Rhwydweithio a chyfathrebu gyda chysylltiadau allanol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â datblygu ystod eang o gysylltiadau fel newyddiadurwr.
Gall cysylltiadau eich hysbysu am gyfleoedd, cynnig gwybodaeth gefndirol, eich helpu i ddatblygu syniadau a gwirio cywirdeb gwybodaeth.
Mae'n ymwneud ag ymdrin ag ystod eang o bobl, gan gynnwys pobl rydych yn cysylltu gyda nhw'n rheolaidd a'r rheiny y mae angen ichi gysylltu gyda nhw ar gyfer tasg benodol. Mae'n ymwneud â deall polisi eich mudiad ynghylch ymdrin â dulliau pobl dydych chi heb gysylltu gyda nhw – a gofalu eich bod yn taro cydbwysedd cywir rhwng cwrteisi ac effeithlondeb. Mae hefyd yn ymwneud â mynd i'r afael ag ymholiadau a chwynion ac ymateb yn briodol.
Bydd hefyd angen ichi wybod a deall sut mae deddfau a rheoliadau diogelu data cyfredol yn effeithio'r wybodaeth gallwch ei chadw ynglŷn â chysylltiadau.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio fel newyddiadurwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a sefydlu cysylltiadau gyda phobl sy'n berthnasol, neu'n berthnasol yn ddichonol i'ch gwaith ac i'r gofynion ar gyfer tasgau penodol
- cadw gwybodaeth cysylltiadau yn gyflawn, yn ddiweddar ac yn unol gyda'r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol
- cynnig mynediad priodol i gydweithwyr fanteisio ar wybodaeth cysylltiadau yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol
- cysylltu gyda'ch cysylltiadau ar adegau priodol er mwyn derbyn yr wybodaeth berthnasol
- gofalu bod y cysylltiadau rydych yn eu sefydlu yn ymdrin â'r ystod briodol o wybodaeth a safbwyntiau
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau priodol i wirio cariodd ac uniondeb eich cysylltiadau, a gwerth y wybodaeth maen nhw'n ei gynnig
- gwneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd posib yn y dyfodol gyda chysylltiadau ar adegau priodol
- ymateb i bobl annisgwyl yn cysylltu gyda chi ar unwaith
- llunio cofnodion cyflawn a chywir o'r rhesymau dros gysylltiadau annisgwyl a manylion perthnasol eraill
- cadw manylion cyswllt a gwybodaeth yn gyfrinachol pan fo cysylltiadau yn gofyn ichi wneud hynny
- cyflawni camau priodol i ofalu eich bod yn ddiogel ar-lein wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- cyfathrebu gyda chysylltiadau a phobl eraill yn unol â'r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol yn ymwneud â diogelu data cyfrinachedd unigol
- ymdrin â chysylltiadau mewn ffordd effeithlon a chwrtais sy'n bodloni polisi eich mudiad
- cyfeirio trafferthion gyda chysylltiadau na allwch chi eu datrys neu sydd du hwnt i gyfyngiadau eich awdurdod at y bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion eich mudiad, ar gyfer tasgau penodol
- y gwahanol resymau pam y bydd pobl yn cysylltu gyda chi, a pholisi eich mudiad ynghylch ymdrin â nhw, gan gynnwys ymholiadau, cwynion a chynigion o wybodaeth ar a ddim ar gofnod
- yr ystod o gysylltiadau sy'n berthnasol i'ch gwaith newyddiadurol a sut i ymchwilio gwybodaeth am gysylltiadau dichonol
- sut mae deddfau diogelu data a rheoliadau cyfredol yn llywodraethu pa wybodaeth am unigolion gellir ei gadw, a sut gallwch ei ddefnyddio
- yr wybodaeth ofynnol i'w feddiannu a'i gadw ynghylch cysylltiadau, gan gynnwys eu henw, manylion cyswllt a rheswm dros eu cynnwys
- sut i ddiogelu ffynonellau a chysylltiadau
- sut i wirio credadwyedd ac uniondeb eich cysylltiadau, ynghyd â pherthnasedd a chylchrediad yr wybodaeth maen nhw'n ei gyflwyno
- sut i ymdrin ag a mynd i'r afael â chysylltiadau er mwyn ichi fanteisio i'r eithaf arnyn nhw
- ffyrdd effeithiol o ymdrin â chysylltiadau a phobl eraill sy'n gwrtais, cyfeillgar, ymosodol neu frwnt eu tafod
- gwahanol ddulliau i'w defnyddio er mwyn cynnal perthnasau gwaith effeithiol gyda chysylltiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb
- y risgiau ynghlwm â defnyddio cyfryngau cymdeithasol a faint o wybodaeth ddylech chi ei ddatgan ar-lein
- y gefnogaeth sydd ar gael ichi gan eich mudiad
- gweithdrefn cwynion eich mudiad
- y gofynion cyfreithiol a chodau diwydiant sy'n berthnasol i gysylltiadau a'r cyhoedd cyffredinol