Cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol
URN: SKSJ25
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol i gynhyrchwyr, golygwyr neu gomisiynwyr mewn ffordd sy'n broffesiynol a darbwyllol. Mae'n ymwneud â thrafod prif elfennau eich cyflwyniad yn eglur a'r hyn sy'n gofalu bod eich syniad yn wahanol ac yn arbennig.
Mae'n ymwneud â chyflwyno'r wybodaeth gefndirol angenrheidiol am ymarferoldeb llunio cynnwys, cynhyrchu ac amcan realistig o gostau.
Mae'n ymwneud â dwyn i ystyriaeth cyfyngiadau cyfreithiol a hawlfraint berthnasol ynghyd â chodau ymarfer cyfredol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio achosion neu gyflwyniadau ar gyfer cynnwys golygyddol sy'n gymhellol, cryno a rhesymegol
- cynnig gwybodaeth gefndirol gywir a pherthnasol ynghyd ag amcanion realistig o gostau
- i gefnogi cynigion, gofalu bod y syniadau'n cydymffurfio gyda chyfyngiadau cyfreithiol a hawlfraint berthnasol ynghyd â chodau ymarfer cyfredol
- cyflwyno'ch cynigion ar ffurf briodol
- gofalu bod y cyflwyniad o syniadau neu sgriptiau yn adnabod elfennau'r cynnwys i'w lunio mewn ffordd eglur a chywir
- gofalu bod cynigion yn bodloni'r cyfyngiadau o ran amser a chyllideb
- cynnig digon o amser i wneuthurwyr penderfyniadau i ofyn cwestiynau a gofyn am ragor o wybodaeth
- addasu neu ddiwygio eich cynnig yn sgil derbyn adborth a derbyn beirniadaeth mewn ffordd gadarnhaol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwybodaeth am y gynulleidfa a marchnad ddichonol, arddull golygyddol, dull a ffurf
- sut i ddangos bod y syniad neu sgript yn wreiddiol ac yn bodloni gofynion cynnwys golygyddol
- sut i gynnig cyflwyniadau cymhellol, cryno a rhesymegol i wahanol dderbynwyr
- sut i adnabod a pharatoi gwybodaeth gefndirol berthnasol
- sut i amcan costau llunio cynnwys a chynhyrchu
- sut caiff syniadau eu gwireddu mewn gwahanol amgylcheddau
- cost a goblygiadau technegol a logistaidd rhoi syniadau ar waith
- y gofynion o ran hyd, arddull, cynulleidfa a braced cost cynnwys
- y prif ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth
- y cyfyngiadau hawlfraint perthnasol
- agweddau perthnasol codau ymarfer newyddiadurol cyfredol
- sut i baratoi ar gyfer cwestiynau gan wneuthurwyr penderfyniadau
- sut i ddiwygio cynigion ar sail adborth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ25
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Cyflwyno, Cynnwys, Newyddiaduriaeth