Golygu deunydd sain a fideo er defnydd newyddiadurol

URN: SKSJ29
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â ‘r sgiliau golygu sain a fideo creadigol a thechngeol sydd eu hangen i droi deunydd wedi’i recordio yn ddeunydd gorffenedig i’w ddefnyddio ar wahanol lwyfannau. Beth bynnag ydy defnydd bwriadedig y deunydd, fe ddylid ei olygu mewn ffordd sy'n bodloni gofynion y cyfarwyddyd ac er mwyn ennill sylw’r gynulleidfa a fwriedir.

Pan fo'r cynnyrch terfynol yn ddarn o newyddiaduriaeth sain neu fideo, mae'n bosib y bydd angen mynd ati i olygu drwy symleiddio deunydd cymhleth i adrodd stori sy'n hawdd ei deall heb amwysedd gan wylwyr a/neu wrandawyr.

Mae hyn yn ymwneud â deall technegau golygu a bod yn ymwybodol o wahanol systemau golygu gan ddangos eich bod yn gymwys i ddefnyddio p'run bynnag system golygu rydych chi'n ei ddefnyddio.

Mae'r Safon hon hefyd yn ymwneud ag adnabod gwallau (technegol a golygyddol) a'r angen am newidiadau, a sut i'w cyflawni.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n golygu deunydd sain a/neu fideo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gofalu caiff deunydd digonol o'r safon ofynnol ei gofnodi
  2. adolygu'r cyfarwyddyd yng ngoleuni'r deunydd rydych chi wedi'i gasglu a phenderfynu oes angen cyflawni newidiadau o ran gwerth, triniaeth neu ysgrifen
  3. pan fo'n briodol, cydnabod a manteisio ar gyngor ynghylch problemau cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol
  4. canfod a chywiro gwallau technegol, gan gadw cynnwys hanfodol y copi glân gwreiddiol
  5. wrth olygu sain, dileu synau annisgwyl, adleisiau, atseiniau, sŵn chwythu a synau afluniedig, gan ddefnyddio technegau a chyfarpar lleihau sŵn priodol
  6. dewis sain neu fideo sy'n pwysleisio'r deunydd cryfaf gan gael gwared ar y deunydd mwyaf gwan
  7. dewis sŵn naturiol sy'n help i adrodd y stori ar gyfer clipiau sain
  8. dewis saethiadau a lluniau sy'n fodd i'r lluniau adrodd y stori ar gyfer clipiau fideo
  9. gofalu bod lluniau priodol yn cyd-fynd gyda'r trosleisiau

  10. newid trefn y deunydd rydych wedi'i gasglu pan fo'n briodol gan ddwyn i ystyriaeth y peryg o gamfynegiannau

  11. gwahanu deunydd cymhleth, gan ei gyflwyno mewn ffordd syml
  12. cyfuno deunydd o wahanol ffynonellau lle'n briodol
  13. ychwanegu cerddoriaeth, effeithiau sain, effeithiau gweledol, graffeg, ffeithluniau, data neu ddeunydd gan ffynonellau eraill lle'n briodol er mwyn gwella'r cynhyrchiad
  14. torri'r deunydd i hyd wedi'i gytuno
  15. adnabod a datrys unrhyw broblemau o ran diben, cynnwys neu driniaeth o’r deunydd , gan ystyried y gynulleidfa darged, llwyfannau dosbarthu a lle bo’n briodol, amser y darllediad
  16. cyflwyno'r deunydd neu stori wedi'i olygu a'r dogfennau wedi'u cwblhau er mwyn bodloni'r cyfarwyddyd a chwrdd â therfynau amser.
  17. cyflwyno deunydd mewn arddull a ffurf briodol ar gyfer y llwyfan dosbarthu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud â: hawlfraint ac eiddo deallusol, diogelu data, preifatrwydd a rhyddhad mynegiant, difenwad, cydraddoldeb a gwahaniaethu, anweddustra, tynnu lluniau o blant
  2. y gyfraith yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, gan gynnwys peryglon yn y gweithle ac yn ymwneud â'ch swydd chi, sut i'w hasesu a'r gweithrediadau i fynd i'r afael â nhw
  3. systemau a gweithdrefnau eich busnes neu fudiad gaiff eu defnyddio er mwyn cyflawni'r gwaith
  4. dulliau cofnodi data lluniau cyfredol eich busnes neu fudiad gan gynnwys y defnydd o eiriau allweddol a'i strategaeth yn y dyfodol
  5. cyfarwyddyd y dasg, y ffordd dylid defnyddio'r deunydd a'r gofynion penodol o ran arddull a/neu cynnwys golygyddol a'r gynulleidfa targed
  6. gwahanol arddulliau a ffurfiau a ddefnyddir gan y gwahanol lwyfannau, marchnadoedd a sefydliadau’r cyfryngau
  7. y cyfyngiadau cyfreithiol, moesegol, rheoleiddiol, masnachol, iechyd a diogelwch a diogelwch cyffredinol all effeithio ar y broses o olygu'r stori
  8. pa drwyddedau, gorchmynion a chaniatâd mae'n bosib y bydd eu hangen arnoch, yn enwedig o ystyried a chan gynnwys hawlfraint, cyswllt a'r defnydd o gerddoriaeth a sut i'w caffael

  9. cysyniadau a thechnegau sylfaenol golygu sain a fideo

  10. sut i ddefnyddio synau naturiol, cerddoriaeth ac effeithiau sain i helpu adrodd stori
  11. sut i lunio dilyniant ac adrodd stori gan ddefnyddio lluniau
  12. y math ac amrywiaeth o ddeunydd fydd ei hangen arnoch i ofalu fod y broses golygu'n  rhwydd a syml  

  13. pryd gall deunyddiau sain, lluniau, graffeg, ffeithluniau, data neu ddeunydd fideo wella cyflwyniad y stori

  14. gwahanol ddulliau golygu
  15. sut i weithredu amrywiaeth o systemau golygu safon diwydiant yn gywir
  16. pwysigrwydd seibiau o'r sgrin i ddefnyddwyr er mwyn cynnal safon y golygu

  17. y ffurf cyflwyno technegol gofynnol ar gyfer y deunydd

  18. goblygiadau'r llwyfan cyflwyno  
  19. rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol i'ch amgylchedd gwaith, yn enwedig y rheiny sy'n ymwneud â gweithfannau cyfrifiaduron a gofynion iechyd a diogelwch y gwneuthurwyr
  20. y codau moeseg/ymddygiad a weithredir gan sefydliadau proffesiynol a chymdeithasau masnach
  21. canllawiau ac arferion gorau perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ29

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Golygu, Sain, Fideo, Newyddiaduriaeth, Deunyd