Gweithio mewn amgylcheddau heriol neu gas
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â newyddiadurwyr yn gweithio mewn amgylcheddau heriol neu beryglus a newyddiadurwyr sy'n gweithio mewn amgylcheddau sy'n debygol o fod yn heriol neu beryglus.
Mae hyn yn ymwneud ag amrywiaeth o sefyllfaoedd lle mae risg dwysach i ddiogelwch personol neu les emosiynol fel: parthau rhyfel, digwyddiadau terfysgol, arddangosiadau, mannau gwrthdrawiadau cludiant, digwyddiadau tywydd eithafol neu ddamweiniau diwydiannol.
Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi eich hun ar gyfer gohebu o'r amgylchedd heriol neu gas drwy gynnal asesiad o'r risgiau rydych yn debygol o'u hwynebu. Hefyd bydd angen ichi ofalu eich bod wedi derbyn unrhyw hyfforddiant angenrheidiol. Bydd angen ichi ddeall y rhesymau dros eich ymweliad i'r amgylchedd cas a sut i ofalu am eich lles eich hun tra byddwch chi yno.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i newyddiadurwyr sy'n gweithio mewn amgylcheddau heriol neu gas.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad cynhwysfawr o'r peryglon yn yr amgylchedd cas yn erbyn gweithdrefnau cyfundrefnol priodol
- gofalu eich bod wedi derbyn yr hyfforddiant diogelwch a chymorth cyntaf priodol cyn teithio i amgylcheddau heriol a chas
- gwirio eich bod chi wedi eich yswirio'n ddigonol
- ystyried y dyfodol a chynllunio ar gyfer yr holl beryglon y mae'n bosib y byddwch chi'n eu hwynebu tra byddwch chi yn yr amgylchedd cas
- gofalu eich bod yn cwblhau a diweddaru'r holl ddogfennau sy'n berthnasol i'ch gwaith ac eich bod yn deall ac yn cydymffurfio gydag unrhyw reolau neu orchmynion mewn grym er mwyn eich diogelu chi ac eraill
- gofalu fod yr holl gyfarpar ac adnoddau ar gyfer eich diogelwch personol chi, cyfathrebu a chymorth cyntaf yn briodol ar gyfer yr amgylchedd, yn ddibynadwy ac yn gwbl weithredol
- asesu'r sefyllfa am beryglon yn barhaus
- cymryd hoe pan yn bosib er mwyn gofalu am eich lles corfforol a meddyliol
- gofalu nad ydych chi'n peryglu eich statws fel dinesydd drwy gario arf neu unrhyw weithred arall
- gweithredu'n briodol yn unol â'ch cynlluniau pan fyddwch yn adnabod bod pethau wedi mynd o'i le neu am fynd o'i le
- cydnabod symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ynoch chi ac eraill a manteisio ar y gefnogaeth briodol pan fo'i angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich diben dros ymweld â'r lleoliad, pam eich bod chi neu eich mudiad yn teimlo ei fod yn hanfodol ichi ymweld, a pam eich bod chi wedi eich argymell neu wedi gwirfoddoli
- dulliau cyfathrebu gyda'ch golygydd neu gomisiynydd a phobl berthnasol eraill unwaith y byddwch chi yn yr amgylchedd cas
- lle i ddod o hyd i wybodaeth am y peryglon diogelwch yn yr amgylchedd cas penodol rydych yn bwriadu gweithio ynddo
- y peryglon ynghylch diogelwch yn yr amgylchedd cas, gan gynnwys pwy sydd ynghlwm, y risg neu beryg penodol, arfau, hinsawdd, daearyddiaeth, planhigion ac anifeiliaid ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill
- sut i gydnabod pan all eich presenoldeb waethygu sefyllfa
- pam ei fod yn bwysig bod yn ymwybodol o'r hynny gall fynd o'i le, y gweithrediadau pan fo pethau'n mynd o'i le a mesurau ataliol
- cyfreithiau ac arferion lleol a'ch hawliau pe baech chi'n cael eich arestio yn y lleoliad rydych yn gweithio ynddo
- eich cyfrifoldebau ac awdurdod pan fyddwch yn gweithio mewn amgylchedd cas
- y dillad ac adnoddau sydd ar gael ichi er mwyn eich gwarchod, fel arfwisg corff, harneisiau diogelwch a dillad llachar
- mannau priodol diogel a llochesi a sut i fynd iddyn nhw a'u gadael yn ddiogel
- y gefnogaeth sydd ar gael gan eich mudiad er mwyn gofalu am eich lles
- beth all achosi trawma, y symptomau a'r effeithiau a sut i adnabod y rheiny sydd mewn peryg o ddatblygu straen trawmatig (gan gynnwys chi'ch hun)
- sut i ofalu am eich ffitrwydd meddyliol a chorfforol mewn sefyllfaoedd cas a thechnegau ar gyfer ymdrin â straen a thrawma yn effeithiol
- yr asiantau neu adnoddau priodol ar gyfer cwnsela ynghylch trawma