yn y DU a gofynion cyfreithiol penodol, dyletswyddau cyfreithiol a therminoleg yn ymwneud â'r genedl rydych yn gweithio ynddi
- cysyniad cyfiawnder agored a'r hawliau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau ynghlwm â chofnodi mewn llysoedd, cyhoeddi, hawl i fwrw golwg ar wybodaeth a rhyddid mynegiant
- eich hawliau cyfreithiol i fynychu achosion llys, a diogelu manylion sylfaenol a gwybodaeth arall gan swyddogion y llys ac o ddogfennau llys
- y cyfyngiadau ynghylch gohebu er mwyn diogelu'r broses gyfreithiol wrth ohebu achosion troseddol sydd ar waith
- y cyfyngiadau ynghylch gohebu er mwyn gwarchod hunaniaeth troseddwyr ifanc a dioddefwyr troseddau
- egwyddorion cyffredinol difenwi
- pryd mae'n bosib caiff eich ffynonellau a nodiadau eu harchwilio gan y gyfraith neu'r heddlu ar gyfer ymchwiliadau troseddol
- maes a gofynion yr amddiffynion gellir eu defnyddio mewn achosion difenwi, gan gynnwys cyfiawnhad, sylwad gonest, braint ddiamod a chymwys, y gweithrediadau lleddfu sydd ar gael i ddarlledwyr
- peryglon enllibio mewn cynnwys golygyddol, archifau neu ddeunydd ar-lein
- defnydd gwaharddebau llys i orfodi newyddiadurwyr oni bai fod modd ennill dadl ynghylch budd y cyhoedd
- dyletswydd rheoleiddwyr a'u codau ymddygiad gan gynnwys Ofcom
- hawliau mynediad at wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth a chyfyngiadau cyfreithiol a'r mynediad o'r fath
- maes hawliau eiddo deallusol a beth gaiff ei warchod gan hawlfraint, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a chynnwys caiff ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr
- y cywiriadau perthnasol ar gyfer ac amddiffynion perthnasol i dor-cyfraith o ran cyfrinachedd
- sut mae deddfwriaeth berthnasol yn amrywio mewn gwledydd eraill a thiriogaethau rydych yn gweithio neu'n gweithredu ynddyn nhw
- sut i gyfeirio materion i dderbyn cyngor arbenigol yn eich mudiad – neu sut i fanteisio ar gyngor o'r fath yn annibynnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ1
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Y Gyfraith, Rheoliad, Newyddiaduriaeth, Cyfreithiol, Llys