Dylunio a chynhyrchu cynllun tudalen
URN: SKSJ28
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â dylunio cynlluniau tudalen er mwyn bodloni gofynion golygyddol y mudiad neu frand, i ddenu sylw a diddordeb ac i wella profiad y darllenydd.
Mae'n ymwneud â chynhyrchu cynlluniau ar gyfer cyhoeddiadau a manteisio i'r eithaf ar y deunydd sydd ar gael. Mae'n ymwneud â chydymffurfio gydag arddull dyluniad sy'n bodoli eisoes ar gyfer y cyhoeddiad neu frand a dwyn i ystyriaeth y broses cynhyrchu.
Mae hefyd disgwyl ichi fod yn ymwybodol o gyfanswm a gosodiad tebygol copi hysbysebu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofalu eich bod yn meddu ar yr holl ddeunydd angenrheidiol ar y ffurfiau gofynnol
- cydnabod unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o ddewis y cynnwys a chynllun a do di gytundeb gyda chydweithwyr perthnasol ar sut i fynd i'r afael â nhw
- addasu cynlluniau gosodiad er mwyn dwyn i ystyriaeth newidiadau o ran blaenoriaethau golygyddol fel y newyddion diweddaraf, hysbysebu newidiadau a'r deunydd sydd ar gael
- gofalu eich bod yn hysbysu cydweithwyr am unrhyw newidiadau o ran gosodiad neu oedi tebygol
- manteisio i'r eithaf ar luniau a graffeg ac adnabod cyfleoedd i ddefnyddio technegau er mwyn gwella deunydd lle maen nhw'n cyfrannu at ddyluniad y dudalen
- cynhyrchu cynlluniau sy'n bodloni gofynion golygyddol y mudiad neu frand, yn gweddu i'r deunydd a chyfrwng, ar y ffurf gywir ar gyfer cynhyrchu ac y denu a chynnal diddordeb
- gofalu fod pob tudalen wedi'i labelu a'i osod yn gywir a gwirio unrhyw gwrthdaro o fewn a rhwng tudalennau
- cynhyrchu cynlluniau tudalen yn brydlon, eu cadw'n gywir a'u hanfon ymlaen at y tîm cynhyrchu
- cynnig awgrymiadau am gynllun a dyluniad y dudalen a all wella ansawdd cyffredinol y dyluniad
- cydnabod unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol gall godi o'r cynnwys golygyddol a masnachol a manteisio ar gyngor priodol
- asesu unrhyw beryglon iechyd a diogelwch yn ymwneud â defnyddio cyfarpar ar gyfer dylunio a chynhyrchu cynlluniau tudalen yn gywir a mynd ati i geisio lleihau'r peryglon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y mudiad o ran cynnwys, triniaeth a ffurf
- y gynulleidfa targed a'i phriodweddau a disgwyliadau
- sut i farnu gwerth golygyddol deunydd a'i allu i ddiwallu anghenion y gynulleidfa targed
- sut i gyflwyno syniadau'n effeithiol i gydweithwyr
- y ffurf dylid llunio deunydd i'w gynhyrchu
- egwyddorion dyluniad, teipograffeg a damcaniaeth lliw'r dudalen yn gysylltiedig â'r cyfrwng
- y teip, mesurau a meintiau pwynt cywir
- sut i fanteisio i'r eithaf ar luniau a graffeg drwy eu tocio ac addasu eu maint
- defnyddiau gwahanol dechnegau cynlluniau tudalen gan gynnwys paneli, 'ragout', bar ochr, blychau ffeithiau a dyfyniadau
- gofynion dylunio gwahanol adrannau'r cyhoeddiad
- sut i ddefnyddio meddalwedd priodol i ddylunio cynlluniau tudalen, pan fo'i angen
- amserlen cynhyrchu'r mudiad a phroses cynhyrchu'r cyhoeddiad
- sut mae adrannau masnachol y cyhoeddiad yn gweithredu a'u perthnasau gyda'r adran olygyddol
- y problemau iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â defnyddio cyfarpar ar gyfer dylunio a chynhyrchu cynlluniau tudalen a ffyrdd o leihau'r problemau
- y problemau cyfreithiol, moesegol a masnachol sy'n debygol o godi o'r cynnwys golygyddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ28
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Cynllun y dudalen, Dyluniad